Cwpl o Gaerdydd yn gadael 'bywyd prysur a chyffrous' i ffermio ar Ynys Enlli

Gwyndaf a Georgina ar Ynys EnlliFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwyndaf a Georgina yn symud i Ynys Enlli ym mis Hydref

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl o Gaerdydd yn gadael eu gyrfaoedd ym maes y cyfryngau i fod yn ffermwyr ar Ynys Enlli.

Ym mis Hydref, bydd poblogaeth yr ynys yn dyblu wrth i Gwyndaf Hughes a Georgina Rannard symud yno i ofalu am y gwartheg a'r defaid, a chyfrannu at warchod ei chynefinoedd prin.

Bydd yn golygu gadael y brifddinas, lle maen nhw wedi bod yn gweithio fel gohebydd a dyn camera yn dilyn straeon hinsawdd a gwyddoniaeth i'r BBC.

Dywedodd Gwyndaf, a gafodd ei fagu ym Mhen Llŷn, fod "y cyfle i weithio ym myd natur a symud yn ôl i'r ardal yn un gwerth chweil".

Disgrifiad,

Cyfle i fynd i Ynys Enlli yn un rhydd dda i'w golli

Wedi'i lleoli oddi ar arfordir gogledd orllewin Cymru, mae Ynys Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Noddfa Awyr Dywyll.

Bydd Georgina a Gwyndaf yn cymryd yr awenau oddi wrth Gareth a Meriel Roberts, sydd wedi gofalu am y fferm dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Bu Gwyndaf yn helpu ar fferm ei daid a'i nain ym Mhen Llŷn o oedran ifanc iawn.

Ymunodd â'r BBC yn 2009 ac yn 2021 symudodd i'r tîm hinsawdd a gwyddoniaeth fel person camera a golygydd yn gweithio ledled y DU a dramor.

Yn newyddiadurwraig brofiadol, cafodd Georgina ei geni a'i magu yn Lerpwl. Mae hi wedi byw yng Nghymru ers 2021 ac yn dysgu Cymraeg.

Bydd y cwpl yn cychwyn eu gwaith ar yr ynys wrth i'r wardeniaid llawn amser newydd, Aron Llwyd a Lois Roberts, gwblhau eu tymor cyntaf yn eu rôl.

"Wnaethon ni weld yr hysbyseb rhyw flwyddyn yn ôl a wnaeth y ddau o' ni feddwl bod rhaid mynd amdana fo," meddai Gwyndaf wrth Cymru Fyw.

"'Da ni'n dau wrth ein boddau bod allan efo byd natur. 'Da ni'n garddio yn yr allotment a'n tyfu llysiau a ballu."

Ychwanegodd: "Mae cael y cyfle i fynd i Ynys Enlli wedi gweithio allan yn un ffantastig ond hefyd y cyfle i fynd yn ôl adref at Ben Llŷn.

"Fyddai wrth fy modd trio mynd i weithio ar fferm fel yr oedd Nain a Taid yn gwneud pan o'n i'n tyfu i fyny ar y Llŷn."

Gwyndaf a GeorginaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwpl wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau fel gohebydd a dyn camera yn dilyn straeon hinsawdd a gwyddoniaeth i'r BBC

Mae Gwyndaf yn cydnabod y bydd eu bywyd newydd ar yr ynys yn dipyn o gyferbyniad i'w "bywydau prysur a chyffrous" yn y ddinas.

"'Da ni'n byw bywyd prysur ar y funud yn ffilmio ac yn darlledu ar gyfer y BBC o gwmpas y DU a'r byd," meddai.

"'Da ni 'di bod yn gwneud hynna am 'chydig o flynyddoedd rŵan a fydd hi'n braf cael cysylltu'n well gyda byd natur ar Enlli, ond hefyd i fod yn rhan bwysig o gymuned bach o siaradwyr Cymraeg.

"'Da ni'n dau wedi bod wrth ein boddau yn y swydd 'da ni ynddi rŵan. Mae'n fywyd prysur a chyffrous ond 'da ni'n dau wedi bod isio gweithio ym myd natur a cael gweithio ar un prosiect a gweithio mewn un lle."

Dywedodd bod "canolbwyntio ar un lle ac un cymuned yn gyfle 'da ni isio ei drio" ar ôl teithio a "gweld gymaint o bethau gwahanol tra'n gweithio yn y cyfryngau".

Gwyndaf yn ystod ei ymweliad diwethaf i'r ynys ym mis MawrthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf yn ystod ei ymweliad diwethaf i'r ynys ym mis Mawrth

Er fod y ddau yn awyddus i ymgolli eu hunain ym myd natur Enlli, dywedodd Gwyndaf nad ydyn nhw'n "gweld o fel cyfle i ddenig".

"'Da ni'n gweld o fel cyfle i weld rhywbeth newydd, i fod yn rhan o gymuned newydd," meddai.

"Mae o'n newid mawr iawn. 'Da ni'n siarad hefo ffrindiau, teulu ac mae pawb wrth eu boddau ond mae rhai pobl yn meddwl bo' ni'n hollol nuts.

"Mae mwy o bobl, mwy o ffrindiau a theulu, isio dod i weld ni ar Ynys Enlli na be' sydd wedi gwneud dros y pum mlynedd diwethaf yng Nghaerdydd.

"'Da ni'n edrych ymlaen i groesawu pobl newydd i Enlli."

GoerginaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld ag Enlli yn gwybod pa mor arbennig ydi'r ynys," meddai Georgina

Mae'r heriau y bydd y cwpl yn eu wynebu yn eu bywyd newydd ar yr ynys yn rhan o'r apêl, yn ôl Gwyndaf.

"Byw ar ynys hefo dim ond pedwar o bobl, yn amlwg ti am gael lot o amser i feddwl. Fydd hi'n dipyn o newid i gael yr amser tawel a gwario'r amser efo'r môr, yr adar a'r anifeiliaid," meddai.

"'Da ni'n edrych ymlaen i weld sut fydd bywyd ar ynys fach - pan 'da ni'n ganol storm, yn ganol gaeaf, 'da ni'n edrych ymlaen i fyw trwyddo fo.

"'Da ni isio gweld os allwn ni wneud o ac os yda ni am fwynhau o - da ni'n gobeithio bod ni, gawn ni weld."

Ychwanegodd Georgina: "Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld ag Enlli yn gwybod pa mor arbennig ydi'r ynys.

"Mae blynyddoedd o adrodd ar faterion natur, gwyddoniaeth a hinsawdd ar hyd a lled y byd wedi dysgu i ni pa mor hanfodol ydi diogelu'n byd naturiol.

"Rydw i yn edrych ymlaen at gael mynd ati i weithio ac i helpu i warchod amgylchedd mor unigryw.

"Bydd bywyd ar ynys fechan, heb gysylltiad â'r grid yn dod â'i heriau, ond roedd y cyfle i ymuno â chymuned Gymraeg fel un Enlli, a gweithio i sicrhau bod yr adar a'r anifeiliaid yn ffynnu am flynyddoedd i ddod, yn rhywbeth nad oedden ni yn gallu ei wrthod."

Ynys EnlliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caiff pobl eu cario ar gwch yn ôl ac ymlaen o Ynys Enlli i Borth Meudwy, ger Aberdaron ym Mhen Llŷn

Wrth ffarwelio â bywyd ar yr ynys, dywedodd Gareth Roberts bod yr "amser wedi dod i mi drosglwyddo'r cyfrifoldebau a'r pleser" o ffermio ar Enlli.

"Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o fywyd yr ynys am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn.

"Gall fod yn her dod o hyd i'r bobl iawn, yn enwedig pan fod rhaid wynebu anawsterau o ran y tywydd, unigrwydd yr ynys, yn ogystal â delio â'r gwaith ei hun a phwysigrwydd gwneud pethau yn iawn.

"Treuliodd Georgina a Gwyndaf amser gyda ni yn y gwanwyn yn ystod tymor wyna, ac roeddwn i wedi fy mhlesio efo'u hagwedd, eu gallu a'u hysbryd. Rwy'n hyderus mod i'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb i ddwylo diogel. Ond, fyddai ddim yn bell i ffwrdd, ac wrth law i'w helpu os oes angen."

Aron a LoisFfynhonnell y llun, Lois Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aron a Lois ydy wardeiniaid Ynys Enlli

Dywedodd Siân Stacey, Prif Swyddog Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Georgina a Gwyndaf i Enlli. Ynghyd â Lois ac Aron, mi fyddan nhw yn ffurfio cenhedlaeth newydd o drigolion yr ynys.

"Mae bron i 50 mlynedd ers i'r Ymddiriedolaeth brynu'r ynys, felly mae'n briodol ein bod ni rŵan yn edrych tua'r dyfodol efo strategaeth newydd sy'n canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth yr ynys wrth greu cymuned gynaliadwy yma ar gyfer y dyfodol.

"Mae dyblu poblogaeth Enlli yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni ein gweledigaeth. Mae'n cyd-fynd â'n ymrwymiad i gadwraeth, treftadaeth, a chynaladwyedd yn ogystal â chroesawu ymwelwyr i brofi'r lle anhygoel hwn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig