Cynllun i godi fferm wynt ar fynyddoedd Cambria ger Tregaron

Bryniau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol

GanEllis Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Bydd pobl Tregaron yn cael cyfle dros y misoedd nesaf i roi barn ar gynllun i godi fferm wynt ar y mynyddoedd gerllaw.

Mae cwmni EDF yn dweud y gallai prosiect Nant y Maen gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 146,000 o gartrefi, ond mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon am gynlluniau o'r fath.

Byddai'r melinau'n cael eu codi i'r dwyrain o Dregaron, a'r tyrbinau i'w gweld ar hyd y llwybr i gapel hanesyddol Soar y Mynydd.

O holi barn pobl yn y dref, roedd hi'n amlwg eu bod nhw'n gweld manteision, ac anfanteision hefyd.

Elinor Ashworth Chandler a Jordan Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elinor Ashworth Chandler a Jordan Taylor yn deall manteision ac anfanteision fferm wynt o'r fath

"Sai'n siŵr," meddai Jordan Taylor, gŵr ifanc 24 oed.

"Ma' fe'n un anodd, anodd i gael energy, niwclear a petha fel 'na.

"Os hwnnw 'di'r unig ffordd ni'n gallu cael solution... ia. So fi'n 100%, does dim lot o solutions eraill 'da ni."

Ond roedd Elinor Ashworth Chandler yn llai cefnogol i'r syniad o gael melinau gwynt.

"Na, dim rili. Fi yn meddwl bod hi'n dda i gael egni o felin wyntoedd a petha' [adnewyddadwy] ond mae fe'n ardal mor hardd, fydde fe'n siom fi'n meddwl i sbwylio'r tirlun.

"Mae mynyddoedd y Cambria jyst mor rhydd a mor wyllt, a fi ddim yn credu fydde fe'n beth neis i roi lan 'na."

Mynyddoedd Cambria
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai prosiect Nant y Maen gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 146,000 o gartrefi, medd EDF

Mae cwmni EDF yn pwysleisio y byddai cynllun Nant y Maen yn golygu ynni glân - rhan bwysig o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai'n ynni dibynadwy ynghanol cyfnod o ansicrwydd byd-eang.

Ar ben hynny, fe fyddai'n golygu gwaith i fusnesau Cymreig, gan gyfeirio at ymgynghorwyr amgylcheddol Dulas, BSG Ecology a changen Aberystwyth o wasanaethau EDF.

Mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon, fodd bynnag, am gynlluniau o'r fath.

Ar eu gwefan maen nhw'n pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol, ac o gael melinau gwynt o gwbl, mae'n rhaid i'r rheiny fod yn ddigon bach i beidio ag amharu gormod.

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod y llywodraeth eisiau "gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glan"

Gyda llywodraeth newydd wrth y llyw ym Mae Caerdydd, fe holodd rhaglen Newyddion S4C farn y gweinidog ynni, Adam Price.

"'Dan ni ddim yn gallu sôn am unrhyw brosiect yn unigol am resymau sydd yn ddealladwy," meddai.

"Ry'n ni eisiau wrth gwrs gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glân.

"Mae hynny'n greiddiol i'n gweledigaeth ni ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer yr economi - er mwyn sicrhau bod y budd yna sydd gyda ni o ran potensial ynni glân, yn helpu cymunedau Cymru, helpu economi Cymru er mwyn ffynnu.

"A bod y budd yna wrth gwrs i'r graddau sydd yn bosib yn aros yma yng Nghymru."

Mae'r datblygwyr wedi cyflwyno cais i Gyngor Ceredigion i gael gosod offer ar y tir i fesur cyflymder y gwynt.

Dros yr hydref bydd cyfle i bobl Tregaron ddweud a fydden nhw am weld fferm wynt yn yr ardal, wrth i ddigwyddiadau holi barn gael eu cynnal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig