Canfod corff dyn 'disglair a chariadus' mewn llyn ger yr Wyddfa

Llyn GlaslynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiad nos Sadwrn fod dyn wedi mynd i drafferthion yn Llyn Glaslyn

  • Cyhoeddwyd

Mae corff dyn 20 oed wedi cael ei ganfod yn Llyn Glaslyn ger yr Wyddfa yn Eryri.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn adroddiad ychydig cyn 19:00 nos Sadwrn am ddyn oedd mewn trafferthion yn y llyn ac ar goll.

Bu'r gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Llanberis yn chwilio amdano yn yr ardal gyda chefnogaeth tîm chwilio tanddwr.

Daeth cadarnhad brynhawn Llun fod corff Mahammed Maim Islan, oedd yn 20 oed ac yn dod o Lundain, wedi ei ganfod yn Llyn Glaslyn ychydig cyn 12:00 ddydd Sul.

'Ffrind annwyl'

Dywedodd teulu Mr Maim Islan ei fod yn "ddyn ifanc disglair gyda dyfodol addawol o'i flaen".

"Roedd yn fab ffyddlon, yn frawd cariadus ac yn ffrind annwyl, ac mi wnaeth ei garedigrwydd a'i gymeriad gyffwrdd â bywydau pawb yr oedd yn ei adnabod."

Mae'r teulu hefyd wedi diolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith chwilio.

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Pawson o Heddlu'r Gogledd fod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r Mr Maim Islan yn yr "amser eithriadol o anodd yma".

"Mae'r Crwner wedi cael gwybod ac mae ymholiadau bellach wedi dechrau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.