Cwmni dŵr Hafren Dyfrdwy i wario £280,000 am 'fethiannau annerbyniol'

Fe wnaeth ymchwiliad Ofwat ddarganfod bod cwmni Hafren Dyfrwy wedi torri eu hamodau mewn modd 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy wario £280,000 mewn "pecyn cosb ariannol" erbyn 2030 am "fethu yn eu dyletswydd i ddelio yn effeithiol â dŵr gwastraff a charthion".
Mae'n dilyn ymchwiliad gan y rheoleiddiwr Ofwat, gyda'r ddirwy i gael ei hariannu gan y cwmni a'u cyfranddalwyr, ac nid drwy filiau cwsmeriaid.
Dyma'r nawfed ymchwiliad o'i fath gan Ofwat, sydd eisoes wedi rhoi dirwyon gwerth £300m i gwmnïau.
Wrth ymddiheuro i'w cwsmeriaid, dywedodd Hafren Dyfrdwy eu bod yn derbyn casgliadau'r ymchwiliad, a'u bod yn "gwneud cynnydd da wrth fynd i'r afael â'r materion".
'Canolbwyntio ar wneud gwelliannau'
Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n berchen i Severn Trent, yn cyflenwi tua 109,000 o gwsmeriaid ar draws y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth.
Fe wnaeth ymchwiliad Ofwat ddarganfod bod Hafren Dyfrdwy wedi methu yn eu hymrwymiad i ddarparu system ddraenio a delio â chynnwys eu carffosydd.
Roedden nhw hefyd yn y gorffennol wedi torri amodau eu trwydded o ran cael prosesau a systemau oedd yn cyrraedd eu gofynion.
Dywedodd Ofwat, tra bod y cwmni bellach â'r prosesau cywir yn eu lle, ei bod hi'n angenrheidiol iddyn nhw fynd i'r afael â'r holl faterion er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio yn y dyfodol.
Dywedodd y rheoleiddiwr bod eu hymchwiliad wedi darganfod bod y cwmni wedi torri eu hamodau mewn modd "annerbyniol", a bod hynny wedi arwain at ormod o achosion o ollyngiadau dŵr o orlif stormydd.
"Rydym yn disgwyl i'r cwmni nawr ganolbwyntio ar wneud gwelliannau fel y gall cwsmeriaid adennill ffydd yn y cwmni dŵr a'r gwasanaeth hanfodol y maen nhw'n ei ddarparu," meddai'r rheoleiddiwr.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hafren Dyfrdwy, Steph Cawley eu bod "wedi eu hymrwymo i wneud ein gorau i'r amgylchedd, ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol".
"Rydym yn derbyn casgliadau Ofwat ac yn ymddiheuro i'n cwsmeriaid am y materion ac yn gwneud cynnydd da wrth fynd i'r afael â nhw.
"Rydyn ni ar hyn o bryd ynghanol buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau, y mwyaf erioed, gyda £11m ar gyfer gwelliannau o ran delio â gorlif stormydd yn unig, fydd yn ein rhoi ar y trywydd cywir i leihau gollyngiadau i lai nag ugain y flwyddyn erbyn 2030."
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar natur y pecyn cosb ariannol sy'n cael ei argymell gan Ofwat cyn i benderfyniad terfynol gael ei gyhoeddi.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 6 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr

- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2025
