'Fi yw'r unig arweinydd cerddorfa ifanc sydd â nam golwg'

- Cyhoeddwyd
Ganwyd Georgia Steel gyda nam golwg. Erbyn heddiw, mae Georgia - sy'n defnyddio'r rhagenw 'nhw' - wedi colli golwg yn gyfan gwbl yn y llygad chwith, a gyda ychydig o olwg yn y llygad dde.
Ond dydy hynny ddim wedi eu hatal rhag dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth, fel fiolydd, arweinydd ac addysgwr.
"Ti jest yn delio gyda phethau, a dod o hyd i ffyrdd i wneud stwff."
Dyna agwedd Georgia tuag at fyw bywyd gyda nam golwg. A dyna'r un agwedd sydd ganddyn nhw tuag at gerddoriaeth hefyd.
Datblygodd y cariad tuag at gerddoriaeth pan ddechreuodd ar y piano, ond ar ôl cael trafferth darllen y sgôr oherwydd fod gymaint o nodau, penderfynodd droi at y fiola.
Heddiw mae'n fiolydd proffesiynol ac hefyd wedi codi'r baton ac yn arweinydd cerddorfaol a chyfarwyddwr cerdd ar ddwy gerddorfa siambr.
Technoleg a chof da!
Un peth sydd bendant wedi helpu Georgia, eglurai, yw technoleg.
"Mae hi'n gyffredin i bobl ddefnyddio iPads i ddarllen eu cerddoriaeth y dyddiau yma, ond roedd yn beth newydd pan 'nes i ddechrau gwneud yn y coleg.
"'Naeth o newid fy mywyd i achos ar y tablet mawr, am y tro cyntaf, roedd gen i gerddoriaeth oedd ddigon mawr i mi ei darllen! Do'n i erioed wedi sylweddoli gymaint o wahaniaeth oedd hynny'n ei wneud.
"Dwi'n gallu gweld tair neu bedair llinell ar y tro, a thrwy ei gysylltu gyda phedal, mae'n sgrolio fyny pan dwi angen.
"Dyma'r rheswm pam dwi wedi gallu chwarae gymaint o fiola ag ydw i wedi gwneud. Mae wedi ngalluogi fi i fod mor brysur â dwi eisiau."

Mae Georgia yn defnyddio sgôr ddigidol ar sgrin fawr er mwyn gallu gweld y nodau
Fodd bynnag, dydy Georgia ddim wedi dod o hyd i ddatrysiad technolegol i'w helpu â sgôr gerddorfaol, sydd yn gallu bod yn enfawr, gyda llinellau ar linellau o gerddoriaeth offerynnau gwahanol ar bob tudalen.
Felly defnyddio sgorau mawr a chopis digidol ar y cyd yw'r ateb – a llawer o waith cartref. Ac yn lwcus, mae ganddyn nhw gof gwych, ar ôl blynyddoedd o ymarfer a chofio darnau yn hytrach na cheisio eu darllen.
"Gan fod gen i ychydig o olwg yn fy llygad dde, dwi'n gallu dysgu cerddoriaeth fel mae person â golwg yn gwneud. Ond mae manylion bach yn gallu bod yn anodd, felly dwi'n gallu zoomio mewn i'w gweld. Mae hi'n rhy hwyr i fod yn gwneud hynny yn y cyngerdd – ti angen ei wybod yn barod!
"Dwi wedi mireinio fy nghof dros y blynyddoedd; dyna ran o fy mhroses ddysgu."
'Pobl yn rhagdybio fy ngallu'
Yn wreiddiol o Seland Newydd, mae Georgia bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Mae'n teimlo fod yna fwy o gyfleoedd i ehangu gyrfa gerddorol yng Nghymru na sydd yn eu gwlad enedigol.
Yn un peth, mae hi'n haws i deithio o amgylch y lle ar drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhrydain ac Ewrop na nôl adref, meddai, am nad ydyn nhw'n gallu gyrru, wrth gwrs.

Ond mae'r heriau mae cerddorion anabl yn eu hwynebu'n wir ym mhob man, meddai, ac un o'r prif rwystrau yw pobl yn cymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod beth mae'n gallu ei wneud neu beidio.
"Weithiau dwi ddim yn sôn am fy anabledd yn syth, wedyn dwi unai'n crybwyll y peth neu mae'n dod yn amlwg. Dwi eisiau i bobl fy marnu fi ar sail fy ngallu a dim beth maen nhw'n ei dybio ydy fy ngallu.
"Dwi wedi colli cyfleodd oherwydd fy nam golwg o bosib, a dwi methu gyrru i swyddi, ac mae hynny wedi cael effaith ar fy natblygiad.
"Ond mae fy nam gweld wedi bwydo i mewn i sut dwi'n addysgu.
"Dwi'n rhoi gwersi piano, fiola, feiolin a theori i bobl o bob oed, mewn person ac ar-lein – mae rhai nôl yn Seland Newydd!
"Mae gwersi cerddoriaeth yn un-i-un, a dyna pam eu bod yn wych, achos ti'n addasu i bwy bynnag sydd o dy flaen. A dwi'n gwybod sut beth yw gorfod addasu."
Pwysig siarad yn agored am anabledd
Yn ddiweddar, trefnodd gyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a oedd yn dathlu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr anabl, gyda Georgia'n arwain cerddorfa oedd yn cynnwys rhai cerddorion anabl, eglurai.
"Daeth gitarydd ata i gyda chais i wneud y concerto i'r gitâr gan Rodrigo. A dim ond ar ôl ymchwilio 'nes i ddeall fod Rodrigo yn gyfansoddwr dall.
"Fel rhan o fy nghwrs meistr, 'nes i edrych am – a methu ffeindio – unrhyw arweinydd ifanc dall arall. Dim ond fi sydd wrthi.
"Felly 'nes i feddwl y basai'r cyngerdd yn gallu helpu i ailfframio sut mae pobl yn meddwl am gerddorion anabl.

"Mae hi mor bwysig i gael sgwrs agored am anabledd mewn cerddoriaeth. Gyda'r cyhoedd, er mwyn addysgu ac i roi cyfleoedd i bobl anabl gael arbrofi gyda cherddoriaeth.
"Ond hefyd gyda cherddorion anabl ar bob lefel, fel bod modd addasu ar gyfer eu anghenion, peidio cymryd dim yn ganiataol am allu pobl, a chreu gofod lle dydy pobl ddim ofn bod gofyn am addasiad yn golygu eu bod yn cael eu gadael allan.
"Yn aml, does ond angen ychydig o addasiadau hygyrchedd, ond mae 'na rai pobl wedi gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd diffyg cefnogaeth neu brofiadau negyddol.
"Mae cerddorion a chyfansoddwyr anabl wastad wedi bodoli, ac os alli di roi'r cyfleoedd a'r mynediad cywir, gall pobl wneud pethau anhygoel gyda cherddoriaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd25 Chwefror
