Castell Conwy yn leoliad i gynhyrchiad ffilm ffantasi fawr

Cafodd Castell Conwy ei adeiladu ym 1283 ac yn denu miloedd o ymwelwyr yno bob blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gynnwrf yn nhref Conwy gyda pharatoadau a rhybudd bod cynhyrchiad ffilm fawr yn dod i ffilmio yn y castell.
Mae rhai yn y diwydiant yn awgrymu mai addasiad ffilm o'r gêm fideo ffantasi dywyll Elden Ring yw'r cynhyrchiad.
Bydd y ffilm, sydd i'w rhyddhau yn 2028, yn serennu Kit Connor, Ben Whishaw a'r actor o Garmel, Sir y Fflint, Jonathan Pryce.
Bydd Castell Conwy ar gau am 10 diwrnod (15–24 Mai) yn ystod y ffilmio, ynghyd â rhai o feysydd parcio'r dref ar adegau.

Bydd y castell ar gau am 10 diwrnod ar gyfer y paratoadau i ffilmio yno
Bydd y criw cynhyrchu hefyd yn defnyddio neuadd yr eglwys a rhai adeiladau cyfagos eraill ar gyfer yr adran wisgoedd a cholur.
Cwmni Katana Films, sydd wedi'i leoli yn Borehamwood ger Llundain, sy'n trefnu'r gwaith ffilmio yng nghastell Conwy.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau dyddiadau'r ffilmio, ond heb ddatgelu teitl y ffilm.
Fodd bynnag, mae gan y cwmni gysylltiadau agos â'r awdur a'r cyfarwyddwr Alex Garland, fu'n un o gyfarwyddwyr y cwmni am gyfnod byr, ac mae ei brosiectau'n cynnwys ffilm o'r enw Elden Ring, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ffilmio yn y Deyrnas Unedig.
Caiff Elden Ring ei disgrifio fel ffilm ffantasi dywyll, sydd wedi ei seilio ar gêm fideo o'r un enw.
Yn ôl gwefan IMDb, bydd y ffilm yn serennu Kit Connor (Heartstopper, Warfare), Cailee Spaeny (Alien: Romulus, Civil War), Nick Offerman (Parks and Recreation, Bob's Burgers, The Last of Us), Peter Serafinowicz (Guardians of the Galaxy, Star Wars: The Phantom Menace, Shaun of the Dead), Jonathan Pryce (Brazil, The Two Popes, Tomorrow Never Dies), a Ben Whishaw (Paddington, No Time to Die, Cloud Atlas).

Bydd y criw ffilmio'n defnyddio'r castell a rhai o feysydd parcio y dref yn ystod y cynhyrchiad
Mewn llythyr at drigolion a busnesau Conwy, dywedodd Nick Oliver, rheolwr lleoliadau ar gyfer y ffilmio: "Mae'r ffilmio i fod i gael ei chynnal yng Nghastell Conwy ar ddydd Iau 21ain a dydd Gwener 22ain Mai 2026, yn ogystal â chyfnod o baratoi ac adfer cyn ac ar ôl ffilmio.
"Er mwyn hwyluso'r ffilmio, byddwn hefyd yn gofyn am ddefnyddio meysydd parcio lleol ar gyfer ein cerbydau technegol a'r gwaith ffilmio.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Cadw a chyngor Conwy, sydd ill dau yn ymwybodol ac yn fodlon â'n cynlluniau."
"Hoffem ddiolch i chi o flaen llaw, gan ein bod yn gwerthfawrogi mai braint yw ffilmio mewn ardal breswyl ac nad ydym yn cymryd yn ganiataol y gefnogaeth a ddangosir i ni gan drigolion a pherchnogion busnesau."
Dywedodd Toby Tunstall, o Siambr Fasnach Conwy, er na chafodd drigolion a busnesau'r dref lawer o rybudd am y ffilmio, mi fyddai'n dda i'r dref yn y tymor hir.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld mewn mannau eraill pan gaiff ffilm neu gynhyrchiad teledu mawr ei ffilmio mewn lleoliad penodol, bod pobl eisiau mynd yno i ymweld â'r lleoliad.
"Gallai hyn helpu i gadw Conwy ar y map i ymwelwyr, a chyfle i hyrwyddo lleoliad y ffilm fel atyniad arall i ddenu ymwelwyr i'r dref."
Ffilmio cyfres boblogaidd yn 'hwb i ogledd Cymru'
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.