Beth nesaf i ferched Cymru ar ôl Chwe Gwlad arall heb fuddugoliaeth?

Mae Cymru wedi colli naw gêm brawf yn olynol am y tro cyntaf yn eu hanes
- Cyhoeddwyd
"Allwn ni ddim bod yn y sefyllfa hon eto".
Dyna oedd geiriau capten Cymru ar y pryd, Hannah Dallavalle, yn siomedig wedi i Gymru gael eu curo 44-12 gan yr Eidal yng ngêm derfynol y Chwe Gwlad y llynedd.
Roedd y canlyniad yn golygu bod Cymru wedi colli pob gêm, am y tro cyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth.
Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, ac mae Cymru yn yr un sefyllfa druenus - colled drom arall yn erbyn yr Eidal a Llwy Bren arall.

Sgoriodd Courtney Keight gais cyntaf Cymru yn erbyn yr Eidal - y cyntaf o bedwar gan y tîm cartref ond fe sgoriodd yr ymwelwyr saith
Ar ôl Cwpan y Byd digalon yr haf diwethaf, daeth Cymru i mewn i'r Chwe Gwlad gyda disgwyliadau isel, ond roedd yna optimistiaeth dawel o fewn y garfan.
Roedd Sean Lynn wedi dewis ei chwaraewyr a'i hyfforddwyr ond yn anffodus yr un oedd y sgript eleni o'i gymharu â'r llynedd.
Tynnodd cyn-hyfforddwr Gloucester-Hartpury sylw at y buddugoliaethau bach drwy gydol yr ymgyrch - amddiffyn gwell yn erbyn Ffrainc a phedair cais yn erbyn Lloegr - ond ar ddiwedd y dydd dyw'r tabl ddim yn dweud celwydd - pum gêm, pum colled.
"Mae'n rhaid i ni fod yn well," meddai.
"Roeddwn i'n gwybod y byddai'n her, ond rwy'n dal yn gyffrous iawn i weld i ble gall y grŵp hwn fynd oherwydd rydyn ni eisiau gweithio'n galed."
Cymerodd Lynn yr awenau cyn pencampwriaeth 2025 a gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn 15 o gemau prawf, mae cwestiynau ynghylch ei ddyfodol eisoes wedi codi.
"Rwy' wir yn credu bod y bwlch yn cau," ychwanegodd.
"Rwy'n credu bod yn rhaid i'r cysondeb ddigwydd ar lefel clwb fel ei fod yn dod yn arfer da" cyn chwarae mewn gemau prawf meddai.
Ydyn ni bron yna? Taith ddi-ddiwedd Cymru
Gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn 15 o gemau prawf, mae amynedd yn dechrau pylu, gan gynnwys ymhlith cyn-chwaraewyr.
Roedd Sioned Harries yn nhîm Cymru tan gwpl o flynyddoedd yn ôl ac mae'n cwestiynu'r "daith" gyson y mae chwaraewyr a hyfforddwyr yn cyfeirio ati.
"Am ba mor hir oes rhaid i un tîm fod ar daith? Rwy'n teimlo, ar hyn o bryd, ein bod yn rhedeg allan o esgusodion," meddai Harries.
"Mae gyda ni'r un grŵp o chwaraewyr o hyd, does gyda ni ddim yr un gronfa o chwaraewyr ar gael fel sydd gan wledydd eraill - maen nhw'n datblygu'n gyflymach - ond mae gyda ni chwaraewyr profiadol. Roedd cyfanswm o 542 o gapiau yn y 15 oedd yn dechrau heddiw."
Cytunodd Philippa Tuttiett fod yn "rhaid i rywbeth newid".
"Mae newidiadau'n cael eu gwneud, mae mwy o ddatblygu'n digwydd, ond dydyn nhw ddim yn digwydd yn ddigon cyflym," meddai.
"Mae timau eraill yn y Chwe Gwlad yn symud ymlaen, mae timau eraill yn rygbi'r byd yn symud ymlaen.
"Bydd yn adolygiad anodd arall o'r ymgyrch hon. Gadawodd y chwaraewyr bopeth allan yna, allwch chi byth amau hynny."

Mae Cymru'n cael y Llwy Bren eto eleni a hynny am y trydydd tro'n olynol
Cymru o ddau hanner
Pe bai modd ennill gemau dros 40 munud, byddai Cymru wedi gorffen yn llawer uwch.
Gyda gwelliannau yn eu hymosod a'u hamddiffyn, roedden nhw'n haeddiannol ar y blaen ar yr egwyl yn erbyn yr Alban, dim ond i golli yn sgil cwpl o giciau Helen Nelson.
Roedd hi'n anodd i Ffrainc chwalu Cymru hefyd a chafon nhw eu cadw i 7-7 ar yr hanner cyn iddyn nhw redeg i ffwrdd â hi yn yr ail hanner.
Roedd Cymru ar eu gorau yn ymosodol yn erbyn Lloegr gan sgorio'n hwyr a sicrhau pwynt bonws am sgorio pedwar o geisiau.
Ond doedd eu perfformiadau yn erbyn Iwerddon a'r Eidal ddim yn ddigon da.
Cafon nhw eu dominyddu yn ardal y dacl meddai Lynn ar ôl y gêm yn erbyn yr Eidal.
Dywedodd capten Cymru, Bethan Lewis, ei fod yn achos o "egni yn plymio".
"Rydyn ni'n dangos bod gennym ni'r egni yn yr ychydig funudau olaf ond mae angen i ni wneud hynny yn y 50fed munud, nid aros," meddai hi.
"Mae'n golygu sicrhau ein bod ni'n llawn egni ac yn glinigol ar yr adegau cywir cyn iddo gyrraedd pwynt o fod allan o gyrraedd."
Capteiniaid yn cwympo wrth i nifer yr anafiadau gynyddu

Bethan Lewis (canol) oedd wedi arwain Cymru yn erbyn Lloegr, Iwerddon a'r Eidal
Dechreuodd Cymru'r ymgyrch yn gwybod na fyddai un o'u chwaraewyr gorau, Alex Callender, yn gallu chwarae unrhyw ran.
Anafodd y blaenasgellwr a'r cyd-gapten y llynedd ei ffêr gan adael Kate Williams yn gyfrifol am y tîm.
Daeth hyn â'r gorau allan o Williams, a arweiniodd o'r blaen yn erbyn yr Alban, gan gyflawni 16 o daclau a sgorio cais a gadwodd eu gobeithion yn fyw.
Ond cafodd anaf yn erbyn Ffrainc ac felly disgynnodd y gapteniaeth i Bethan Lewis - ond fel y nododd y cyn-gapten Siwan Lillicrap, doedd dim llawer o arweinwyr eraill o'i chwmpas i'w chefnogi.
Mae Bethan yn "gwneud gwaith da iawn," meddai Lillicrap, "ond pwy yw'r arweinwyr o'i chwmpas? Mae'n dîm ifanc a dibrofiad.".
Doedd Nel Metcalfe ddim ar gael chwaith i Gymru sef un o'u chwaraewyr gorau yn ystod Cwpan y Byd - heb sôn am ei chyd-asgellwyr, Lisa Neumann a Catherine Richards a'r clo, Gwen Crabb, yn ymuno â hi ar y fainc.
"Dydw i ddim yn gwneud unrhyw esgusodion, ond mae gyda ni bum chwaraewr allweddol sydd allan," meddai Lynn.
Sêr y dyfodol yn disgleirio

Fe enillodd Jorja Aiono ei chap cyntaf i dîm y merched yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Principality
Roedd Lynn wedi enwi naw chwaraewr heb gap yn ei garfan i'r Chwe Gwlad a dangosodd nad oedd yn ofni cymryd cyfle arnyn nhw'n syth gyda Jorja Aiono, Branwen Metcalfe a Seren Lockwood yn edrych yn gartrefol iawn ar y lefel ryngwladol.
Roedd hefyd ymddangosiadau cyntaf i Seren Singleton, Freya Bell, Nikita Prothero a Jenna De Vera.
Ond gallu Aiono i gario'r bêl a wnaeth iddi hi sefyll allan.
"Rwy'n credu bod y criw ifanc yn gwneud gwaith da iawn," meddai prif hyfforddwr Cymru Dan-18, Lillicrap.
"Mae Jorja yn 19 oed, mae hi bob amser yn croesi'r linell faintais - boed hi'n chwarae yn y rheng-ôl neu'r ail reng - pryd bynnag y mae hi'n cario.
"Mae hi'n chwaraewr corfforol ac o ran ei hoedran, mae'n mynd i wella a gwella."

Oes gan Gymru y chwaraewyr i lwyddo?
Mae sgiliau Cymru a dyfnder y gronfa chwaraewyr yn parhau i fod yn bwnc llosg.
Dywedodd yr hyfforddwr ymosod dros dro, Ashley Beck: "Os nad yw'r lefel sgiliau cystal ag y dylai fod, does dim ots pa siapiau rydych chi'n eu chwarae.
"Os ydyn ni am chwarae brand cyffrous o rygbi a chystadlu yn erbyn y gorau, mae angen i'r datblygiad sgiliau fod yn well."
Mae cyn-faswr Cymru, James Hook, a oedd yn sylwebu ar Scrum V ddydd Sul, wedi adleisio barn Beck.
Cwestiynodd hefyd a oedd chwaraewyr Cymru yn mynd y filltir ychwanegol i wella fel unigolion.
"Boed yn gweithio ar eich cicio am awr y dydd, eich taflu, eich pasio, eich taclo - a yw'r chwaraewyr hyn yn gwneud hynny? Dydw i ddim yn gwybod," meddai Hook.
"O'm profiad i, unwaith y bydd y sesiwn tîm wedi gorffen, mae angen i'ch swydd unigol barhau."
Trafodwyd dyfnder Cymru mewn rhai safleoedd hefyd, gyda Chymru'n amlwg angen mwy o nerth gyda'r maswyr.
Dywedodd Lillicrap: "Mae pobl wedi bod yn galw Lleucu George allan gan ddweud bod angen iddo newid yno, ond yn y pen draw pwy sy'n dod i mewn? "Os ydych chi'n ei chymryd hi oddi ar y cae, pa 'ddegau' eraill sydd gennych chi?"
"Fel maswr ar lwyfan rhyngwladol, mae'n rhaid i chi redeg y tîm hwn, allwch chi ddim taflu chwaraewr ifanc i ffau'r llewod."
Beth nesaf?
Bydd chwaraewyr Cymru'n cael wythnos i ffwrdd cyn i'r rhan fwyaf fynd yn ôl i'w clybiau ar gyfer diwedd y tymor.
Yna mi fyddan nhw'n dychwelyd i'w dyletswyddau rhyngwladol ar 27 Mehefin pan fyddan nhw'n herio'r Barbariaid yn Twickenham.
Bydd Lynn heb chwaraewyr sy'n rhan o rownd derfynol y PWR sy'n digwydd ar yr un penwythnos, felly gallai fod yn gyfle i daflu'r dis a rhoi cyfle i chwaraewyr newydd.
Ym mis Mehefin hefyd, bydd Nadine Griffiths yn dechrau ei rôl newydd fel cyfarwyddwr rygbi merched Undeb Rygbi Cymru (URC) ac mae'n siŵr o fod yn awyddus i drafod diddordeb Cymru mewn ymuno â PWR estynedig.
Yn y cyfamser, mae URC wedi hysbysebu am hyfforddwyr ymosod a blaenwyr parhaol, gyda Beck a Steve Salvin mewn swyddi dros dro yn unig.
Bydd Cymru nawr yn croesawu De Affrica ar 18 Medi a'r UDA ar 26 Medi cyn teithio i Japan am ddwy gêm brawf ym mis Hydref.
Gyda'r gemau hyn yn cyfrannu at gymhwyso i Gwpan y Byd yn 2029, mae'n hanfodol bod Cymru'n dechrau ennill neu mae'n bosibl iawn y bydd popeth y mae Lynn yn anelu ato ddim yn digwydd.