Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Gwisgodd Jason O'Connell y sbectol gydag awtociw am y tro diwethaf yn siambr y Senedd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd Reform yn dweud ei fod yn defnyddio sbectol clyfar gydag awtociw i'w helpu i wneud areithiau yn y Senedd.
Dywedodd Jason O'Connell fod y dechnoleg yn rhoi hwb i'w hyder wrth siarad yn y Senedd a gwadodd ei fod yn camarwain pobl i feddwl ei fod yn siarad heb nodiadau.
"Rwy'n cyflwyno fy ngeiriau mewn modd rwy'n ei ystyried yn briodol," meddai wrth raglen Politics Wales y BBC.
Ond mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am wahardd defnyddio'r sbectol yn y Senedd, ac mae llefarydd ar ran y Senedd yn dweud fod adolygiad ar y gweill.
Arweinydd Reform UK yn gwadu bod problem gwirio ymgeiswyr gan ei blaid
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Agor y Senedd: Canmol 'ymdeimlad o berthyn' ond y Bardd Cenedlaethol ddim yno
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Plaid Cymru a Llafur yn dod i gytundeb ar gyllideb atodol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae'r sbectol clyfar (smart glasses) yn galluogi Mr O'Connell i wneud areithiau drwy ddarllen sgript ddigidol sy'n ymddangos ar y lensys.
Mae'r testun yn sgrolio wrth iddo siarad, ac mae'n gallu ei reoli hefyd drwy fodrwy ar ei fys.
Dywedodd Aelod y Senedd dros etholaeth Pontypridd, Cynon a Merthyr ei fod wedi bod yn edrych ar ffyrdd o wella ei sgiliau areithio ers iddo gael ei ethol i'r Senedd ym mis Mai.
"Un o fy ngwendidau oedd fy mod yn cadw fy mhen i lawr ac yn edrych ar fy nodiadau yn aml; roeddwn i eisiau newid hynny, ac mae'r sbectol hon yn fy ngalluogi i wneud hynny."

Dywedodd Mr O'Connell fod y sbectol wedi caniatáu iddo wneud areithiau "mewn modd rwy'n ei ystyried yn briodol"
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn camarwain pobl drwy roi'r argraff ei fod yn siarad heb nodiadau, dywedodd Mr O'Connell: "Rwy'n cyflwyno fy ngeiriau mewn modd rwy'n ei ystyried yn briodol.
"Gallai pobl eraill ddefnyddio iPad, gallen nhw ddefnyddio ffôn, neu gallen nhw ddefnyddio papur printiedig," meddai.
"Dyma'r dull sy'n gweithio orau i mi yn ystod dadleuon hir.
"Fy llais i yw e, a rwy'n ei gyfleu yn y ffordd sy'n teimlo fwyaf cyfforddus."
Dywedodd Mr O'Connell fod y sbectol wedi rhoi hwb "enfawr" i'w hyder.
"Fel aelod newydd, mae'n rhaid i mi oresgyn rhwystrau ac wrth ymdrechu i wneud hynny ry'ch chi'n dod yn fwy hyderus," meddai.
"Mae'n fy ngalluogi i gyfathrebu'n effeithiol â'r etholwyr - pobl Cymru ac i graffu ar y llywodraeth yn iawn."

Nad oes gan sbectol Mr O'Connell gamera fel rhai sbectolau clyfar
Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio'r dechnoleg - yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac sy'n gallu recordio fideo. Nid oes gan sbectol Mr O'Connell gamera.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, nad oes digon o wybodaeth eto am yr hyn y gallai'r sbectol ei wneud, a dywedodd fod angen i ASau gael mynediad cyfartal i'w defnyddio.
"Yr hyn rwy'n galw amdano yw gwaharddiad ar ddefnyddio sbectolau clyfar yn y Senedd nes bod rheolau a rheoliadau ar waith sy'n eu safoni, ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad atynt - os dyna maen nhw eisiau," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywydd y Senedd: "Mae technoleg sy'n datblygu'n gyflym, fel sbectolau clyfar, yn cynnig cyfleoedd i wella hygyrchedd a chefnogi ASau yn eu gwaith, ond rydym yn cydnabod eu bod hefyd yn codi pryderon.
"Mae adolygiad o'r defnydd o'r dechnoleg hon yn y Senedd ar y gweill, a byddwn yn cyflwyno'r casgliadau yn fuan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.