Heddlu'n chwilio am fam ar ôl canfod corff babi ar lan y Fenai

Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn chwilio am fam ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod ar lan y Fenai ym Mangor.
Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ger Ffordd Siliwen toc cyn 17:00 ddydd Sul.
Dydy Heddlu'r Gogledd ddim wedi datgelu unrhyw fanylion am y plentyn.
Dywedodd y llu bod ymgyrch i ddod o hyd i'r fam ar y gweill.

Mae ymholiadau o dŷ i dŷ ar y gweill ym Mangor
Mewn apêl ar y cyd gyda'r heddlu, mae staff o fwrdd iechyd gogledd Cymru yn dweud bod ganddyn nhw bryderon am iechyd y fam ac yn ei hannog i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd eisiau adnabod tad y plentyn, yn ogystal â theulu a ffrindiau'r ddynes a allai fod â gwybodaeth bwysig.
Mae ymholiadau o dŷ i dŷ ar y gweill ym Mangor ac mae'r heddlu'n archwilio delweddau teledu cylch cyfyng (CCTV) am unrhyw fanylion perthnasol.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gan y Swyddfa Gartref gael ei gynnal ar y babi ddydd Mercher.
Heddlu'n chwilio am fam ar ôl canfod corff babi ar lan y Fenai
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau i Ferched ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod "pryderon gwirioneddol ynghylch iechyd y fam".
"Rydym yn cydnabod ei bod yn debygol o fod yn fregus iawn. Efallai ei bod yn ofni ceisio'r gefnogaeth sydd ei hangen arni, rhag ofn y bydd yn datgelu pwy ydy hi."
Gan apelio at y fam yn uniongyrchol, dywedodd: "Yn gyntaf, hoffwn i chi wybod mai eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles yw ein prif bryder ar hyn o bryd.
"Rydym yn deall efallai eich bod yn teimlo'n ofnus neu'n ansicr ynghylch beth i'w wneud nesaf.
"Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych unrhyw le i droi, neu na allwch siarad ag unrhyw un am yr hyn sydd wedi digwydd. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.
"Nid ydym yn gwybod eto yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â marwolaeth eich babi, ond yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw ein bod yn dod o hyd i chi, yn sicrhau eich bod yn ddiogel, ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch."
Ychwanegodd: "Rwy'n gofyn i chi yn bersonol, os gwelwch yn dda, i gysylltu â ni. Gallwch siarad â gweithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd, mynd at swyddog heddlu neu fynd i orsaf heddlu."

Dywedodd y Ditectif Sarjant Kelly Wynne: "Rydym yn pryderu efallai nad yw mam y babi mewn sefyllfa i geisio cymorth, felly rydym yn apelio'n uniongyrchol ati hi, at y tad ac at y rhai a allai fod â gwybodaeth, fel ffrindiau, teulu, cymdogion neu gydweithwyr.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth am fenyw neu ferch y credwch y gallai fod wedi bod yn feichiog, neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol dros y misoedd diwethaf – gan gynnwys ymbellhau oddi wrth ffrindiau, teulu neu gysylltiadau cymdeithasol – cysylltwch â ni.
"Rydym yn deall bod camu ymlaen yn anodd, ond nid yw peidio â gweithredu yn opsiwn.
"Mae'r fam angen cymorth. I unrhyw un sydd â gwybodaeth: mae angen i chi wneud y peth iawn i sicrhau bod y fam hon yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen arni.
"Bydd yr holl enwau a fydd yn cael eu derbyn yn cael eu trin gyda'r disgresiwn mwyaf, a gellir eu diystyru fel y fam heb oedi."
Mae'r llu'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw drwy alw 101 a nodi Operation Melex.
Gall bobl hefyd gysylltu â'r llu ar-lein a thrwy'r elusen Crimestoppers, yn ogystal â'r bwrdd iechyd yn ystod yr wythnos drwy alw 03000 851 234.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.