'Cywilyddus' defnyddio AI i ysgrifennu nofel yn yr Eisteddfod
Beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen, Meinir Wyn Edwards, yn dweud ei bod yn 'gywilyddus' gweld rhywun yn anfon y fath nofel i gystadleuaeth fel hon
- Cyhoeddwyd
Mae'r defnydd o AI yn "her sy'n yn ein hwynebu fel pob sefydliad arall", meddai'r Eisteddfod Genedlaethol, ar ôl i feirniaid amau bod cystadleuydd wedi ei ddefnyddio wrth greu nofel.
Daw'r sylw wedi i feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ddweud eu bod yn credu bod un o'r ymgeiswyr wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Rebecca Thomas o Gaerdydd gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth am ei nofel 'Ynys Gwales'.
Yn ôl y beirniaid Meinir Wyn Edwards, Llwyd Owen a Lleucu Roberts, roedd hi'n "gywilyddus" bod un o'r naw o ymgeiswyr wedi penderfynu defnyddio AI mewn "cystadleuaeth mor bwysig â hon".
Enw'r darn dan sylw oedd Y Dderwen gan Lithedora, a chafodd y nofel ei gosod "ar waelod y pentwr" yn ôl y beirniaid.
'Bron yn amhosib ei ddarllen'
Ychwanegodd Meinir Wyn Edwards: "Does dim cynllun na bwa storïol yn y nofel yma, ac mae'r mynegiant carbwl a gwallus yn gwneud y cyfan bron yn amhosib ei ddarllen.
"Cymaint felly nes ein bod ni'n amau mai peiriant deallusrwydd artiffisial sydd wedi creu'r nofel, a bod yr awdur ddim wedi trafferthu darllen dros y gwaith chwaith.
"Yn ôl Llwyd Owen, yr unig gysur yw hyn - os mai dyma'r gorau sydd gan ein darpar uwch-arglwyddi i'w gynnig, mae dyfodol llenyddiaeth Cymru yn ddiogel," meddai.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Rebecca Thomas yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, fe wnaeth Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Ysgol Glanaethwy, gydnabod bod AI yn "fygythiad" i fyd y celfyddydau.
"Mae'n frawychus ar un llaw", meddai, ac yn "biti mai hyn sy'n cymryd dros y drafodaeth yn lle'n bod ni'n llawenhau yn y buddugwyr".
"Dwi'n 'nabod nifer o bobl sydd wedi colli gwaith fel cerddorion ac fel ysgrifenwyr hefyd oherwydd bod pushio botwm mor hawdd i'w gael erbyn rŵan," meddai.
Mae'n "frawychus" meddai'r prif lenor, y bardd a'r darlithydd Eurig Salisbury, ac yn "dod yn fwy ac yn fwy o ran yn ein bywydau ni gyd".
"Mae'r math yma o beth yn mynd i godi yn hwyr neu'n hwyrach a bydd rhaid i'r Eisteddfod ar ryw bwynt roi ystyriaeth fanwl i natur y cystadlu falle a chydnabod ar y naill law bod y cystadlu o dan ffugenw yn egwyddor bwysig iawn, ond mae hefyd wrth gwrs yn gadael y drws ar agor i dwyll yn y ffordd yma," ychwanegodd wrth siarad ar Dros Ginio.

Doedd clywed bod rhywun wedi defnyddio AI wrth gystadlu ddim yn syndod i Aled Parry, sy'n arbenigo mewn technoleg o'r fath
Yn ôl Aled Parry, crëwr ap Nodiadau yn Gymraeg, mae'r dechnoleg wedi gwella yn y Gymraeg dros y chwe mis diwethaf, "a Duw a ŵyr lle fydd o yn y 12 mis nesaf".
Dydy hi ddim yn syndod iddo bod rhywun wedi defnyddio AI yng Ngwobr Goffa Daniel Owen.
"Fel rhywun sy'n defnyddio AI dwi'n deall sut allith o ddigwydd. Unrhyw berson sy'n dweud dydyn nhw ddim yn defnyddio AI, fyddwn i'n cwestiynu hynny," meddai.
"Ond yn fy marn i beth dydy AI ddim yn dda yn ei wneud ydy bod yn greadigol, mae'n dda am gopïo felly mae'n gweld patrymau a'n gallu adeiladu ac ail greu patrymau. Ond beth mae Cymry'n dda am wneud yw ein bod ni'n wlad greadigol."
"Felly mae'n faes pwerus i wella'r iaith Gymraeg a dwi'm yn gweld o'n chwalu'r iaith, quite the opposite."
Eisteddfod: 'Proses yn ei lle'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae gennym broses yn ei lle sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau nad ydynt wedi defnyddio AI i greu eu gwaith.
"Defnyddiodd y beirniad y cyfle ddoe i dynnu sylw at yr her gynyddol y mae deallusrwydd artiffisial yn ei gynrychioli, yn enwedig y posibilrwydd o'i ddefnyddio fel rhan o'r broses greadigol.
"Roedd ei sylwadau'n adlewyrchu trafodaeth ehangach sy'n digwydd ar draws nifer o sectorau bellach.
"Mae sicrhau tegwch a chynnal safonau'r cystadlaethau yn egwyddor graidd i'r Eisteddfod. Ar yr un pryd, mae'r dechnoleg yma yn datblygu'n gyflym, ac mae'n bwysig felly ein bod ni'n parhau i adolygu ac addasu yn wyneb hynny."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.