Singleton 'nôl i ddechrau'r gêm hollbwysig yn erbyn yr Eidal

Mae Seren Singleton wedi ennill tair cap dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Seren Singleton yn dychwelyd i chwarae ar yr asgell - yr unig newid i'r pymtheg fydd yn dechrau i Gymru yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad ddydd Sul yn erbyn yr Eidal.
Fe wnaeth Singleton ei hymddangosiad cyntaf yn erbyn yr Alban yn y rownd agoriadol, ac fe wnaeth hi gychwyn hefyd yn erbyn Ffrainc a Lloegr, ond nid oedd hi'n rhan o'r golled y penwythnos diwethaf yn Iwerddon gyda Hannah Dallavalle yn chwarae yn ei lle.
Mae Dallavalle yn symud i'r fainc yr wythnos hon, gyda Freya Bell yn colli allan ar le yn y garfan ar gyfer y gêm.
Roedd prif hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, yn rhwystredig gyda'r perfformiad yn Belfast, ond mae wedi rhoi cyfle arall i'w dîm, gan ddweud "nhw yw'r rhai sy'n mynd i wella pethau".
Mae Cymru wedi colli eu naw gêm ddiwethaf yn y bencampwriaeth ac maen nhw mewn perygl difrifol o dderbyn y llwy bren am y trydydd tro yn olynol.
Byddai buddugoliaeth yn erbyn yr Azzure yn ogystal â cholled i'r Alban yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn ddigon i achub Cymru rhag gorffen yn olaf eto.

Mae Cymru wedi colli eu naw gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad
"Un peth rydw i wedi'i ddweud wrth y merched a'r staff yr wythnos hon, mae gennym ni 80 munud i unioni hynny," meddai Lynn.
"Felly wrth fynd i'r Eidal, mae angen perfformiad 80 munud, un sy'n rhoi popeth yn iawn, ei dynnu at ei gilydd o Iwerddon, ond cymryd y pethau cadarnhaol o'r gemau yn erbyn yr Alban, Ffrainc a Lloegr."
Mae'r Eidal yn cyrraedd Caerdydd yn dilyn buddugoliaeth gref yn erbyn yr Alban, a sgorio pum cais yn erbyn pencampwyr y byd, Lloegr.
Mae Lynn yn gwybod y bydd angen i Gymru fod yn gadarn yn amddiffynnol yn erbyn y tîm.
"'Dy'ch chi ddim yn cael tîm ymosodol rhydd os chi'n gallu sicrhau eich bod chi'n ennill y gwrthdrawiadau," meddai.
"Os ydych chi'n edrych ar fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, fe wnaethon ni sicrhau bod ganddyn nhw'r lleiaf o amser o amgylch y ruck yn y twrnamaint hyd yn hyn.
"Felly mae angen sicrhau y gallwn fod yn gystadleuol yn y maes hwnnw i'w harafu a chadw'r cysondeb hwnnw."
Y tîm i wynebu'r Eidal
Cymru: Powell; Singleton, Cox, Keight, J Joyce; George, Bevan; Pyrs, Jones, Tuipulotu, Metcalfe, Evans, Aiono, Lewis (capt), King
Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, John, A Joyce, Lockwood, Dallavalle, Prothero
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.