Ateb y Galw: Cai Fôn Davies

- Cyhoeddwyd
Cai Fôn Davies o Fangor sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Cai i'w weld ar hyn o bryd fel un o'r athrawon yn y gyfres o'r un enw ar S4C.
Mae'n athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Y Creuddyn, Sir Conwy ac mae hefyd yn aelod o gôr Johns' Boys.
Mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau perfformio a sawl Eisteddfod dros y blynyddoedd.
Felly, dyma ddod i adnabod Mr Davies ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf i oedd fy niwrnod cyntaf yn fy ysgol gynradd, sef Ysgol y Garnedd ym Mangor. Dw i'n cofio Dad yn mynd â fi i'r ysgol, a finna'n cicio, strancio ac yn gwrthod mynd i mewn…
Felly dyma Dad druan yn gorfod gafael yn fy llaw a mynd i mewn i'r ysgol hefo fi. Wedi i mi setlo, mi welodd Dad ei gyfle i sleifio allan heb i mi sylwi… a dyma fi'n dechra crïo eto a chyfogi! Fel mae petha'n newid dros amser!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Roman Camp ym Mangor. Mae'r golygfeydd yno o'r Fenai a Sir Fôn ar ddiwrnod braf yn odidog.

Mae'r olygfa o'r Roman Camp ym Mangor yn agos at galon Cai
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mi fydd dydd Sadwrn, Mehefin y 1af, 2019, yn aros yn y co' am beth amser. Nid yn unig i Lerpwl ennill Cynghrair y Pencampwyr y diwrnod hwnnw, ond mi wnes i hefyd glywed i mi gael fy newis i fod yn un o'r chwech a fyddai'n cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel y flwyddyn honno.
Yn nhafarn yr Eli Jenkins ym Mae Caerdydd oeddwn i pan glywais y newyddion, a hynny ar ôl cael diwrnod i'w gofio yn cystadlu yn unigol a hefo Aelwyd JMJ yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Roeddwn i wedi rhedeg yno ar ôl gorffen cystadlu hefo'r Aelwyd er mwyn dal cic gynta'r gêm. A minnau ar ben fy nigon fod Lerpwl yn curo hanner amser, dyma fi'n digwydd ateb galwad ffôn gan Non, fy chwaer fach.
Wna i byth anghofio'r sgwrs gawson ni – 'Ti'm 'di clwad?!', gofynnodd, a minnau'n ateb - 'Do! Ma' Lerpwl yn curo – dwi'n ei wylio fo'n fama!'… cyn iddi ateb, 'Na! Dim am hynna dwi'n sôn! Ti drwodd i Ysgoloriaeth Bryn Terfel!'
Roeddwn i'n methu credu'r peth!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymro i'r carn.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Johns' Boys yn dod i'r brig yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Llangollen, eto yn 2019. 'Rydw i'n cofio gwylio'r gystadleuaeth ar y teledu pan oeddwn i'n iau, a dotio at yr holl bobl oedd yn dod o bob cwr o'r byd i gystadlu yn Llangollen.
Roedd cystadlu yng Nghôr y Byd – heb sôn am ennill y gystadleuaeth honno – yn gwireddu breuddwyd. Wna i byth anghofio'r floedd pan ddaru nhw gyhoeddi mai ni fyddai'n codi Tlws Pavarotti – anhygoel!

Johns' Boys yn ennill Côr y Byd yn Llangollen
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae 'na dipyn o ddigwyddiadau sydd wedi codi cywilydd arna i dros y blynyddoedd, ond mae anghofio fy ngeiriau ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn gorfod bod yn eitha' uchel i fyny'r rhestr.
Llefaru o'r Ysgrythur oeddwn i, a dw i'n cofio mai stori Iesu'n gweddïo yng Ngesthemane oeddwn i'n ei hadrodd. Arwyddocâd y stori honno, wrth gwrs, ydi fod Iesu'n mynd i ffwrdd i weddïo ar ei ben ei hun dair gwaith, ond yn fy fersiwn i, dim ond dwywaith wnaeth Iesu weddïo… wps!
Wnes i ddim stopio, diolch byth, ond dw i'n gwybod i bawb sylweddoli'r camgymeriad yn syth.
Dw i'n meddwl i mi wneud i fyny am hyn yn hwyrach ymlaen yn yr wythnos, er hynny, drwy ennill Gwobr Goffa'r Fonesig Ruth Herbert Lewis a Gwobr Goffa Richard Burton.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Rhyw bythefnos yn ôl, mewn cyngerdd hefo Johns' Boys yng Nghaerdydd. Ar ddiwedd pob un cyngerdd, mae pawb yn canu'r anthem, ac yna mae Aled, ein harweinydd, yn rhoi ei law i fyny i ni er mwyn gadael i'r gynulleidfa ganu'r cytgan gynta' ar eu pennau eu hunain cyn ein bod ni'n ymuno'n ôl yr ail dro.
Mae'r wal o sŵn sy'n eich hitio chi yn wefreiddiol, ac fel maen nhw'n ddeud yn Rhos, dw i'n llardie bob tro mae hyn yn digwydd!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Faint o amser sydd gennych chi?! Tasa 'na fedal aur yn y Gemau Olympaidd am dindroi (sef y gair Cymraeg gwych am 'procrastinate-io'), dw i'n meddwl y byddwn i'n dod yn agos iawn iawn at y brig.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dw i'n cofio astudio nofel The Great Gatsby fel rhan o'r cwrs Llenyddiaeth Saesneg Lefel A, a syrthio mewn cariad hefo arddull farddonol ysgrifennu F. Scott Fitzgerald.
A dw i wrth fy modd hefo'r sioe gerdd newydd sydd newydd cael ei gwneud amdani yn ddiweddar.
Dw i'n aros yn America hefo fy newis o hoff ffilm, sef Shawshank Redemption.
Mae geiriau cymeriad Andy Dufresne (sy'n cael ei actio gan Tim Robbins) wedi aros gyda mi ers i mi wylio'r ffilm gynta' 'chydig o flynyddoedd yn ôl… 'hope is a good thing, maybe the best of things, and no good thing ever dies.'
O ran podlediadau, dw i wrth fy modd yn gwrando ar The Rest Is History neu The Anfield Wrap (podlediad am glwb pêl-droed Lerpwl) a hynny yn aml ar fy ffordd i'r gwaith ar yr A55 yn y bore.

Mae Cai yn hoff iawn o The Great Gatsby gan F.Scott Fitzgerald
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Mi fyddwn i'n hoffi holi Nain yn dwll am gymeriadau Bangor a'i phlentyndod, a mi fyddwn i'n hoffi gofyn llawer iawn o gwestiynau i Taid am ei gyfnod yn India yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mi fyddwn i hefyd yn hoffi cael diod gyda fy Yncl Alun, a'i holi am ei gyfnod yn gweithio fel athro yn Ysgol y Shah yn Iran, a phan y bu'n rhaid iddo adael Iran gyda dim ond siwtces bach pan ddaeth yr Ayatollah i rym yn 1979.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n siŵr fod dipyn o bobl yn gwybod hyn erbyn hyn, ond nid fy enw cynta' i ydi 'Cai' (na 'Collins' 'chwaith… Os ydych chi wedi gwylio 'Athrawon', mi fyddwch chi'n deall y jôc yna!)
Fy enw cynta' ydi 'Osian', sydd wedi achosi dryswch i lawer iawn o bobl ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys i mi fy hun pan 'roeddwn i'n cael gwersi nofio ym Mhlas Arthur yn Llangefni erstalwm.
Byddai'r hyfforddwr nofio yn gweiddi 'Osian' a fyddwn i ddim callach! Dw i'n cofio i fy enw cyntaf i hefyd achosi trafferth wrth i mi geisio mynd i mewn i'r Unol Daleithiau ar drip ysgol unwaith, a hynny am fod fy mhasbort i'n dweud 'Osian Cai Fôn Davies' a bod tocyn yr awyren yn dweud 'Cai Davies'.
Roedd yr Americanwyr yn meddwl eu bod yn ddau berson gwahanol!
Un stori fach arall ynglŷn â fy enw i ydi fod Dad wedi bod yn awyddus iawn (ar un adeg, mae'n debyg) i fy ngalw i'n 'Brân'… Â minnau wedi dod i hoffi perfformio ac yn bum troedfedd tri modfedd o daldra, dw i'n meddwl i mi fod yn lwcus i Mam ei ddarbwyllo i fy enwi'n 'Osian Cai' yn lle.
Dychmygwch Dei Tomos yn yr Eisteddfod yn cyhoeddi 'nesa' i ganu ar yr Unawd Bl. 5 a 6, mae Brân!', gyda hogyn byr yn dod ar y llwyfan yn lle cawr!

Cai ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol gyda'i rieni
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am bicnic i Ynys Llanddwyn a threulio amser yng nghwmni fy nheulu, fy ffrindiau a Nico, fy nghi, yn yr heulwen.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun o Dad a fi y tu allan i Stadiwm Bollaert-Delelis yn Lens, a hynny ar ôl i Gymru golli 2-1 yn erbyn Lloegr yn Ewro 2016.
Roeddwn i newydd orffen fy arholiadau TGAU yr haf hwnnw ac wedi mynd i Ogledd Ffrainc hefo Dad ar y bws (!) yr holl ffordd o Wrecsam i Dover, yna drosodd i Calais cyn cyrraedd Lens ei hun – am siwrne!
Wna i fyth anghofio gwylio cic rydd Gareth Bale oedd reit o'n blaenau ni.
Wrth i Dad a finna' gael tynnu ein llun, dyma ddau Sais doeddwn i'n eu hadnabod o gwbl yn ein 'photobombio' ni – atgofion melys o haf fythgofiadwy.

Cai yn yr Euros yn Ffrainc yn 2016 yn tynnu llun gyda dau gefnogwr Lloegr ar ddiwedd gêm Cymru a Lloegr
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dw i reit hapus yn fy nghroen fy hun, a dweud y gwir, ond taswn i'n gorfod dewis, mi fyddwn i'n dewis bod yn enillydd y Loteri.
Yr unig reswm am hynny yw y byddai gen i hen ddigon o arian wedyn i brynu ac ariannu Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876, gan wneud yn siŵr eu bod yn ennill Uwchgynghrair Cymru yn y pen draw!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
