Hoff luniau y curadur o Aberystwyth yn ei arddangosfa olaf

Cyn iddo ymddeol mae Wil Troughton wedi dewis ei hoff luniau o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer ei arddangosfa olaf
- Cyhoeddwyd
Sut mae dewis llai na 40 o luniau allan o gasgliad o dros filiwn?
Dyna'r dasg i Wil Troughton - curadur ffotograffau y Llyfrgell Genedlaethol – wrth iddo roi ei arddangosfa olaf at ei gilydd cyn ymddeol yn yr haf ar ôl gweithio yno am 34 o flynyddoedd.
Dewis personol yw'r arddangosfa – detholiad o luniau a dynnwyd gan hoff ffotograffwyr Wil, ac mae'n cynnwys ystod o arddulliau o luniau dogfennol a newyddiadurol i bortreadau o fywyd bob dydd.
Mae'n cynnwys delwedd drawiadol o filwr Americanaidd a phlentyn yn Fietnam ym 1967 a dynnwyd gan Philip Jones Griffiths, a lluniau a dynnwyd yn India yn yr 1860au ochr yn ochr â delweddau mwy cyfoes o fywyd bob dydd yng Nghymru.

Pentref yn India - llun a dynnwyd yn yr 1860au gan Samuel Bourne. Cafodd lluniau Bourne eu casglu gan Dr J Lynn-Thomas o Lwyndyrys, Ceredigion
Dywedodd Wil ei fod wedi treulio tipyn o amser cyn dewis pa luniau i'w cynnwys o gasgliad enfawr y llyfrgell.
"Mae rhai jyst yn neidio allan o'r bocsys a chi'n meddwl 'O rhaid i fi ddangos hwn', a rhai eraill yn teimlo fel hen ffrindiau – dw i wedi gweld nhw sawl gwaith a dwi dal yn hoffi nhw a dw' i dal yn meddwl bod nhw'n gryf a bod rhyw neges yn y llun."
Dywedodd ei fod yn gwybod yn syth pa luniau fyddai'n llenwi hanner yr arddangosfa – "gyda'r hanner arall ro'n nhw'n bethau o'n i wedi anghofio amdanyn nhw ac eisiau eu rhoi nhw mewn.
"Dwi eisiau defnyddio mwy o luniau cyfoes na hen luniau – felly mae'r rhan fwyaf yn bethau eithau cyfoes."

'Jane' gan y ffotograffydd o Sir y Fflint, Ceridwen Hughes

Llun o siop ym mhentre Pont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion a dynnwyd gan Aled Jenkins - un o nifer o ffotograffau yn yr arddangosfa sy'n dal eiliad o fywyd bob dydd

Mae rhai o luniau'r arddangosfa yn dangos y cyfarwydd - a'r anghyfarwydd - ym mywyd cefn gwlad
Dechreuodd Wil Troughton weithio yn y llyfrgell ym mis Ionawr 1992 yn yr adran darluniau a mapiau.
Mae Aberystwyth yn agos at galon Wil, a aeth i Ysgol Ardwyn ac yna Penglais. Mae sawl hen lun o'r dref yn yr arddangosfa gan gynnwys un o'r promenâd sy'n dangos Neuadd y Brenin, gafodd ei dymchwel yn 1989.
Pan ofynnwyd i Wil i ddewis ei hoff lun o'r rhai sydd yn yr arddangosfa dywedodd "Heddi bydden i'n dewis y llun o'r Overton, llong ager yn harbwr Aberystwyth, wedi'i dynnu gan Arthur Lewis ffotograffydd lleol yn 1926.
"Wi'n credu ei fod yn llun eitha cryf – mae marciau y teiars yn arwain y llygaid mewn at le mae dau forwr yn sefyll a hefyd mae hen lori. Llun naturiol iawn, llawn o bethau sy'n wahanol i heddi."

'Overton' llong ager yn Aberystwyth ym 1926 - mae Wil wrth ei fodd gyda'r llun sy'n atgof o hanes yr harbwr pan fyddai llongau mawr ymweld
Byddai Wil wedi hoffi cynnwys mwy o luniau yn yr arddangosfa, ond bu'n rhaid hepgor rhai oherwydd diffyg lle.
Un na sydd wedi ei gynnwys oedd llun o fan hufen iâ yn Llandeilo ym 1925 a dynnwyd gan D C Harries.
Mae nifer o'r ffotograffau yn dal eiliad o fywyd bob dydd – rhywbeth sy'n apelio at Wil.
"Mae'n syndod pa mor anodd yw tynnu lluniau o bethau bob dydd.
"Unwaith daw'r camera allan, mae pobl yn dechrau ymateb yn wahanol. Er enghraifft, y lluniau a dynnodd Haydn Denman o'r A470, maen nhw'n wych!
"Dehongliad pob ffotograffydd sydd fan hyn, ac maen nhw i gyd yn edrych ar bethau ychydig yn wahanol.
"Dwi'n credu fod (yr arddangosfa) yn rhoi cipolwg ar sut mae Cymru wedi bod yn ystod y degawdau diwethaf."

'Sut allai unrhyw un wrthod prynu hufen iâ o fan hyn?' gofynnodd Wil Troughton. Er ei fod yn hoff iawn ohono, doedd dim modd cynnwys y llun hwn yn Llandeilo yn 1925 yn yr arddangosfa

Un o gyfres o luniau gan Haydn Denman yn cofnodi delweddau bob dydd o fywyd ar brif ffordd yr A470
Ar noson lansio'r arddangosfa fe roddodd Rhodri Llwyd Morgan deyrnged i Wil Troughton.
"Ar hyd gyrfa sy' wedi para dros 30 o flynyddoedd mae e wedi helpu i adeiladu'r casgliad mwyaf o ffotograffau yng Nghymru, dros filiwn o ffotograffau sy'n adlewyrchu pob rhan o fywyd nid yn unig fan hyn yng Nghymru ond yn rhyngwladol hefyd.
"Fe welwn ni golled enfawr ar ôl Wil – mae ei wybodaeth, ei arbenigedd a'i ofal dros y casgliadau yn ei wneud yn un o'r ffigyrau chwedlonol sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
"Ni'n falch iawn o'i gyfraniad a dwi'n siwr bydd y bobl sy' wedi cyfrannu casgliadau yn ei weld e fel un o drysorau'r llyfrgell."
Enw'r arddangosfa yw 'Lens y Curadur: Gyrfa o Gasglu' ac mae hi i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol tan fis Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2023

- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
