Llysenwau: Eisteddfod y Llwch, Eisteddfod yr Hwch, Eisteddfod y Glaw a mwy...

- Cyhoeddwyd
Dros y blynyddoedd mae nifer o Eisteddfodau Cenedlaethol wedi cael eu bedyddio'n answyddogol gyda llysenwau.
Llysenwau yw'r rhain sydd wedi codi mewn sgyrsiau ar lafar gwlad neu sydd wedi eu creu ar gyfer penawdau bachog gan y wasg.
Ac maen nhw'n ddefnyddiol iawn wrth gyfeirio'n ôl a hel atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol, gan atgoffa rhywun am sut 'Steddfod oedd hi, beth oedd y tywydd, neu beth oedd y pwnc llosg yr wythnos honno.
Gydag Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd ar y gorwel agos, dyma olwg ar 10 o lysenwau Eisteddfodol cyfarwydd a phoblogaidd.
Eisteddfod Y Gadair Ddu
Mae 'Eisteddfod Y Gadair Ddu' wedi ei anfarwoli er mwyn cyfeirio at Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Pan gyhoeddwyd enw'r bardd buddugol o lwyfan Eisteddfod Penbedw bu distawrwydd llethol. Roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos ynghynt a daeth 'Bardd y Gadair Ddu' yn symbol o golled a galar y genedl.

Darlun artist o Eisteddfod Y Gadair Ddu 1876
Ond bu Cadair Ddu yn Eisteddfod Wrecsam yn 1876 hefyd.
Roedd seremoni gadeirio Wrecsam 1876 yn drist a chofiadwy oherwydd roedd y bardd buddugol, 'Eurebius', sef Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw ychydig wythnosau ynghynt.
Mewn poster coffa am y digwyddiad anffodus dywedir mai 'A yw'r awdl wedi ei danfon yn saff?' oedd ei eiriau olaf.
Ar lwyfan y brifwyl gwisgodd y Gorseddogion arwyddion galar gorchuddiwyd y gadair â brethyn du i sain y Dead March.
Eisteddfod Elfed
Eisteddfod Elfed oedd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1888 oherwydd llwyddiant Elfed neu Howell Elvet Lewis.
Enillodd Elfed y goron a dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y rhieingerdd a'r traethawd.

Elfed wrth y llyw fel Archdderwydd
Y flwyddyn ganlynol enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu, cyn ei hennill eto yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1849. Daeth Elfed yn Archdderwydd rhwng 1923 ac 1927.
Eisteddfod Ar Yr Awyr
Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1940 ar y radio, dan yr enw Eisteddfod ar yr Awyr neu'n answyddogol yr Eisteddfod Radio
Gwnaed hyn yn bennaf, gan mai ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal yr Eisteddfod.
Yn anffodus, yno hefyd roedd ffatri gwneud bomiau mwya'r byd, ar y pryd, gyda 37,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.
Ofnwyd fod y dref yn darged i fomiau'r Almaen. Ystyriwyd cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barn y Llywodraeth oedd y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged i awyrenau'r Almaen.

Cystadlu yn y stiwdio ym Mangor yn 'Eisteddfod Ar Yr Awyr'
Darlledwyd yr Eisteddfod o stiwdio Bangor - a hynny drwy wledydd Prydain, a bu sawl côr, yn ogystal ag unigolion a phartion yn cystadlu.
Rhwystrodd y Rhyfel weithredu'r Rheol Uniaith a ddaeth i rym ym 1937.
Oherwydd hynny, siaradodd David Lloyd George yn Saesneg. Yn ei araith dywedodd y frawddeg gofiadwy: "This is the day of the agony of small nations."
Eisteddfod Y Glaw
Mae'n debyg bod sawl 'Eisteddfod y Glaw' wedi bod dros y blynyddoedd, ond mae lluniau o faes Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948 yn tystio iddi haeddu'r llysenw anffodus honno!

Maes gwlyb Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948
Yr Eisteddfwd
Fe alwodd papur newydd Y Cymro Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais 1954 yn 'Yr Eisteddfwd'.

Yr Orsedd yn cyfarfod yn 'Eisteddfwd' 1954
Does dim tystiolaeth yn y llun ond oes rhaid egluro pam?
Eisteddfod Maes B
Eisteddfod Maes B yw'r llysenw ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967 a hynny oherwydd mai yn yr Eisteddfod yma y sefydlwyd Maes B gan rhoi gwersyll unigryw i bobl ifanc Cymru.

Record Y Blew
Y band cyntaf erioed i chwarae ym Maes B oedd Y Blew ac fe wnaethon nhw 'sgwennu cân fel teyrnged i'r gwersyll.
Eisteddfod Y Ddwy Awdl neu Eisteddfod Y Llwch
Mae rhai yn galw Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 yn Eisteddfod y Ddwy Awdl.
Roedd o'n ddigwyddiad wnaeth ysgwyd yr Eisteddfod. Ddeugain mlynedd yn ôl, ym Mhrifwyl Aberteifi 1976, cafodd awdl y Prifardd Dic Jones 'Y Gwanwyn' ei dyfarnu yn fuddugol am y Gadair. Ond, fe ddaeth hi i'r amlwg ei fod o wedi torri rheolau'r gystadleuaeth.
Roedd y bardd lleol o Flaenannerch yn aelod o bwyllgor llên yr Eisteddfod, felly doedd dim hawl ganddo i gystadlu. Yn digwydd bod, roedd bardd arall yn deilwng o'r wobr, Y Prifardd Alan Llwyd.

Cadeirio Alan Llwyd yn '76
Ond roedd haf 1976 yn un poeth iawn ac mae nifer yn ei galw yn Eisteddfod Y Llwch. Yn ôl pob sôn roedd llwch o'r tir sych yn casglu ar geir y meysydd parcio ac ar y stondinau.
Eisteddfod Punt y Peint
Siawns na fydd yna Eisteddfod Punt y Peint fyth eto!
Ond roedd y cwrw'n llifo yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog 1987.

Maes Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog 1987
Doedd dim bar swyddogol ar y maes ond codwyd £1 am beint am y tro cyntaf ychydig cyn yr ŵyl yn y tafarndai cyfagos... a doedd hynny ddim yn fargen yn 1987.
Eisteddfod Yr Hwch neu Abergwaun Y Baw a'r Gwynt
Mae un peth yn siŵr, roedd maes Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986 yn un go fwdlyd. Heb os, roedd angen pâr o welis.

Maes Eisteddfod Yr Hwch... roedd bendant digon o fwd i foch rolio'n fodlon
Roedd hi mor fwdlyd nes roedd angen mwy nag un enw ar hon. Mae'n cael ei chofio fel Eisteddfod yr Hwch (ar ôl englyn Machraeth) a hefyd 'Abergwaun y baw a'r gwynt' ac 'Eisteddfod y Mwd'.
Eisteddod Parc Nest
Fe ddangosodd teulu Parc Nest eu doniau yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995.
Fe gadeiriodd yr Archdderwydd John Gwilym Jones ei fab Tudur Dylan Jones yr wythnos honno.
Yn yr un Eisteddfod fe wnaeth hefyd goroni ei frawd - ac ewythr Tudur Dylan Jones - Aled Gwyn.

Yr Archdderwydd John Gwilym Jones yn cadeirio ei fab Tudur Dylan Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1995. Yn yr un eisteddfod fe wnaeth hefyd goroni ei frawd - ac ewythr Tudur - Aled Gwyn
A dyna pham mae Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995 yn cael ei galw yn Eisteddfod Parc Nest.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Mehefin

- Cyhoeddwyd20 Ebrill

- Cyhoeddwyd19 Mehefin

