Y gŵr o Wcráin sy'n ymchwilio i dirlun a choedwigoedd glaw Cymru

MykytaFfynhonnell y llun, Mykyta Osadchyi
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n enwog am ei harddwch naturiol - ei harfordir, mynyddoedd, llynnoedd, coedwigoedd a glaswelltiroedd.

Rhywun sy'n ymchwilio i'r rhinweddau naturiol yma ar hyn o bryd yw Mykyta Osadchyi. Yn wreiddiol o Wcráin, mae o wedi byw ym Mhrydain ers tair blynedd ac wedi ymddiddori'n llwyr ym myd natur Cymru, ac mae'n dogfennu ei waith ar ei gyfrif Instagram, dolen allanol.

Coedwigoedd a glaswelltiroedd

Esbonia Mykyta, sy'n 24 oed, beth yn union yw ei brosiect diweddaraf.

"Dwi yn y broses o wneud rhaglen ddogfen ynglŷn â sut mae tirlun Cymru wedi ei ffurfio a sut bod y glaswelltiroedd yn y wlad fel y maen nhw," meddai.

"Rhan fawr o'r hanes hynny yw'r coedwigoedd glaw yng Nghymru, a oedd yn gorchuddio llawer mwy o'r tiroedd yng Nghymru tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Felly, dyna sut 'nes i ddechrau ymddiddori yn y maes a dysgu am hanes tirlun Cymru.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod mai nid y tirlun yn unig oedd yn wahanol ganrifoedd yn ôl, roedd 'na anifeiliaid mawr yn pori ar hyd y caeau, fel yr aurochs, a oedd yn rhyw fath o fuwch anferthol gwyllt."

Mae gwartheg tebyg i'r rhain yn bodoli hyd heddiw, wrth gwrs.

"Roedd yr anifeiliaid yma'n torri'r coedwigoedd gan greu pocedi o laswelltiroedd," meddai Mykyta.

"Felly, er roedd 'na fwy o goedwigoedd ganrifoedd yn ôl, doedden nhw ddim mor drwchus â hynny gan fod 'na anifeiliaid fel yma yno."

coedwigoeddFfynhonnell y llun, Mykyta Osadchyi
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r coedwigoedd mae Mykyta wedi bod yn astudio

Dywed Mykyta fod yna gyfnodau pan yr oedd llai a mwy o goedwigoedd na sydd heddiw, a bod twf yn y boblogaeth wedi dylanwadu ar hyn.

"Wedi'r Oes yr Iâ diwethaf rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl roedd llawer llai o goed ym Mhrydain, gan fod hi mor oer wrth gwrs. Felly yn dilyn hynny roedd natur yn ail-hawlio ei le ac roedd 'na goedwigoedd yn tyfu'n eitha' cyflym yn y cyfnod a ddilynnodd.

"Mae 'na bobl wedi byw yn ynysoedd Prydain ers miloedd o flynyddoedd wrth gwrs, ond ers y 1,000-2,000 mlynedd diwethaf pan dyfodd y boblogaeth yn gyflym fe ehangodd y mannau byw, a olygai bod coedwigoedd wedi diflannu."

MykytaFfynhonnell y llun, Mykyta Osadchyi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mykyta wedi astudio bioleg yn Wcráin, Gwlad Pwyl ac yn Llundain

Mae'r coedwigoedd glaw yng Nghymru'n cyd-fynd â'r mannau sy'n cael y mwyaf o law, ac sy'n fwyaf llaith.

"Mae'r map dwi wedi ei wneud nid yn unig yn dangos faint o law sy'n disgyn mewn mannau, ond hefyd pa mor wlyb yw'r diwrnodau yn y llefydd yna ar gyfartaledd," meddai.

"Gallech chi gael lot fawr o law mewn ardal, ond ei fod yn disgyn mewn rhai misoedd yn unig mewn blwyddyn, gyda'r gweddill y flwyddyn yn sych. Dydi hyn ddim yn creu coedwig law, mae'n rhaid cael lleithder drwy gydol y flwyddyn.

"Felly, yng ngogledd Cymru byddai rhywun yn disgwyl i'r coedwigoedd gasglu mwy o ddŵr, bod yn wlypach a chael mwy o fwsog a chennau."

Coedwigoedd yn ein chwedlau

Dywed Mykyta fod ganddo ddiddordeb mewn natur a gwyddoniaeth ers yn blentyn, ac fe astudiodd bioleg yng Ngwlad Pwyl.

Dywed bod coedwigoedd Cymru'n rhan annatod o chwedlau'r genedl.

"Yn y llyfr The Lost Rainforests of Britain gan Guy Shrubsole, mae'n siarad am yr hen chwedlau Cymreig (Y Mabinogi), a'r ffaith bod 'na lot o gyfeiriant at goedwigoedd, derwyddon a chreaduriaid y coed, a hefyd am wartheg a moch.

"Doedd dim llawer o gyfeiriant at ddefaid na glaswellt. Felly, mae'r ddelwedd 'ma o Gymru fyswn i'n meddwl bod gan lawer o bobl - bryniau gwyrdd a defaid - mae hyn yn rhywbeth mwy diweddar na beth mae llawer yn meddwl."

mwsogFfynhonnell y llun, Mykyta Osadchyi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mykyta'n astudio pob math o dyfiant a phlanhigion sydd i'w gweld yng nghoedwigoedd Cymru

Felly, beth mae Mykyta'n ceisio ei ddarganfod o'r gwaith ymchwil mae'n ei wneud?

"Dwi eisiau ffeindio allan sut mae tirlun Cymru wedi ei ffurfio fel y mae, yr holl hanes. Ond dwi hefyd eisiau edrych i'r dyfodol, a gofyn beth yw'r ffordd orau ymlaen, ac edrych ar y berthynas rhwng adfywio'r byd natur a ffermio.

"Mae'n ymddangos y byddai adfywio natur yng Nghymru drwy dad-ddofi tir (rewilding) ledled y wlad ddim yn gweithio, ac mi fyddai'n amhoblogaidd yma.

"Ond be' dwi ddim yn gweld yn cael ei drafod yn aml yw'r cwestiwn o ollyngiad bioamrywiaeth (biodiversity leakage) - y syniad os fyddai 'na lai o ddefaid yng Nghymru, byddai 'na lai o ŵyn, ond mi fydda'r gofyn am gig oen yn aros yr un peth. Byddai rhaid i'r ŵyn 'ma ddod o rywle arall, maen debyg Seland Newydd.

"Felly, drwy adfywio natur yma a lleihau'r nifer o ddefaid, dydych chi ddim yn datrys y broblem, ond yn ei symud i wlad arall, a hefyd y pellteroedd y byddai rhaid danfon y bwyd. Dwi ddim yn gweld digon o drafod ar y materion yma."

Nifer o ddefaid yng Nghymru

Mae'r nifer o ddefaid yng Ngymru wedi gostwng dros y blynyddoedd - roedd tua 12 miliwn yma yn 1999, ac mae ychydig llai na naw miliwn yma bellach.

"Es i i ffilmio gyda ffermwr ym Mhowys ychydig wythnosau yn ôl, sy'n ffermio defaid. Dywedodd o wrtha' i y byddai rhai ardaloedd o Gymru'n elwa o llai o ddefaid, ond byddai ardaloedd eraill yn elwa o gael mwy o ddefaid, am gyfnod byr o amser.

"O'n i wedi cymryd yn ganiataol mai'r consensws oedd bod ni angen llai o ddefaid yng Nghymru, ond o ystyried gollyngiad bioamrywiaeth a'r ffaith bod yna ddigon o dir yng Nghymru ar gyfer ffermio a natur, o'n i'n gweld ei bwynt o."

defaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nifer o ddefaid yng Nghymru wedi gostwng o dair miliwn dros y chwarter canrif diwethaf

Pan oedd Mykyta yn astudio am radd Meistr yn UCL fe ymchwiliodd i'r niwed amgylcheddol a'r llygredd yn yr Afon Gwy, gan wneud rhaglen ddogfen fer ar y pwnc.

Dywed ei fod yn gobeithio gallu cyhoeddi rhaglen ddogfen yn yr haf yn trafod natur a thirlun Cymru, a pam fod gymaint o laswelltiroedd yma.

"Dwi'n gobeithio gwneud llawer o'r rhaglenni 'ma, a bydden nhw ryw 20 munud yr un - bydd o'n lot o waith gan mod i'n gwneud pob agwedd o'r gwaith!

"Dwi'n hoff o ofyn cwestiynau am y byd o fy nghwmpas i ac ymchwilio i sut mae'r byd natur yn gweithio."

Bydd Mykyta'n treulio llawer o amser dros y misoedd nesaf yng nghoedwigoedd Cymru, gyda'r amcan o allu cyflwyno darlun clir o hanes tirlun y genedl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.