Drama Aberfan sydd am golled, ond hefyd cymuned, merched a chyfeillgarwch

Mirain Haf Roberts yn The Revlon GirlFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mirain Haf Roberts yn The Revlon Girl

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 60 mlynedd ers trychineb Aberfan ar 21 Hydref 2026, ac mae drama sy'n dilyn hanes grŵp o fenywod y pentref wedi'r drychineb yn ôl ar lwyfannau Cymru.

Cafodd The Revlon Girl gan Neil Anthony Docking ei pherfformio gyntaf 10 mlynedd yn ôl, ac mae'n seiliedig ar stori wir rhai o'r mamau fu'n cyfarfod yn wythnosol wedi'r drychineb.

Bu farw 144 o bobl yn Hydref 1966 pan lithrodd tomen wastraff glofaol ar y pentref.

Bu aelod o'r cast, yr actores Mirain Haf Roberts, yn siarad am y ddrama ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

"Pan oedd Neil [Anthony Docking] yn gwneud gwaith ymchwil i'r ddrama, roedd o'n gwybod bod o isio sgwennu rhywbeth i nodi yr 50 mlwyddiant, 10 mlynedd yn ôl.

"Wnaeth o weld bod 'na grŵp o'r mamau wedi penderfynu cyfarfod yn wythnosol. Y bwriad i ddechra' ganddyn nhw oedd i sefydlu committees er mwyn helpu, ond wnaethon nhw sylweddoli bod pobl yn barod wedi cychwyn bron bob pwyllgor posib ar gyfer be' oedd angen ei wneud.

"Felly wnaethon nhw sylweddoli maen nhw angen rwla i gyfarfod lle maen nhw'n medru crio efo'i gilydd a mae pobl yn dallt. Ond hefyd be' oedd yn bwysig iddyn nhw oedd bod nhw'n cael chwerthin efo'i gilydd a ddim teimlo'n euog am chwerthin.

"Ac wedyn wnaethon nhw ddechra'r grŵp yma fel grŵp cymdeithasol rili."

Mirain mewn ymarferion The Revlon GirlFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mirain mewn ymarferion The Revlon Girl

Gan gyfarfod uwchben gwesty lleol mi benderfynodd y mamau wahodd pobl i fewn i siarad gyda nhw, yn ôl Mirain.

"Oedden nhw'n teimlo bod nhw 'di anghofio sut i edrych ar ôl eu hunain neu sut i wneud eu hunain i deimlo'n dda so wnaethon nhw gael rhywun i ddŵad i roi tips colur a chroen iddyn nhw."

Gyda ffatri Revlon yn y gymuned, mi wnaeth Neil ddewis y teitl The Revlon Girl gan ddyfalu y byddai rhywun o Revlon wedi ymweld gyda'r grŵp.

The Revlon GirlFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o The Revlon Girl

Meddai Mirain: "Mae'r cyfarfod ei hun yn ddigwyddiad gwir. Mi wnaethon nhw ofyn i rywun ddŵad i rhoi tips colur ond dydi'r ddrama ddim am Revlon, am makeup nac am skincare.

"Mae o am alar, mae o am golled, colli plant yn enwedig. Ac mae o am gymuned hefyd, a merched a chyfeillgarwch.

"Mae tair o'r merched yma yn yr ysgol efo'i gilydd, maen nhw'n ffrindiau oes. A wedyn, be' mae colled a galar yn 'neud i bobl. Felly mae o'n dod â theimladau hyll i'r wyneb.

"Mae unrhywun sydd wedi colli unrhyw un, yn enwedig plentyn, yn gwybod fod yna deimladau hyll yn berwi o dan yr wyneb, yn enwedig wyth mis ar ôl y digwyddiad.

"A'r straen mae hynna'n rhoi ar gyfeillgarwch a'r gymuned a'r teulu. 'Dan ni'n clywed am berthynas anodd un o'r merched efo'i gŵr a sut mae o 'di effeithio eu perthynas nhw.

Cast The Revlon Girl yn ymarferFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cast The Revlon Girl yn ymarfer

"A wedyn mae o am y galar rili ond bod y ffaith bod hyn yn digwydd hefyd yn golygu bod 'na fannau lle 'dan ni'n cael chwerthin.

"Ac mae pobl yn ysu am yr eiliadau yna achos yn amlwg mae'n stori ingol a mae'n ddirdynnol."

Bydd y ddrama The Revlon Girl i'w gweld ym Mwllheli, Treorci, Llanelli, Caergybi, Abertyleri, Coed-duon a Chasnewydd ac hefyd yn Finsbury Park yn Llundain.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb