Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Gwobrau Tir na n-Og
Disgrifiad o’r llun,

Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026 wedi'u cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Iau.

Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson a Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian yw enillwyr 2026 yn y categorïau Cymraeg ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc oed cynradd ac uwchradd.

Mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o lyfrau plant a phobl ifanc Cymru, neu lyfrau am Gymru.

Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru, ac eleni mae'r gwobrau'n nodi hanner canrif ers eu sefydlu yn 1976.

Clawr Am Gymro! gan Medi Jones-JacksonFfynhonnell y llun, Gwobrau Tir na n-Og
Disgrifiad o’r llun,

Am Gymro! yw enillydd y categori cynradd

Dywedodd y trefnwyr bod Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson, gyda darluniau gan Telor Gwyn (Y Lolfa), yn lyfr deniadol a llawn hwyl am 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru.

Dywedodd yr awdur Medi Jones-Jackson: "Anodd ydi cyfleu'r teimlad o ennill y wobr hon heb ddefnyddio'r gair anrhydedd.

"Fedra i ddim coelio'r peth! Diolchaf i'r panel, Y Lolfa a'r Cyngor Llyfrau am y gefnogaeth, ond i ddarllenwyr ifanc Cymru mae'r diolch mwyaf.

"Dwi wrth fy modd yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad a gweld y disgyblion yn byrlymu wrth ddysgu ychydig o'n hanes ni fel cenedl, gan obeithio 'mod i wedi ysbrydoli'r Richard Burton neu'r Dafydd Iwan nesa'!"

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins, cadeirydd y panel beirniaid: "Wrth ddathlu pen-blwydd gwobrau Tir na n-Og yn 50 eleni, roedd y panel i gyd yn teimlo bod cynnwys Am Gymro!, a'r ffocws ar rai o enwogion Cymru, yn ffordd dda o ddathlu.

"Mae'r wybodaeth a geir yn y gyfrol yn tynnu sylw at arwyr Cymru – nid yn unig y sêr chwaraeon a'r cantorion, ond hefyd yr arlunwyr, y gwyddonwyr, yr actorion a'r beirdd.

"Mae cynnwys a lluniau'r gyfrol yn ddifyr ac yn cydio yn y dychymyg, waeth beth fo'ch oedran, ac yn sicr mae yna rywbeth i'w ddysgu wrth ddarllen.

"Mae'r gweithgareddau yng nghefn y gyfrol yn ffordd hwyliog o gadw'r wybodaeth yn y cof."

Clawr Gwen ac Arianrhod gan Lleucu GwenllianFfynhonnell y llun, Gwobrau Tir na n-Og
Disgrifiad o’r llun,

Gwen ac Arianrhod yw enillydd y categori uwchradd

Dywedodd y trefnwyr bod Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch) yn nofel graffig am gyfeillgarwch, galar, a'r trafferthion o dyfu i fyny.

Dywedodd yr awdur: "Doeddwn i'n methu coelio fod Gwen ac Arianrhod wedi cael ei dewis i fod ar restr fer Tir na n-Og eleni, felly roedd darganfod bod y gyfrol wedi ennill yn deimlad swreal – mae 'na gymaint o awduron a darlunwyr dwi'n eu hedmygu wedi ennill y wobr, felly dwi jyst yn methu coelio'r peth!"

Ychwanegodd bod ysgrifennu a gwneud y darluniau wedi bod yn "llafur cariad" ac wedi "gwthio fy ngallu fel darlunydd", ac felly bod ennill yn "gymaint o anrhydedd".

'Torri tir newydd ymhlith llyfrau Cymraeg'

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins: "Roedd y panel oll yn gytûn fod y stori hon yn torri tir newydd ymhlith llyfrau Cymraeg.

"Mae ffurf a dyluniad y stori yn greadigol ac yn trafod pynciau amrywiol mewn ffordd afaelgar.

"Mae'r stori'n plethu'r hen a'r newydd ac yn cael ei hadrodd ar ffurf darluniau, ac rydyn ni'n profi emosiynau di-ri trwyddi draw – a hynny gydag ychydig iawn o eiriau ar y tudalennau!

"Rhaid canmol y creadigrwydd a'r sgìl oedd eu hangen i ddod â'r stori hyfryd hon yn fyw; mae'n cyfrannu at gyfeiriad llenyddiaeth Gymraeg gyfoes ac yn creu rhywbeth modern i ddarllenwyr ei ddarllen a'i fwynhau."

Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen ac Y Cae Ras gan Manon Steffan RosFfynhonnell y llun, Gwobrau Tir na n-Og

Cafodd enillwyr Gwobr Dewis y Darllenwyr 2026 yn y categorïau Cymraeg hefyd eu cyhoeddi.

Cawson nhw eu dewis gan y plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Cynradd) yw Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa).

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Uwchradd) yw Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

Yn ystod y seremoni, cyhoeddwyd enillydd Dewis y Darllenwyr Cynradd gan ddisgyblion Ysgol Llandegfan, a chyhoeddwyd enillydd Dewis y Darllenwyr Uwchradd gan Mei Madrun a Lleucu Hughes, aelodau o Banel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.