'Dim lle i beilonau' ar gyfer cysylltiadau trydan newydd - gweinidog ynni

Yn ôl Adam Price, does yna "ddim lle i beilonau" ar gyfer cysylltiadau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog ynni Cymru wedi mynnu y bydd ei blaid yn cadw at eu hymrwymiad i wrthod caniatâd ar gyfer peilonau dur ar gyfer cysylltiadau trydan newydd.
Dywedodd Adam Price bod y maniffesto yn "hollol eglur" gan ei fod yn fater o "bwys mawr i etholwyr" mewn sawl rhan o Gymru.
Yn ôl Mr Price, mae Plaid Cymru yn cefnogi tanddaearu cysylltiadau newydd, neu ddefnyddio polion pren ble nad yw hynny yn bosib.
Dywedodd cwmni Green Gen Cymru, sydd eisiau datblygu nifer o gysylltiadau newydd o'r canolbarth, eu bod nhw am gydweithio mewn "ffordd adeiladol" gyda'r llywodraeth newydd.
500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Ffermwyr yn sicrhau hawl i geisio adolygiad barnwrol dros beilonau
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Tirfeddianwyr yn mynd â chwmni cynllun peilonau i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am benderfyniadau cynllunio sydd yn ymwneud â llinellau newydd sydd yn cludo hyd at 132kv o drydan.
Mae llinellau foltedd uchel yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae ymgyrchu mawr wedi bod yn erbyn rhwydwaith posib o beilonau yn Nyffryn Tywi - o fferm wynt arfaethedig Bute Energy yn Nant Mithill ym Mhowys i is-orsaf newydd yn Llandyfaelog ger Caerfyrddin.

"Mae'r peth hyn wedi bod yn becso pobl yr ardal 'ma am amser maith," meddai Angharad Thomas
Mae Angharad Thomas yn rhedeg safle twristiaeth Castell Carreg Cennen gyda'i theulu ger pentref Trap yn sir Gaerfyrddin.
Er nad yw llwybr y peilonau yn agos at y castell hynafol, mae hi'n gwrthwynebu codi peilonau yn yr ardal, ac mae'n dweud mai dyma oedd y pwnc pwysicaf iddi yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd.
"Mae'n hynod o bwysig. Mae'r peth hyn wedi bod yn becso pobl yr ardal 'ma am amser maith," meddai.
"Roedd e'n neis i gael dewis ein hunain ar ba blaid oedd yn mynd mewn i'r Senedd, a pha blaid oedd yn mynd i sefyll lan amdanom ni, ac am ein gwlad ni.
"Fi'n gorfod gweud mai dyma oedd y tro cyntaf i fi ddarllen pob maniffesto i weld yn union beth oedd pawb yn mynd i wneud!
"Roedd e'n bwysig iawn rownd ffordd hyn.
"Mae Plaid Cymru wedi addo bod nhw ddim yn mynd i adael nhw i ddefnyddio peilonau, ac mae hwnna yn beth gwych, a ni jyst yn gobeithio bod nhw'n mynd i aros i beth maen nhw wedi dweud.
"Ni'n gobeithio y byddan nhw yn ddigon dewr a sefyll lan a ddim yn mynd i gael eu perswadio gan y cwmnïau 'ma."

Er nad yw llwybr y peilonau yn agos at y castell hynafol, mae Angharad yn gwrthwynebu codi peilonau yn yr ardal
Fe awgrymodd adroddiad i Lywodraeth Cymru gan banel o arbenigwyr annibynnol ar ddechrau'r flwyddyn bod y gost o osod ceblau trydan dan ddaear tua 2.2 i 2.8 gwaith yn ddrytach na defnyddio peilonau.
Mae Angharad Thomas yn mynnu dylai unrhyw gysylltiadau newydd fod o dan ddaear yn hytrach nac ar beilonau.
"Mae bywyd fi wastad wedi bod o gwmpas twristiaeth. Mae pobl yn dod i'r ardal yma achos beth sydd gyda ni," meddai.
"Mae pobl o dros y byd i gyd yn dod yma achos mae gwlad ni mor anhygoel o bert. Bydd e'n cael effaith ofnadwy ar yr ardal 'ma.
"Mae'n rhaid iddo fynd dan ddaear. Dyna beth maen nhw yn gwneud yn Ewrop.
"Fi'n credu os mae Plaid yn newid meddwl, neu baco lawr, bydd e'n political suicide."

Mae'r gost o osod ceblau trydan dan ddaear tua 2.2 i 2.8 gwaith yn ddrytach na defnyddio peilonau
Dywedodd Adam Price bod ei blaid yn "glir iawn" o blaid tanddaearu a bod "dim lle o gwbl ar gyfer peilonau o fewn llinellau newydd yn dosbarthu, ble y'n ni'n rheoli".
"Ni'n derbyn mewn rhai rhannau bydd rhaid cael eithriadau o ran tanddaearu - nid ar gyfer peilonau, s'dim lle ar eu cyfer nhw ar linellau newydd - ond ble mae yna eithriadau, polion pren neu isadeiledd tebyg i hynny."
Roedd y llywodraeth Lafur flaenorol o blaid gosod ceblau dan ddaear, ond bod angen cymryd "safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai'n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw".
Yn ôl Adam Price, does yna "ddim lle i beilonau" ar gyfer cysylltiadau newydd.
"Roedd y maniffesto yn hollol glir ac yn gadarn ar y pwynt yma. O fewn y pwerau sydd gyda ni, does yna ddim lle ar gyfer peilonau.
"Fydd yna ddim peilonau ar linellau dosbarthu newydd o fewn Cymru sydd yn rhan o'n penderfyniad ni."
'Datgloi potensial ynni cenedlaethol Cymru'
Mae cwmni Green Gen Cymru yn bwriadu datblygu cysylltiadau newydd o ffermydd gwynt newydd ym Mhowys a Cheredigion gan ddefnyddio peilonau i gludo trydan i is-orsaf newydd yn Llandyfaelog.
Pan ofynnwyd am sylw ynglŷn â sylwadau'r gweinidog newydd, dywedodd y cwmni eu bod "yn awyddus i ddatgloi potensial ynni cenedlaethol Cymru".
"Ein bwriad yw creu rhwydweithiau sydd yn gweithredu yn y ffyrdd mwyaf effeithlon ac economaidd i gwsmeriaid a chymunedau yng Nghymru.
"Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio yn adeiladol gyda llywodraeth newydd Cymru wrth iddi ddatblygu strategaeth ynni a fframwaith polisi.
"Mae hyn yn cynnwys cydweithio ar isadeiledd y grid er mwyn cydbwyso ystyriaethau ar effaith amgylcheddol, cost ac ymarferoldeb, a sicrhau bod yna gysylltiad amserol gyda ffynonellau newydd o ynni.
"Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu tystiolaeth a gwybodaeth wrth i'r polisïau hyn gael eu datblygu."
Dywedodd NESO - y Gweithredwr System Ynni Genedlaethol - eu bod yn "ystyried cymunedau a'r amgylchedd" wrth bwyso a mesur cynlluniau cwmnïau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.