Adam Price eisiau 'gwerthu' Cymru o amgylch y byd

Cynllun Adam Price, meddai, ydy gwerthu Cymru o amgylch y byd
- Cyhoeddwyd
Mae Adam Price, aelod cabinet Plaid Cymru, yn dweud mai ei gynllun ef ac y prif weinidog ydy gwerthu Cymru o amgylch y byd - yn y modd y gwnaeth Awdurdod Datblygu Cymru (ADC) ynghynt, cyn iddo gael ei ddiddymu 20 mlynedd yn ôl.
Mr Price ydy'r gweinidog sy'n gyfrifol am fenter, cysylltedd ac egni ac mae wedi cadarnhau y bydd asiantaeth lywodraethol newydd yn cael ei sefydlu er mwyn cynnig "un drws" ar gyfer unrhyw gymorth y mae cwmnïau ei angen ar gyfer tyfu gweithrediadau yng Nghymru.
Roedd yr ADC yn llwyddiannus mewn denu cwmnïau gweithgynhyrchu o dramor, ond fe wnaeth gweinidogion gael gwared â'r awdurdod yn 2006.
Fe wnaeth Mr Price gydnabod bod economi Cymru wedi newid llawer ers hynny, ond dywedodd fod "angen injan ac roedd ADC yn llwyddiannus iawn mewn nifer o ffyrdd, wrth yrru buddsoddiad yn ei flaen yn enwedig a gweithio gyda gweithgynhyrchiant".
'Rydyn ni'n werthwyr da'
Bu Adam Price yn byw yn Boston am ddwy flynedd, meddai.
"Pob tro'r oeddwn i'n cwrdd â rhywun ac yn cyflwyno fy hun a hwythau'n clywed fy mod i o Gymru, roedden nhw'n holi am beth ddigwyddodd i'r ADC.
"O ran marchnata, rhoddodd e' Gymru ar y math yna o blatfform byd-eang. Felly gwnaethon ni hynny o'r blaen a gallwn ei wneud e' eto.
"A chi'n gwybod beth? Rydyn ni'n eithaf da am werthu a dweud y gwir, rydyn ni'n werthwyr eithaf da yng Nghymru.
"Ni'n gwybod sut i adrodd stori'n dda ac mae hynny'n rhan o'r darn."

Adam Price ydy'r gweinidog sy'n gyfrifol am fenter, cysylltedd ac egni yn Senedd Cymru
Tydi'r manylion am yr asiantaeth newydd heb eu cyhoeddi eto, ond - fel y ffocws rhyngwladol - bydd yn gweithio ar draws Cymru gyda chynlluniau rhanbarthol a lleol.
Bydd yr asiantaeth yn adeiladu ar bocedi o lwyddiant gweithgynhyrchu mwyaf blaenllaw'r byd, mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, awyrenneg a sectorau llwyddiannus eraill fel gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd.
Bydd yn delio â phroblemau hefyd, gan gynnwys cysylltu â gridiau pŵer, oedi yn y system gynllunio, cysylltiadau trafnidiaeth a mynediad at gyllid.
Nod Mr Price i ddechrau, meddai, ydy gwneud Cymru'r lle gorau yn y DU, tyfu a buddsoddi mewn busnes.

Cafodd Cabinet Llywodraeth Cymru eu henwi ar 13 Mai
Mae creu quango newydd yn golygu y bydd gwrthwynebiad cryf gan Reform UK yn anochel.
Bu Reform yn siarad dro ar ôl tro yn ystod ymgyrch y Senedd, yn dweud bod angen lleihau'r nifer o asiantaethau llywodraeth.
Roedd pryderon wedi bod hefyd, ynghylch perfformiad yr ADC a'i allu i addasu i natur newidiol economïau, cyn iddo gael ei ddileu yn y pen draw.
Fe wnaeth Mr Price ddatgan cynlluniau'r llywodraeth eto, i ddiwygio trethi busnes er mwyn ceisio gwella cyfraddau deiliadaeth ar y stryd fawr.
Bydd ail-gydbwyso gyda manwerthwyr o'r tu allan i'r dref yn talu mwy, meddai.
Ar y pwynt o barhad disgowntiau ardrethi busnes ar gyfer y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, dywedodd mai helpu oedd y "cyfeiriad".
'Defnyddio fe neu ei golli e'
Ychwanegodd Adam Price fod gan bawb rôl i'w chwarae wrth helpu eu stryd fawr leol.
"Fi'n credu bod y neges o 'ddefnyddio fe neu ei golli e' yn neges y gallwn ni i gyd ei deall, yndyw hi?
"Felly os ydym yn poeni am fusnesau lleol, os ydym yn poeni am fusnesau yng nghanol ein trefi, mae'n bwysig mewn cymaint o wahanol ffyrdd ein bod ni i gyd yn rhoi ein punt yn yr economi leol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Mai
