Murluniau'n 'fwy nag addurn', maen nhw'n 'adrodd ein hanes a'n hunaniaeth'

Mae murlun newydd yn portreadu Rhiannon o'r Mabinogi, gyda'r artist Paul Shepherd wedi plethu elfennau o dirwedd Abertyleri i'r gwaith
- Cyhoeddwyd
O chwedloniaeth Cymru i arwyr lleol, mae cynnydd mewn murluniau'n troi waliau trefi a phentrefi yn ofodau sy'n "adrodd straeon am ein hanes a'n hunaniaeth", yn ôl artistiaid ac academyddion.
Un o'r enghraifftiau diweddaraf yw murlun Rhiannon yn Abertyleri, sy'n dod â chymeriad o chwedloniaeth Cymru i ganol y gymuned ac yn plethu elfennau o dirwedd y dref i'r gwaith.
Mae artistiaid yn dweud bod y cynnydd wedi'i ysgogi gan bobl yn gweld enghreifftiau mewn trefi eraill ac "eisiau'r un peth", yn ogystal â mwy o gyllid a chyfleoedd i greu celf gyhoeddus ar raddfa fawr.
I lawer bellach maen nhw'n credu bod murluniau'n gallu bod yn "fwy nag addurn", gan ddathlu hunaniaeth leol ac annog pobl i ymgysylltu â'u hanes a'u diwylliant.

Mae'r artist Paul Shepherd wedi gweld cynnydd yn nifer y murluniau cymunedol yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Dywedodd yr artist Paul Shepherd, sy'n gweithio dan yr enw Walls by Paul ac a baentiodd furlun Rhiannon, ei fod wedi gweld twf yn nifer y murluniau yng Nghymru ac yn y ffordd y mae cymunedau'n ymateb i gelf gyhoeddus.
"Mae'n ddiddorol achos mae'n beth gweledol iawn - mae pobl yn gweld pethau'n digwydd mewn trefi eraill ac eisiau'r un peth.
"Ac wedyn mae gen ti'r math yna o dwf esbonyddol yn yr holl beth."
Dywedodd Paul mai gwaith preifat ar raddfa fach oedd y rhan fwyaf o'i waith pan ddechreuodd, ond ei fod bellach yn creu mwy o brosiectau cymunedol ar raddfa fawr, yn enwedig dros y pum mlynedd diwethaf.
- Ffynhonnell y llun, Jenksart

Disgrifiad o’r llun, Ymddangosodd murlun o Dot Cotton ym Mhont-iets dros yr haf
1 o 7
Un enghraifft yw murlun Rhiannon yn Abertyleri, ddaeth ar ôl i swyddog cyngor gysylltu ynghylch y prosiect, gyda'r syniad o blethu Rhiannon i mewn i dirwedd y dref.
"Dwi'n meddwl beth mae e'n cynrychioli, mewn gwirionedd, ydy ein Cymreictod," meddai.
Nid oes gan Rhiannon gysylltiadau uniongyrchol ag Abertyleri, ond dywedodd Paul fod y murlun yn cynnwys rhai elfennau sy'n cysylltu'r gwaith â'r dref, fel yr eglwys a cherflun y Gwarcheidwad, sef cofeb i 45 o lowyr a fu farw yn nhrychineb Six Bells yn 1960.

Mae un o furluniau Paul Shepherd yn portreadu llun o sut roedd Stryd Gladstone ym Mhont-y-cymer ger Casnewydd yn edrych yn y gorffennol
Mae Paul hefyd yn credu y gall murluniau sy'n tynnu sylw at "hanes a diwylliant Cymru wneud dysgu am y pynciau hynny'n fwy hygyrch".
Dywedodd fod pobl wedi dod ato wrth iddo baentio Rhiannon i ofyn pwy oedd y cymeriad o'r Mabinogi a beth oedd y gwaith yn ei gynrychioli.
"Dyw e ddim yn mynd i gymryd lle mynd i lyfrgell neu oriel neu unrhyw le lle chi'n gallu dysgu am bethau, ond pan mae rhywbeth o'ch blaenau chi, chi'n gallu ei weld e, a gofyn cwestiynau a darganfod pethau doeddech chi ddim yn gwybod o'r blaen."
Ychwanegodd bod cynnwys y gymuned yn "gwneud gwahaniaeth", ac roedd ysgol leol wedi cydweithio ar furlun Rhiannon.
"Maen nhw'n ymgysylltu ag e fwy, yn hytrach na jyst 'dyma fy syniad i, dyma beth ry' ni'n cael a dyna ddiwedd y peth', mae'n fwy cynhwysol."
Oes aur i furluniau Cymru?

Mae'r artist Siôn Tomos Owen yn credu bod mwy o gyfleoedd bellach i artistiaid greu murluniau yn gyhoeddus
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd yr artist Siôn Tomos Owen ei fod yn credu bod y cyhoedd yn fwy parod i groesawu murluniau gan fod artistiaid bellach yn cael eu hariannu i'w creu "yn hytrach na gorfod gweithio'n gudd".
"O'n i'n gwneud ambell i furlun cyn Covid, ac ar ôl Covid nath e ffrwydro!"
Dywedodd fod mwy o gyllid yn golygu bod artistiaid yn cael lle, arian ac amser i ddatblygu gweithiau mwy o faint.
"Dwi'n meddwl bo' fe hefyd lawr i'r ffaith bod 'na fwy o bwyslais ar greadigrwydd ac mae plant a'r cyhoedd yn gallu bod yn ran ohono fe, yn ran o'r broses, hyd yn oed."
Dywedodd mai un o fanteision murluniau yw bod pobl leol yn gallu cael "dweud eu dweud am yr hyn sy'n ymddangos ar waliau eu hardal" yn hytrach na "gweld hysbyseb fawr ar adeilad".

Mae murlun Meinir Mathias yn Llandysul yn portreadu Elen, gwraig Owain Glyndŵr
Mae Gwenllian Beynon, uwch ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, hefyd wedi gweld "cynnydd amlwg" mewn murluniau dros y blynyddoedd diwethaf.
Cyfeiriodd at furlun Rhiannon yn Abertyleri, gwaith Meinir Mathias yn Llandysul sy'n portreadu Elen, gwraig Owain Glyndŵr, a murluniau Ruth Jên yn Nhalybont fel enghreifftiau o waith sy'n ymwneud â hanes a diwylliant lleol.
"Fi'n gwbod bo' nhw wedi dod â chymuned at ei gilydd i ddathlu'r ffaith bod y murlun hyn yn eu pentre' neu eu tref nhw.
"A dwi'n gwbod hefyd bod pobl yn sôn amdanyn nhw, so maen nhw'n bethau pwysig iawn i bobl ac fe ewn nhw i'w gweld nhw."
"Maen nhw'n fwy nag addurn yn aml," meddai, gan ychwanegu bod gwybodaeth yn rhan o'r hyn y mae murluniau'n ei gynnig.

Peintiodd yr awdur ac ysgolhaig Meic Stephens y murlun Cofiwch Dryweryn ar wal bwthyn adfeiliedig ddechrau'r 1960au
Ychwanegodd fod murlun Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud yn enghraifft arall o sut gall wal ddod yn rhan o "gof a hunaniaeth genedlaethol", gyda'i hanes a'r digwyddiadau sydd wedi effeithio arni dros amser.
Mae Gwenllian yn dweud bod y gwaith hwnnw'n bwysig o ran hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, "er nad murlun oedd y gwaith yn wreiddiol".

Dywedodd yr academydd Gwenllian Beynon fod cynnwys y gymuned yn y broses o greu ei murlun yn bwysig er mwyn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth
Wrth greu ei murlun ei hun, dywedodd Gwenllian ei bod wedi gweld pa mor bwysig yw cynnwys pobl yn y broses er mwyn iddyn nhw gael "ymdeimlad o berchnogaeth dros y gwaith".
Dywedodd bod hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgolion, lle gall cymryd rhan mewn prosiect celf annog plant i "ddeall bod eu creadigrwydd nhw yn bwysig".
I'r tri, felly, gall murluniau fod yn fwy na ffordd o newid golwg adeilad, gan roi cyfle i bobl weld, trafod a dysgu am eu hanes, eu diwylliant a'u cymuned.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd28 Chwefror

- Cyhoeddwyd18 Mehefin

- Cyhoeddwyd26 Mehefin






