Cofio buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yn 1966

- Cyhoeddwyd
Mae heddiw'n nodi 60 mlynedd ers yr is-etholiad a siapiodd wleidyddiaeth Cymru.
Cipiodd Gwynfor Evans sedd Sir Gaerfyrddin i Blaid Cymru – sedd gyntaf seneddol y Blaid – ar y 14 Gorffennaf 1966. Enillodd 39% o'r bleidlais gyda 16,179 o bleidleisiau wedi'u bwrw.
Un a fu'n rhan o ymgyrch lwyddiannus Gwynfor Evans, ac a weithiodd gyda'r gwleidydd am flynyddoedd maith, oedd Peter Hughes-Griffiths. Cafodd Cymru Fyw air gydag ef am yr hyn mae o'n ei gofio o ymgyrch 1966.

Mae Peter Hughes-Griffiths yng gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr
Cafodd yr is-etholiad ei sbarduno wedi marwolaeth Megan Lloyd George a oedd wedi ennill y sedd i'r Blaid Lafur yn 1964. Ond yn ôl Peter, roedd yr hedyn am sedd i Blaid Cymru wedi'i blannu ddegawd ynghynt pan safodd Jennie Eirian Davies o Frynaman dros Blaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin.
Fe gynyddodd Jennie faint y bleidlais i Blaid Cymru yn 1955 ac eto yn 1957. Dywedodd Peter i Jennie ragfynegi y byddai Plaid Cymru yn ennill sedd yn San Steffan o fewn deng mlynedd.
Yn ôl Peter, roedd dau berson wedi bod yn allweddol yn ymgyrch Gwynfor Evans yn 1966, sef Cyril Jones ac Islwyn Ffowc Elis. Cyril oedd yr asiant a'r trefnydd, ac Islwyn oedd y grym creadigol tu ôl i'r ymgyrch gyhoeddus yn creu a chyhoeddi posteri a phamffledi.
Meddai: "Y poster mwya' llwyddiannus oedd gydag e, oedd e 'di ysgrifennu dim ond y geiriau hyn ar y poster: 'Your hand can make history'."
Ac ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd Peter bod pobl yn ysgrifennu dros y posteri fel eu bod yn darllen 'Your hand has made history'.
Mae'n debyg mai Islwyn Ffowc Elis hefyd a saernïodd y dull ymgyrchu cynnil o annog y bobl i gyfeirio at yr ymgeisydd fel 'Gwynfor' yn hytrach na'r 'Mr Evans' mwy ffurfiol.
Creda Peter fod "y cam yna mewn cyhoeddusrwydd a phoblogrwydd wedi dod ag e'n nes at y bobl. Gwynfor oedd e. Un Gwynfor oedd, nid oedd angen dweud Evans."

Doedd Gwynfor ddim eich gwleidydd arferol chi, meddai Peter:
"Bydden i ddim yn dweud ei fod e'n berson swil, ond doedd e ddim y teip o wleidydd oedd yn gwthio'i hunan arnoch chi. Ond ar yr llaw arall, doedd dim isie, achos oedd gymaint o bobl yn ei edmygu e. Rhyw gymeriad cadarn fel 'na oedd e.
"Beth sydd rhaid cofio wrth sôn am Sir Gaerfyrddin a sut oedd Gwynfor wedi ennill yn 1966 yw oedd Gwynfor yn ddyn adnabyddus iawn, iawn yn Sir Gaerfyrddin. Oedd e'n gynghorydd sir am flynyddoedd mawr dros Llangadog. Oedd e'n ŵr poblogaidd iawn, iawn.
"Yn ogystal â hynny, roedd pobl yn ystyried Gwynfor Evans yn fonheddwr, yn ddyn â tipyn o garisma yn perthyn iddo achos y gwaith oedd e'n 'neud.
"Roedd e'n llywydd Undeb yr Annibynwyr, a roedd e'n ennill pethau i ddod â trydan i rai ffermwyr yng ngogledd y sir a phethau felly. Roedd e'n arwain ymgyrchoedd."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd yn ganolog i'r ymgyrch, eglurodd Peter, oedd pobl ifanc a ddaeth mewn niferoedd i ganfasio a rhannu pamffledi.
Dywedodd i uchafbwynt yr ymgyrch ddigwydd ar y noson cyn yr is-etholiad pan gynhaliwyd rali fawr yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.
"Roedd yna giw o bobl i fynd mewn i'r Lyric ar hyd Heol y Brenin, lawr i'r pen draw, cyn bod y drysau'n agor. Roedd yna ryw gyffro. Dyna'r math o beth oedd wedi cael ei greu yn yr ymgyrch.
"Ar ôl i Gwynfor siarad fe dorron nhw allan i ganu I Bob Un Sy'n Ffyddlon.
"Beth oedd y noson 'na'n dweud oedd bod 'na rywbeth gwahanol i arfer wedi digwydd. Doedd dim byd fel 'na wedi digwydd o'r blaen ym myd gwleidyddiaeth yn unman, am wn i."

Gwynfor Evans yn disgwyl canlyniad yr is-etholiad yn 1966
Awgryma Peter mai'r hyn a lwyddodd Gwynfor Evans i'w wneud, gan gyfeirio at y lyfr Rhys Evans, Gwynfor: Rhag Pob Brad, oedd denu gwladgarwyr yn ogystal â chenedlaetholwyr i bleidleisio drosto.
Dywedodd: "Dyna beth oedd Gwynfor wedi'i 'neud yn Sir Gaerfyrddin oedd cael cenhedlaeth o wladgarwyr gwleidyddol, nid cenedlaetholwyr.
"Chi'n gwybod, os chi'n genedlaetholwr mewn ffordd mae'n rhaid eich bod chi'n aelod o'r blaid neu chi'n aelod o ryw fudiad Cymreig neu rywbeth i fod yn genedlaetholwr.
"Ond beth oedd e wedi'i 'neud oedd cael y bobl i ymdeimlo, achos eu bod yn wladgarwyr."
Creda Peter fod rhywbeth tebyg wedi digwydd gyda Phlaid Cymru'n gynharach eleni yn Etholiad y Senedd ym mis Mai.
"O'n i'n meddwl am yr holl bobl ydw i'n eu cofio sydd 'di gweithio'u guts allan dros genedlaetholdeb a dros y Blaid – pobl fel DJ Williams, Cassie Davies, chi'n gwybod, mae'r rhestr mor hir.
"Dw i'n freintiedig iawn 'mod i'n cofio'r bobl 'ny a chofio'r ardal 'na. A nawr, dw i'n gweld be' sy'n digwydd nawr ac yn meddwl am y rheiny.
"Ac am Gwynfor ei hunan, wrth gwrs. Fan 'na oedd y dechrau, y creu, y torri trwodd, fel sydd wedi digwydd eto 60 mlynedd yn ddiweddarach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Mai

