Pryder am 'sgil effeithiau' gwahardd parcio dros nos yn Eryri

EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwahardd parcio dros nos mewn 11 o'u meysydd parcio.

Mae oddeutu pedair miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, ac mae llawer ohonyn nhw'n parcio dros nos i allu gweld y wawr o gopa'r mynyddoedd.

Dywedodd y parc cenedlaethol eu bod yn gwneud y newidiadau er mwyn mynd i'r afael â "phroblemau yn ymwneud â campervans" ac "ymddygiad gwrthgymdeithasol".

Ond mae rhai trigolion yn poeni y bydd y gwaharddiad ar barcio dros nos yn annog pobl i barcio ar strydoedd preswyl, ac mae un arweinydd teithiau lleol yn pryderu am yr effaith ar ei busnes.

Ian Young
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Young yn dweud bod rhai gwersyllwyr dros nos wedi defnyddio ei ardd fel toiled

Mae Ian Young, sy'n byw yn agos i'r maes arhosiad hir ym Metws-y-Coed, yn dweud bod rhai gwersyllwyr dros nos wedi defnyddio ei ardd fel toiled ac yn gadael sbwriel ar y strydoedd.

Mae'n poeni y bydd pobl yn parcio ar ei stryd yn sgil y gwaharddiad.

"Pan ti'n byw yma, nid yn unig fel rhywun lleol, ond fel rhywun sy'n rhedeg busnes - mae gennon ni lety gwyliau ac mae 'na B&B drws nesa' - mae'r diffyg parch gan rhai pobl, er eu bod nhw yn y lleiafrif, yn gallu peryglu eich busnes," meddai.

'Sgil effeithiau amlwg'

Dywedodd Cyngor Cymuned Betws-y-Coed eu bod yn "deall y rhesymau dros y gwaharddiad ar barcio dros nos gan gynnwys campervans".

Ond dywedon nhw eu bod wedi gweld "sgil effeithiau amlwg" ers i'r gwaharddiad newydd ddod i rym - gan gynnwys mwy o bobl yn parcio ar ochrau ffyrdd a lleoedd parcio dros nos.

Dywedodd y cyngor fod trigolion wedi cael eu heffeithio gan wersyllwyr dros nos.

Mae rhai wedi cwyno am sŵn, problemau parcio, pobl yn defnyddio cloddiau cyfagos fel toiledau a bod gwastraff mewn bagiau yn cael ei adael ger biniau sbwriel.

Maes parcio Betws-y-Coed
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc cenedlaethol wedi gwahardd pobl rhag defnyddio'r meysydd parcio rhwng 22:00 a 03:00

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi gwahardd parcio dros nos yn y meysydd parcio canlynol:

  • Pont Bethania - Parcio ar gyfer Nant Gwynant a Llwybr Watkin Yr Wyddfa

  • Llyn Cwellyn - Parcio ar gyfer Llwybr Cwellyn Yr Wyddfa a llwybr pren Llyn Cwellyn

  • Rhyd Ddu - Parcio ar gyfer llwybr Rhyd Ddu Yr Wyddfa, a Lôn Gwyrfai

  • Betws-y-Coed - Maes parcio arhosiad hir, ddim yn berthnasol i Cae Llan

  • Ogwen - Parcio ar gyfer Cwm Idwal a Dyffryn Ogwen

  • Beddgelert - Parcio ar gyfer Beddgelert, Lôn Gwyrfai a Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan

  • Tŷ Nant - Parcio ar gyfer Llwybr Merlod Cader Idris

  • Dôl Idris - Parcio ar gyfer Llwybr Minffordd Cader Idris

  • Morfa Dyffryn - Parcio ar gyfer llwybr troed Penarlyn a Thraeth Bennar

  • Llyn Tegid - Y prif faes parcio ar gyfer Llyn Tegid a'r Bala

  • Llangower - Parcio i'r de o Lyn Tegid

Gemma McInnesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Nid oes digon o lefydd parcio fel y mae hi yn y parc cenedlaethol o ddydd i ddydd," medd Gemma McInnes

Mae Gemma McInnes, sy'n arwain teithiau cerdded yn Eryri, yn ofni y gallai golli arian a chleientiaid o ganlyniad i'r gwaharddiad.

Mae Gemma, o Gerrigydrudion, Conwy, yn galw ar y parc i ailystyried y cynllun, gan ddweud ei fod yn "creu mwy o broblem".

"Nid oes digon o lefydd parcio fel y mae hi yn y parc cenedlaethol o ddydd i ddydd," meddai.

'Annog pobl i ddefnyddio meysydd gwersylla swyddogol'

Dywedodd llefarydd ar ran Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn deall y pryderon sydd wedi dod i'r amlwg.

Dywedodd y bydden nhw'n "annog ymwelwyr sy'n bwriadu aros dros nos i ddefnyddio meysydd gwersylla swyddogol neu gyfleusterau amgen fel safleoedd penodol ar gyfer cartrefi modur - maen nhw wedi'u lleoli mewn trefi a phentrefi ychydig y tu allan i ffiniau'r Parc Cenedlaethol yng Ngwynedd".

"Mae'r dewisiadau hyn nid yn unig yn darparu cyfleusterau priodol ond maent hefyd yn cyfrannu at yr economi leol, gan helpu i leihau'r pwysau ar leoliadau sensitif o fewn y parc a chymunedau cyfagos," ychwanegodd llefarydd.

"Mae ein meysydd parcio yn dal ar agor am 17 awr y dydd, sy'n rhoi digon o amser ar gyfer cyfleoedd hamdden, ac mae rhai o'n meysydd parcio allweddol yn parhau ar agor 24 awr y dydd i'r rhai sy'n dymuno cael mynediad i'r parc cenedlaethol ar adegau eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.