Canwr ifanc gorau'r byd yn 'cyflawni gobeithion' ei nain a'i ddysgodd i ganu

Y buddugwr Dafydd Jones o Lanrhaeadr, ger Dinbych, yn y llun gyda'i daid a’i nain John Henry Jones a Brenda JonesFfynhonnell y llun, Rick Matthews
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gobeithion nain a ddysgodd ei ŵyr i ganu wedi cael eu gwireddu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi i Dafydd Jones, mab fferm o Lanrhaeadr, gipio'r wobr am ganwr ifanc gorau'r byd.

Dywedodd ei nain, Brenda Jones: "Ers blynyddoedd, rydyn ni i gyd wedi bod yn dweud wrtho y dylai gystadlu yn yr eisteddfod ryngwladol ac yn awr mae o wedi ennill y brif wobr a chyflawni ein gobeithion. Am noson wych."

Roedd bron i 30 o gantorion o bob cwr o'r byd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth sy'n un o brif ddigwyddiadau'r eisteddfod. Mae'n gystadleuaeth anodd ac yn cynnwys nifer o ragbrofion cyn y rownd derfynol ar ddiwrnod olaf yr ŵyl.

Dafydd Jones yn cystadlu yn Eisteddfod LlangollenFfynhonnell y llun, Rick Matthews

Perfformiodd Dafydd dri darn yn y gystadleuaeth, sef Vainement ma Bien Aimee gan Eduard Lalo; Der Soldat, gan Hugo Wolf, a Llanrwst gan Gareth Glyn.

Wedi iddo glywed ei fod yn fuddugol a fod Victoria Harley o Hull yn Swydd Efrog yn ail, dywedodd y canwr: "Rwy'n falch iawn o ennill, yn enwedig gan fod perfformiad Victoria mor gryf.

"Rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol ac mae cael teitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine ar fy CV yn hwb mawr i'm gyrfa.

"Rŵan fy mod i'n dechrau fel canwr llawrydd, mae angen i mi allu talu am deithiau awyren a chludiant i gyrraedd clyweliadau felly mae'r wobr o £3000 yn help enfawr."

Derbyniodd y canwr ifanc 27 oed wobr o £3000 gyda'i rieni, Elfyn a Meinir Jones, ei daid John Henry Jones ac ei nain, Brenda Jones yn y gynulleidfa. Roeddent wrth eu boddau'n gweld Dafydd yn derbyn y tlws.

Dafydd yn derbyn y tlws gan y noddwr, Mario KreftFfynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn derbyn y tlws gan y noddwr, Mario Kreft

Dywedodd Mario: "Mae fy ngwraig Gill a minnau wedi cefnogi'r gystadleuaeth hon ers 2013 ac rydym bob amser yn rhyfeddu at ansawdd y cantorion ifanc sy'n cymryd rhan.

"Mae llwyfan Llangollen wedi gweld perfformiadau gan fawrion byd opera fel Luciano Pavarotti, a ddaeth i'r Eisteddfod Ryngwladol am y tro cyntaf pan oedd yn blentyn fel aelod o gôr a dychwelodd pan oedd yn oedolyn fel seren operatig.

"Mae'n ddyletswydd arnom i gefnogi Pavarottis yfory, a chynnig llwybr i gantorion ifanc addawol ddod i'r amlwg yn rhyngwladol."

Bydd Dafydd yn teithio i ddinas Firenze yn yr Eidal cyn bo hir i ddechrau ei yrfa fel canwr opera llawrydd i ymuno â chast yr opera mynegiannol Wozzeck. Cyn hynny fe fu'n aelod o'r Bayerische Staatsoper Opernstudio yn Munich, yr Almaen.

Roedd ei nain wedi gweld potensial ynddo ers pan oedd o'n ifanc, gan sylweddoli na allai hi roi'r hyfforddiant digonol iddo felly fe gysylltodd hi â'r canwr a hyfforddwr llais, Brian Hughes i'w helpu.

Dywedodd Brenda: "Unwaith y dechreuodd Brian ei hyfforddi, mi ddechreuodd wireddu ei botensial go iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig