Cymuned Bethel yn 'dod at ei gilydd' i helpu teulu sy'n ddigartref ar ôl tân

Bethel
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym Methel wedi'r tân ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae cymuned yng Ngwynedd wedi dod at ei gilydd i gefnogi teulu sydd wedi colli eu cartref mewn tân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn tŷ ym Methel, ger Caernarfon ddydd Mawrth.

Mae Cymru Fyw ar ddeall na chafodd neb ei anafu ond bod difrod sylweddol i'r adeilad.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael cais am sylw.

Hannah Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Fel mam sydd efo plant mae'n afiach meddwl be maen nhw'n mynd trwy," meddai Hannah Hughes

Mae'r gymuned leol wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r teulu, gan lansio apêl am gyfraniadau.

Yn ogystal â rhoddion o ddillad a nwyddau eraill, mae ymgyrch ar-lein wedi codi dros £7,000 ar gyfer y teulu yn barod.

Un o'r rhai y tu ôl i'r ymgyrch yw Hannah Hughes, o Fethel, a ddywedodd "fel mam sydd efo plant mae'n afiach meddwl be maen nhw'n mynd trwy".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Hannah bod y digwyddiad yn un "hynod drist".

"Mae'r teulu'n byw yn y pentref a 'da ni'n gymuned reit glos. Mae'r fam yn gweithio yn y pentref hefyd yn y caffi cymunedol," meddai.

"Roedd hi'n gweithio ar y pryd pan wnaeth y digwyddiad ddigwydd a 'dan ni ddim yn gwbod yn union be nath ddigwydd ond da ni'n falch bod pawb yn saff.

"Dan ni'n dod at ei gilydd rwan i drio cefnogi nhw - efo gwyliau haf ar y ffordd, mae'n hynod drist a 'dan ni'n trio neud be' fedrwn ni."

Dywedodd gall bobl gyfrannu ar y dudalen Facebook lleol yn ogystal ag i'r gronfa GoFundMe sydd wedi'i sefydlu.

Tân Bethel

Dywedodd y Cynghorydd Sasha Williams: "Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu sydd wedi dioddef yn sgil tân difrifol yn eu cartref.

"Ni allwn ond dychmygu pa mor ofidus yw'r profiad. Mae ein meddyliau gyda nhw wrth iddynt ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.

"Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i'r gwasanaethau brys: y gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r sawl fu'n rhan o'r ymateb.

"Mae eu hymroddiad, eu dewrder, a'u phroffesiynoldeb wedi bod yn amhrisiadwy.

"Yn ogystal, diolch o galon i aelodau'r gymuned sydd wedi dangos caredigrwydd, cefnogaeth ac ysbryd cymunedol drwy gynnig cymorth i'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r ymateb yn dangos y gorau yn ein cymuned.

"Gobeithio bydd y gefnogaeth yma'n rhoi cysur a nerth i helpu'r teulu trwy'r dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod."

Pynciau cysylltiedig