Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd

Mayzee Davies (canol) roddodd Cymru ar y blaen - dyma oedd ei gôl gyntaf dros ei gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2027 ar ôl trechu Albania o 3-0 yn Llanelli (4-0 ar gyfanswm goliau).
Roedd gan Gymru fantais yn mynd mewn i'r gêm nos Fawrth wedi buddugoliaeth o 1-0 yn y cymal cyntaf draw yn Shkoder.
Adeiladu ar y fantais honno wnaeth tîm Rhian Wilkinson gyda pherfformiad ymosodol, creadigol a hyderus ym Mharc y Scarlets.
Mayzee Davies sgoriodd y gyntaf i'r tîm cartref cyn i Elise Hughes a Hannah Cain sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr ail hanner.
Fe fydd Cymru yn wynebu Norwy yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Rhagfyr - ond mae hi dal yn bosib y bydd rhaid iddyn nhw hefyd chwarae gêm ail gyfle rhyng-gyfandirol i sicrhau eu lle ym Mrasil.

Croesiad Lily Woodham o'r asgell dde arweiniodd at gôl Mayzee Davies wedi 33 o funudau
Fe ddechreuodd Cymru ar y droed flaen gan lwyr reoli'r meddiant a chreu hanner cyfleoedd i Mared Griffiths ac Elise Hughes.
Ond er y pwysau cynnar ar amddiffyn Albania ni chafodd golwr yr ymwelwyr, Soffia Kelly, ei gorfodi i wneud unrhyw arbedion o nod yn yr hanner awr gyntaf.
Ond wedi 33 o funudau fe ddaeth y gôl gyntaf hollbwysig diolch i beniad Mayzee Davies.
Methodd Albania â chlirio croesiad Lily Woodham ar ddau achlysur cyn i'r bêl ddisgyn i Davies ger y postyn pellaf.
Roedd Griffiths yn fygythiad cyson lawr yr asgell chwith ac o giciau rhydd, ond ni lwyddodd Cymru i ymestyn eu mantais cyn yr egwyl.

Ymosodwr Sunderland, Elise Hughes sgoriodd yr ail gôl i Gymru.
Nid oedd rhaid aros yn hir wedi dechrau'r ail hanner tan fod Cymru wedi dyblu'r fantais ar y noson.
Yn dilyn gwaith da lawr yr asgell chwith gan Mared Griffiths unwaith eto, llwyddodd Elise Hughes i daro'r bêl heibio'r golwr ger y postyn agosaf.
Gyda'r hyder yn llifo, bron i Sophie Ingle sgorio'r drydedd dau funud yn ddiweddarach ond roedd ei hergyd yn wastraffus o safle addawol.
Cafodd Mared Griffiths gyfle euraidd i sgorio wedi bron i awr o'r gêm hefyd ar ôl i'r bêl ddisgyn wrth ei thraed yng nghanol y cwrt cosbi, ond gyda'r un amddiffynnwr yn agos iddi fe darodd y bêl heibio'r postyn pellaf.
Daeth y drydedd yn y pendraw wrth i Hannah Cain daro'r bêl i mewn o bum llath ar ôl i'r golwr wyro croesiad Woodham i'w chyfeiriad.
Parhau i ymosod gwnaeth Cymru yng nghyfnod ola'r gêm - fe darodd Rachel Rowe y postyn gyda pheniad celfydd - ond roeddynt hefyd yn broffesiynol iawn y ffordd llwyddon nhw i rwystro Albania rhag creu unrhyw gyfleoedd gwirioneddol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref

- Cyhoeddwyd8 Hydref

- Cyhoeddwyd25 Medi
