'Efallai na fyddai'r canser wedi datblygu pe bawn yn byw yn Lloegr'

"Pe bawn i wedi cael fy mhrofi (yn 2014) bydden ni wedi gwybod ar unwaith fy mod i'n wynebu risg uchel o gael canser yr ofarïau," meddai Heather
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Fynwy yn credu na fyddai ei chanser, o bosib, wedi datblygu'n ganser yr ofarïau pe bai hi'n byw dros y ffin yn Lloegr.
Fe gafodd Heather Morgan ddiagnosis o ganser y fron 12 mlynedd yn ôl ond gan ei bod hi'n byw yng Nghymru doedd hi ddim yn gymwys i gael prawf fyddai wedi dangos ei bod yn wynebu risg llawer uwch.
Ar y pryd roedd y rheolau yng Nghymru'n wahanol i reolau Lloegr.
Mae rheolau Cymru wedi newid erbyn hyn ac yn cyfateb i rai Lloegr ond roedd Heather wedi gorffen ei thriniaeth cyn hynny a chafodd hi ddim cynnig gwneud y prawf.
"Rwy'n teimlo'n ddig iawn," meddai.
"Pe bawn i'n gwybod bod y risg o ddatblygu canser yr ofarïau gymaint yn uwch byddwn i wedi cael gwared ar fy ofarïau."
Bellach mae Heather yn cefnogi elusen sy'n darparu cyngor i'r rhai hynny sydd â chanser etifeddol er mwyn eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o'r rheolau.
Mae llinell gymorth ar gyfer canser y fron etifeddol wedi agor y ganolfan wybodaeth gyntaf yng Nghymru - mae cymorth hefyd ar gyfer y canser sy'n gysylltiedig â mwtaniad (mutations) y genyn BRCA.
Dywedodd sylfaenydd y llinell gymorth, Wendy Watson, bod anghysonderau yn bodoli rhwng byrddau iechyd o fewn Cymru a Lloegr.
"Mae ein gofal iechyd yn loteri cod post," meddai. "Ddylen hynny ddim bod - dylai canllawiau NICE ddatrys hynny, ond o leiaf rydyn ni yma i roi mynediad i bobl at y wybodaeth."
Oherwydd y gwahaniaethau mewn rheolau, chafodd Heather ddim gwybod bod ganddi fwtaniad y genyn BRCA am saith mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser y fron.
Mae'r ffaith yna'n golygu bod risg uwch ganddi drwy gydol ei bywyd o gael canser y fron a chanser yr ofarïau. Cafodd brawf ar ôl canfod lwmp yn ei habdomen.
Cadarnhawyd mai canser yr ofarïau oedd hwnnw.

Mae Heather wedi cadw'r llythyr oedd yn dweud wrthi nad oedd hi'n gymwys am y prawf
"Pe bawn i wedi cael fy mhrofi (yn 2014) bydden ni wedi gwybod ar unwaith fy mod i'n wynebu risg uchel o gael canser yr ofarïau," meddai Heather. "Byddwn i wedi cael gwared ar fy ofarïau ar unwaith.
"A phe baen nhw wedi dweud wrthai am gael mastectomi dwbl ar y pwynt hwnnw, byddwn i wedi gwneud hynny hefyd," ychwanegodd.
Ar y pryd yn 2014, roedd cleifion yn Lloegr oedd â chanser y fron triphlyg negatif ac oedd o dan 50 oed yn cael eu cyflwyno ar unwaith ar gyfer profion genetig.
Doedden nhw ddim yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Roedd Heather yn 46 oed ar y pryd ac mae wedi cadw'r llythyr gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan oedd yn dweud wrthi nad oedd hi'n gymwys.
Eglurodd y llythyr fod Llywodraeth Cymru ar y pryd wedi ymrwymo i fodloni canllawiau NICE o fewn y flwyddyn ariannol a bod gwaith yn dal i gael ei wneud i gynyddu'r capasiti ar gyfer cynnig profion.
'Ydw i'n mynd i fyw mor hir â hynny?'
O fewn y flwyddyn roedd y rheolau yng Nghymru wedi newid ond roedd Heather wedi gorffen ei thriniaeth a chafodd ddim gwahoddiad i wneud prawf.
"Mae 'di newid popeth," meddai Heather gan esbonio bod y gobaith y byddai dal yn fyw mewn 10 mlynedd, yn ystadegol yn cyfateb i 35%.
"Os ydw i'n mynd i'r archfarchnad ac wedi gwario ychydig gormod fi'n meddwl pam am arbed arian gan efallai y byddai'n marw yn fuan.
"Daeth rhywbeth drwy'r post am gartrefi ymddeol - ydw i'n mynd i fyw mor hir â hynny? Ddylwn i fod yn poeni am hynny? Na."
Mae ei theulu wedi gweld fod yr anghysondebau'n bodoli mewn ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr hefyd.
Mae gan Heather ddwy ferch sy'n oedolion erbyn hyn ac er bod ei merch ieuengaf wedi cael ei gwahodd i brofion genetig yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, dyw ei merch hynaf yn y gogledd-orllewin ddim wedi cael y cynnig, meddai.

"Rwy'n flin iawn am y peth," meddai Louise sy'n fam i ddau o blant
Er bod profiad Louise Owen yn wahanol, mae thema gyffredin o ran cyngor gwrthgyferbyniol ac anghysonderau. Arweiniodd hyn ati'n troi at y llinell gymorth am gefnogaeth.
Mae Louise sy'n 36 wedi bod yn ymwybodol ers dros ddegawd bod ganddi fwtaniad y genyn BRCA2.
Pan yn 30, cafodd ei sgan MRI cyntaf fel rhan o'r broses sgrinio sydd ar gael i'r rhai sydd â risg etifeddol.
Ond cafodd wybod nad oedd sganiau MRI blynyddol yn bosibl gan ei bod yn bwydo o'r fron - a hynny er gwaethaf ei hymchwil ei hun a oedd yn awgrymu ei fod yn ddiogel.
"Rwy'n flin iawn am y peth," meddai'r fam i ddau o blant "oherwydd rwy'n teimlo pam bod yn rhaid i fi ddewis rhwng cael fy sgrinio neu rhoi'r gorau i fwydo ar y fron."
Mae'r materion a nodwyd gan The Breastfeeding Network, Coleg Brenhinol y Radiolegwyr a Chymdeithas y Radiograffwyr yn tynnu sylw at gwestiynau ynghylch y sylwedd sy'n cael ei chwistrellu cyn sgan MRI ar y fron.
Mae pob un yn dod i'r casgliad, er bod dewis personol yn allweddol, ei bod yn ddiogel parhau i fwydo ar y fron ar ôl sgan MRI "gan nad oes unrhyw dystiolaeth o risg i'r babi/plentyn".
Ond fe ddywedodd Bron Brawf Cymru: "Mae sgrinio MRI ar y fron yn bosibl tra bod menyw yn bwydo ar y fron ond mae cywirdeb y delweddu yn cael ei leihau oherwydd y newidiadau ym meinwe'r fron, a all hefyd arwain at ymyriadau diangen."

Hoffai Louise barhau i fwydo ei phlentyn tair oed ar y fron nes ei fod yn barod i roi'r gorau iddi
Ar ôl gweld ei mam yn dioddef blynyddoedd o driniaeth canser cyn iddi farw yn 2016, dywedodd Louise fod y risgiau o hithau'n cael canser wedi bod ar ei meddwl ac y byddai cael ei sgrinio yn helpu i dawelu'r meddwl.
Ond fel gweithiwr cymorth i gyfoedion ym maes bwydo ar y fron, mae Louise hefyd yn teimlo'n gryf ei bod eisiau parhau i fwydo ei phlentyn tair oed ar y fron nes ei fod yn barod i roi'r gorau iddi.
Esboniodd fod ei hiechyd meddwl wedi dioddef pan stopiodd fwydo ei phlentyn cyntaf ar y fron yn gynt nag y byddai wedi hoffi.
Cafodd gymorth yr eildro a chael profiad llawer mwy llwyddiannus.
"Mae wedi gwneud i mi gredu ynof fi fy hun yn fwy," meddai. "Oherwydd fy mod i wedi gwneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud - rydw i wedi'i gyflawni ac rydw i'n eithaf balch ohonof fy hun am hynny."
Cyn-yrrwr lori yn sefydlu brand dillad bwydo o’r fron
- Cyhoeddwyd8 Medi 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Prawf Bron Cymru: "Cafodd rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer sgrinio'r grŵp risg uchel iawn yma o fenywod ei chyflwyno'n gynharach eleni ar draws pob rhanbarth o'r wlad, er mwyn darparu gwasanaeth cyson mewn ysbytai ledled Cymru.
"Mae'r canllawiau diweddaraf gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dweud nad ydyn nhw'n argymell cynnal sgrinio MRI neu famogram tra bo menywod yn feichiog, gan fod sensitifrwydd y sgrinio yn cael ei leihau'n sylweddol oherwydd newidiadau yn y fron.
"Gallai hyn arwain at ganlyniadau anghywir - gan gynnwys methu canser. Gallai hefyd arwain at ganlyniad positif ffug ac ymyrraeth ddiangen fel biopsi.
"Mae sgrinio bronnau MRI yn bosibl tra bod menyw yn bwydo ar y fron ond mae cywirdeb y delweddu yn cael ei leihau oherwydd y newidiadau ym meinwe'r fron, a all hefyd arwain at ymyriadau diangen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.