Y gymuned arddio yn 'ffynnu' wrth i bobl gael cysur 'a heddwch yno'

Rachel Griffiths Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Griffiths yn un o nifer sy'n dweud eu bod wedi cael budd mawr o therapi natur.

GanMegan Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Pan drodd bywyd Rachel Griffiths yn heriol fe ddaeth o hyd i gysur mewn man annisgwyl - ei gardd.

"Doedd dim angen i mi wneud cynlluniau gyda ffrindiau, doedd dim angen i mi geisio gweld pobl, doedd dim rhaid i mi wisgo, cael cawod, na gwneud ffws mawr o fynd allan."

Dywedodd pan fyddai'r babi'n cysgu, y gallai hi "fynd i'r ardd am bum munud" a chael "eiliad fach" iddi hi ei hun.

Mae Rachel yn un o nifer sy'n dweud eu bod wedi cael budd mawr o therapi natur.

'Roedd rhyw heddwch yna'

Ar ôl cael ei hail fabi, cafodd Rachel o bentref ger Llanilltud Faerdref, Rhondda Cynon Taf, ddiagnosis o iselder ôl-enedigol a gorbryder, a hyn i gyd wrth i'r cyfnod clo hawlio'r penawdau yn 2020.

Roedd garddio yn help mawr iddi'n feddyliol, meddai.

"Doeddwn i ddim yn meddwl am ddim byd ac roedd rhyw heddwch yna, y meddwl yn tawelu."

Ychwanegodd fod cynllunio ei hamserlen wnïo hefyd wedi ei helpu i ganolbwyntio ar y dyfodol yn ystod "cyfnod eithaf ynysig".

Ond mae'r ardd yn parhau i roi budd i Rachel ac roedd yn help mawr iddi hi a'i theulu yn ystod gwres eithafol yr haf hwn meddai. Mae'n annog eraill i droi at arddio.

"Dydw i ddim am achub y byd gyda fy ngardd ond efallai pe bai pawb yn rhoi cynnig bach arni, yna byddai'n helpu.

"Mae cymaint o bethau bach y gallwch chi eu gwneud gartref sy'n gwneud gwahaniaeth."

Yn ogystl â chysur a heddwch mae Rachel hefyd wedi synnu faint o help mae wedi bod wrth iddi dydsgu Cymraeg.

"Dwi wastad wedi eisiau dysgu Cymraeg," meddai ac mae hi a'i phlant, sydd yn yr ysgol Gymraeg leol, wedi bod yn mynychu sesiynau garddio yn Gymraeg.

"Mae yna ychydig o leoedd lle maen nhw'n cyfuno'r tyfu a'ch dysgu hefyd, sy'n cŵl iawn.

"Dwi'n labeli'r planhigion yn Gymraeg fel bod rhaid i fi gofio beth ydyn nhw, fel bo' nhw'n aros yn y cof."

Mae Rachel hefyd yn ceisio dysgu enwau cywir ar gyfer yr adar a'r anifeiliaid mae'n eu gweld yn yr ardd.

"Gobeithio un diwrnod byddwn ni'n cael sgyrsiau llawn yn yr ardd gyda'r merched yn y Gymraeg. Dyna fyddai'r freuddwyd," ychwanegodd.

Hannah Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Matthews hefyd wedi cael cysur o fod yn yr awyr agored

Pan gollodd Hannah Matthews ei thad a'i nain yn sydyn yn 2023, cafodd hi hefyd gysur o fod yn yr awyr agored.

"Byddai fy meddwl yn brysur iawn ac yn sydyn byddwn i allan yma am 7 y bore yn tynnu chwyn," eglura.

Nawr, mae gan y fenyw 31 oed o Gasnewydd fwy na 70,000 o ddilynwyr ar Instagram a TikTok ac mae'n un o filoedd o bobl ifanc sy'n rhannu eu ffyrdd o arddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Hannah, mae garddio "yn ffordd o gymryd rheolaeth yn ôl a rhoi rhywbeth llawen yn eich dyfodol" yn enwedig ar gyfer pobl ifanc sy'n ceisio mynd i'r afael ag argyfwng costau byw a marchnad swyddi araf.

Hannah MatthewsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah ei bod hi ddim wedi defnyddio garddio fel ffurf o therapi ar bwrpas ond ei bod yn cadw mynd allan yno

"Mae'r gymuned arddio yn ffynnu," meddai Hannah.

Mae hi'n rhannu amrywiaeth o gynnwys ar ei chyfryngau cymdeithasol gan gynnwys awgrymiadau garddio a lluniau o'i blodau.

"Cefais fy ngeni yn '95 felly mae fy nghenhedlaeth i yn y math o rai sy'n gwybod sut beth yw tyfu i fyny gyda bywyd analog a diwylliant digidol."

Ychwanegodd ei bod hi'n "gyfnod anodd i bobl ifanc" oherwydd bod sgyrsiau'n cael eu dominyddu gan yr argyfwng costau byw, newid hinsawdd, marchnad swyddi "enbyd", deallusrwydd artiffisial a diffyg swyddi i raddedigion.

"Dydw i ddim yn dweud ein bod ni wedi ei chael hi'n anoddach na phob cenhedlaeth arall.

"Ond mae'n heriol bod yn ifanc ac efallai cael disgwyliadau sy'n wahanol i'r rhai oedd gan genedlaethau ein rhieni a'n neiniau a'n teidiau."

Dywedodd fod yr ardd yn "lle diogel" i "gymryd rheolaeth o'ch lle bach o dir neu'ch balconi neu'ch potiau yn y gegin neu beth bynnag y gallwch chi ei gael".

Yn sicr dyna gynigiodd ei gardd iddi hi, meddai, pan brofodd golli ei thad a'i nain yn 2023.

"Wnes i ddim defnyddio garddio fel dull ymwybodol o therapi ond roeddwn i'n dod o'n i'n ffeindio fi fy hun allan yma, yn potsio o gwmpas," meddai.

"Mae'n cliché ond mae creu a maethu bywyd newydd a thwf newydd yn gylch bywyd mewn gwirionedd."

Pan ofynnwyd iddi a yw'n eironig ei bod hi'n gwrthod byd digidol go iawn ond yn postio ei hobïau ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Hannah ei fod yn ffordd o "ail-gipio rhywfaint o le sy'n teimlo'n llai tensiwn" ar y llwyfannau hynny.

"Mae'n dod â llawenydd i mi a gobeithio pan fydd rhywun arall yn sgrolio'r tywyllwch, maen nhw'n cael ychydig o dawelwch yn eu diwrnod hefyd."

Dywedodd Hannah ei bod hi'n ystyried bod paratoi ar gyfer garddio yn debyg i baratoi ar gyfer ras.

"Fel arfer, byddech chi'n hyfforddi ar gyfer marathon 16 wythnos allan sydd tua thymor ymlaen llaw, sef sut mae garddio'n gweithio hefyd.

"Rydych chi'n cynllunio llawenydd i'ch bywyd er mwyn i'r tymor nesaf fod yn doreithiog."

Ychwanegodd fod bod yn berchen ar dŷ a chael mynediad at ofod awyr agored yn "fraint wirioneddol".

"Pan ddechreuais bostio gyntaf, cefais rai sylwadau: 'Rhaid ei fod yn braf, banc mam a dad'.

"Rwy'n gobeithio ysbrydoli'r syniad y gellir gwneud garddio ym mha bynnag le sydd gennych - potiau ar sil ffenestr y gegin, pethau fel 'na - mae'r weithred o wneud rhywbeth gyda'ch dwylo a'i gynllunio a'i weld yn ffynnu yn anhygoel."

Naomi SaundersFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi Saunders yn dweud bod gan y byd garddio "gymuned ar-lein sy'n cefnogi ei gilydd yn fawr"

Dechreuodd Naomi Saunders o Felinheli, 32, arddio yn ystod y cyfnod clo ac yn gyflym daeth o hyd iddi hi ei hun yn berchen ar fwy na 300 o blanhigion tŷ.

"Dechreuais ddogfennu fy mhlanhigion tŷ a'm llysiau ar Instagram yn eithaf cynnar ac yn bendant nid oedd garddio yn beth enfawr bryd hynny," meddai.

Ers hynny mae dilyniant Naomi ar-lein wedi tyfu ac mai miloedd yn ei dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a chafodd ei gwahodd i Sioe Flodau Chelsea yr RHS er mwyn creu cynnwys.

Mae Naomi'n credu bod pobl ifanc yn arbennig yn cael eu denu at gynnwys garddio gan eu bod "yn fwy ymwybodol nawr o roi eu ffonau i lawr".

"Mae'n gymuned ar-lein sy'n cefnogi ei gilydd yn fawr hefyd," ychwanegodd.

"Mae garddio yn rhywbeth lle mae pobl wir eisiau gweld ei gilydd yn gwneud yn dda."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig