'Dim digon o gefnogaeth' ar gael i olffwyr yng Nghymru

Mae Owen Edwards o'r farn bod angen mwy o gefnogaeth ar golffwyr Cymraeg wrth iddyn nhw geisio sefydlu eu hunain yn y gêm broffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r golffwyr amlycaf yng Nghymru yn dweud bod angen gwneud mwy i gefnogi chwaraewyr proffesiynol os yw'r gamp am ffynnu yma.
Yn ôl Owen Edwards, wnaeth droi'n broffesiynol yn 2018, y diffyg adnoddau yng Nghymru yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r Cymry sydd am gael gyrfa ym myd golff.
Mae perfformiad diweddar chwaraewyr o Gymru yn y prif gystadlaethau wedi bod yn siomedig, gyda'r Cymro uchaf ar restr detholion y byd yn safle 989 (Jack Davidson).
Dywedodd Gareth Jenkins, cyfarwyddwr perfformiad Golff Cymru, eu bod yn ceisio datblygu mwy o chwaraewyr sy'n gallu ffynnu yn y gêm broffesiynol – ond y gallai gymryd rhai blynyddoedd i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ddwyn ffrwyth.
Busnes golff y bachgen naw oed o Fôn
- Cyhoeddwyd13 Mai
'Dwi eisiau dangos i ferched ifanc fod golff yn cŵl!'
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2025
Daeth Edwards, 34, o fewn trwch blewyn o sicrhau ei le yn yr Open Championship am y tro cyntaf fis diwethaf, ond ni lwyddodd i fanteisio ar y cyfle wedi iddo golli saith ergyd yn y tyllau olaf.
Roedd hynny'n golygu mai dyma fyddai'r drydedd flwyddyn yn olynol heb unrhyw gynrychiolaeth o Gymru ym mhrif gystadleuaeth golff y DU.
Mae Edwards yn credu bod angen sicrhau fod newidiadau'n cael eu cyflwyno er mwyn helpu chwaraewyr o Gymru i gyrraedd lefelau uchaf y gamp.
"Pan ry'ch chi'n troi'n broffesiynol, does dim cefnogaeth ar gael," meddai.
"I fod yn glir, dwi'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ges i gan Golff Cymru - mae llawer o waith da yn digwydd - ond dwi'n credu bod y broblem yn ymwneud ag adnoddau."

Jack Davidson yw'r Cymro uchaf ar restr detholion y byd ar hyn o bryd - 989
Mae Edwards wedi cystadlu ar y PGA EuroPro Tour, y Pro Golf Tour a'r MENA Golf Tour yn y gorffennol, yn ogystal â sawl cystadleuaeth amlwg arall.
Yn naturiol, mae wedi cwrdd â nifer o chwaraewyr golff o wledydd eraill ar hyd y ffordd, ac mae'n credu bod gan chwaraewyr o rai gwledydd fantais dros eu cyfoedion yng Nghymru.
Dywedodd fod "llif anhygoel o olffwyr llwyddiannus" yn dod o Ddenmarc yn ddiweddar er ei bod hi'n wlad gymharol fach.
"Dwi'n gwybod bod ganddyn nhw lawer o gyfleoedd i gystadlu a chael profiad – boed yn amaturiaid, yn bobl ifanc neu'n hyfforddi gyda chwaraewyr proffesiynol – gyda phawb yn helpu ei gilydd ac yn gwneud defnydd o'r adnoddau hynny," meddai.
"[Yng Nghymru] chi'n troi'n broffesiynol a dyna ni; dy'ch chi ddim yn cael unrhyw gymorth pellach ac mae'r cyfrifoldeb arnoch chi eich hun.
"Dyna natur chwaraeon mewn ffordd, ond mae'n anodd. Dydy hynny ddim yn helpu chwaraewyr o Gymru i wella."

Mae Owen Edwards yn bwriadu chwarae mewn nifer o gystadlaethau rhagbrofol eleni wrth iddo geisio hawlio lle ar un o'r prif bencampwriaethau
Mae Edwards yn credu y byddai chwaraewyr proffesiynol y dyfodol yng Nghymru yn elwa o arweiniad gan y rhai sydd wedi bod yn y sefyllfa honno o'r blaen.
Dywedodd Bradley Dredge, a fu unwaith ymhlith y 50 chwaraewr gorau yn y byd, fis diwethaf ei fod wedi cynnig ei amser i Golff Cymru "ychydig flynyddoedd yn ôl" ond bod y sefydliad heb gysylltu ag ef.
Mae Edwards hefyd yn awgrymu creu "carfan broffesiynol" Gymreig, allai gwrdd yn ystod misoedd y gaeaf i rannu profiadau, neu i gael "penwythnos lle rydyn ni'n chwarae yn erbyn ein gilydd".
"Does dim cynllun, yn ôl pob golwg, i ddarparu system gymorth," meddai.
Er yn cydnabod bod cyllid yn broblem, mae'n dadlau bod newidiadau y gellir eu cyflwyno yn sydyn a heb gostau mawr.

Nid yw Cymru wedi cynnal digwyddiad ar y DP World Tour ers y Cazoo Open 2022, a enillwyd gan Callum Shinkwin o Loegr
Hoffai Edwards hefyd weld Cymru yn cynnal digwyddiad fel rhan o'r Hotel Planner Tour - sy'n gam tuag at y DP World Tour.
Pe bai Golff Cymru yn rhan o drefnu'r twrnament, byddai modd cynnig gwahoddiadau i chwaraewyr o Gymru.
"Mae'n teimlo braidd fel eich bod chi'n gofyn am bethau am ddim, ond mae'r chwaraewyr rydyn ni'n cystadlu yn eu herbyn yn cael y cyfleoedd hynny," meddai Edwards.
"Byddai'n gyfle i'r chwaraewyr [o Gymru] ddangos ein bod ni'n ddigon da i gystadlu ar y lefel yna."

Treuliodd Darcey Harry amser yn siarad ac yn chwarae gyda rhai o chwaraewyr ifanc gorau'r wlad yn Royal Porthcawl y mis diwethaf
Dywedodd Golff Cymru eu bod yn "dathlu llwyddiant pob chwaraewr o Gymru sy'n symud ymlaen i'r gêm broffesiynol" ond fod rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar y gêm amatur.
"Gan mai Golff Cymru yw corff llywodraethu'r gêm amatur yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar ddatblygu'r gêm, cynyddu cyfranogiad, darparu cystadlaethau a llwybrau, helpu clybiau a'u haelodau a datblygu a chefnogi ein chwaraewyr amatur elît," meddai Gareth Jenkins.
"Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu cymaint o chwaraewyr elît ag y gallwn ac yn canolbwyntio'n gryf ar roi'r llwyfan gorau posibl i amaturiaid elît lansio gyrfaoedd proffesiynol."
Ychwanegodd nad oedd gan y corff ddigon o gyllid i gefnogi chwaraewyr sy'n troi'n broffesiynol na chwaith i gynnal pencampwriaethau proffesiynol, er y bydden nhw "wrth ein bodd yn gwneud mwy".
Mae Jenkins yn dweud bod ymdrechion ar waith i gysylltu mwy o chwaraewyr proffesiynol gydag amaturiaid addawol, gyda'r nod o "ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf".
Nododd fod Darcey Harry – a enillodd fel chwaraewr newydd ar Daith Ewropeaidd y Merched y llynedd - wedi ymweld â rhai o chwaraewyr ifanc gorau'r wlad yn Royal Porthcawl fis diwethaf.
"Diolch i ymateb gwych gan bobl fel Darcey, Phil Price, Bradley Dredge, Jamie Donaldson ac eraill, rydym yn bwriadu dod â'r chwaraewyr hyn at ein carfanau yn amlach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.