Rebecca Thomas yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen

Drycin oedd ffugenw Rebecca Thomas
- Cyhoeddwyd
Rebecca Thomas sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, ac roedd naw wedi ymgeisio eleni.
Ynys Gwales yw enw'r gwaith buddugol, a Drycin oedd ffugenw Rebecca Thomas.
Mae'r nofelydd buddugol yn ennill medal, a £5,000 sy'n rhoddedig gan bobl ardal y Preseli er cof am Martin a Meryl Lloyd, Cilgerran.
Mae Rebecca Thomas yn hanesydd, nofelydd ac ysgrifwr o Gaerdydd.
Aeth i Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dywedodd Rebecca Williams bod ei buddugoliaeth "ddim cweit wedi suddo mewn a bod yn onest"
Mae Rebecca Thomas yn hanesydd, nofelydd ac ysgrifwr o Gaerdydd.
Aeth i Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Ailgydiodd mewn ysgrifennu creadigol ar ôl cwblhau ei doethuriaeth yn 2019, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Dan Gysgod y Frenhines yn 2022, a'i hysgrif gyntaf, Cribo'r Dragon's Back yn 2021, a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ysgrif O'r Pedwar Gwynt.
Aeth ymlaen i gyhoeddi nofel hanesyddol arall i oedolion ifanc, Y Castell ar y Dŵr yn 2023, a dwy nofel i blant, Anturiaethau'r Brenin Arthur ac Anturiaethau'r Afanc, yn ei rôl fel awdur preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Tŵr, yn 2025.
Yn haf 2025 treuliodd gyfnod fel artist preswyl ar Ynys Enlli, lle ysgrifennodd Ynys Gwales.
'Meistr ar adrodd stori fywiog'
Y beirniaid eleni oedd Llwyd Owen, Lleucu Roberts a Meinir Wyn Edwards.
Yn traddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan dywedodd Meinir Wyn Edwards bod y gwaith buddugol yn "nofel uchelgeisiol sy'n rhoi gwedd newydd ar ail gainc y Mabinogi".
"Mae Ynys Gwales yn hawlio'n sylw o'r dechrau.
"Hanes Llŷr a'i deulu o bysgotwyr sydd yma, a Morfudd, ceidwad Ynys Gwales, ac ar ddechrau'r nofel daw'r saith milwr a oroesodd y brwydro yn Iwerddon dan arweiniad Bendigeidfran i dafarn Moelros i chwilio am yr ynys, gan gludo pen y cawr gyda nhw.
"Mae'r sgwennu'n llifo, a'r awdur yn feistr ar adrodd stori fywiog ac ennyn chwilfrydedd y darllenydd.
"Mae yma ddychymyg byw ar waith ac mae Ynys Gwales wedi ein cyffroi ni'n tri."
Martin Huws yw enillydd Coron Eisteddfod y Garreg Las
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celfyddydol Eisteddfod y Garreg Las
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
'Does dim geiriau': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Llwyd Owen: "Gyda Game of Thrones a Lord of the Rings yn tanio dychymyg gwylwyr teledu a darllenwyr ar draws y byd, dyma nofel ffantasi sydd ag un droed ar y ddaear, er bod gweledigaeth amlwg Drycin yn gwneud i'r holl hanes hedfan."
Ychwanegodd Lleucu Roberts: "Dyma nofel a lwyddodd i hudo gyda'i chyfuniad o ffantasi chwedlonol brydferth a'r emosiynau hynod ddynol sy'n rhychwantu'r canrifoedd maith rhyngom a phobl o'r un cig a gwaed â ni.
"Llongyfarchiadau i'r awdur ar lunio nofel hudol, emosiynol, sydd wedi gwneud i ni ryfeddu at ei ddawn dweud, ac sy'n aros yn y cof."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.