Plac porffor i Mollie Phillips, yr arloeswraig sglefrio iâ o Gaerfyrddin

- Cyhoeddwyd
Cafodd sglefrwraig iâ o Gaerfyrddin a gystadlodd yn y Gemau Olympaidd ei anrhydeddu gyda Phlac Porffor yn y dref lle cafodd ei magu heddiw.
Roedd Mollie Phillips yn arloeswraig ar ac oddi ar y llawr iâ.
Dechreuodd sglefrio yn ferch ifanc ym Mhencarreg ger Llanbedr Pont Steffan, gan benderfynu ei ddilyn fel gyrfa a dod yn sglefrwraig ffigur.

Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid yn 1932 - mae Mollie i'w gweld yn cario'r faner ar ran Prydain Fawr
Yn 24 oed, roedd hi'n un o bedwar athletwr a gynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid yn 1932. Mollie gafodd yr anrhydedd o gario'r faner yn y seremoni agoriadol; y ddynes gyntaf i wneud hynny ar ran unrhyw wlad.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd hi yn y Gemau ym Mafaria, lle'r oedd Adolf Hitler hefyd yn bresennol.
Enillodd yr aur ym Mhencampwriaeth Prydain a'r fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop gyda'i phartner sglefrio Rodney Murdoch, yn 1933.
Ar ôl hynny, canolbwyntiodd ar sglefrio unigol.

Mollie yn ymarfer gyda'i phartner, Rodney Murdoch, yn 1933
Ymddeolodd o gystadlu ddiwedd yr 1930au, ond nid hynny oedd diwedd ei chysylltiad â'r gamp, wrth iddi barhau i arloesi yn y maes a thorri ei chwys ei hun.
Pan gafodd ei hethol i'r Gymdeithas Sglefrio Genedlaethol, hi oedd y ddynes gyntaf, a'r person ieuengaf, i wneud hynny. Roedd y penodiad yn un dadleuol; doedd yna ddim rheol yn erbyn ethol merched i'r gymdeithas, ond dim ond oherwydd fod yna neb wedi disgwyl y byddai dynes yn sefyll!
Ond enillodd barch y dynion a oedd yn flaenllaw yn y gamp, gan gael ei henwebu i fod yn feirniad yn y Gemau Olympaidd – y ddynes gyntaf o Brydain i wneud hynny. Ei Gemau cyntaf oedd St Moritz yn 1948, a bu'n feirniad deirgwaith wedi hynny hefyd.
Mollie hefyd oedd y ddynes Brydeinig gyntaf i ddyfarnu cystadleuaeth sglefrio ryngwladol, a'r ddynes gyntaf erioed i ddyfarnu Pencampwriaeth y Byd, yn 1953.
Roedd hi'n amcangyfrif ei bod wedi beirniadu rhyw 50 o bencampwriaethau byd ac Ewropeaidd dros y blynyddoedd.
Yn 1984, hi oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Sglefrio Iâ Cymru.

Byddai Mollie wedi gallu dod yn fargyfreithiwr – astudiodd y gyfraith yn Lincoln's Inn yn Llundain ddechrau'r 1940au – ond yng nghamp sglefrio iâ oedd ei chalon a'i hangerdd.
Fodd bynnag, daliodd nifer o swyddi tu hwnt i'r iâ hefyd, o Gomisiynydd Sir gyda'r Girl Guides Association, Ustus Heddwch am dros 20 mlynedd, i hyd yn oed rheolwr fferm laeth yn Llanybydder ddiwedd yr 1940au, gan ddod yn fridiwr gwartheg llaeth adnabyddus.
Yn 1961-62, hi oedd y ddynes gyntaf i ddal swydd Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin. Ei thad, George Phillips, oedd wedi dal y teitl cyn hynny.
Bu farw Mollie Phillips OBE ar 15 Rhagfyr 1994. Cafodd Plac Porffor – sy'n cael ei roi i anrhydeddu rhai o ferched nodedig Cymru – yn ei osod yng nghanol Caerfyrddin, y dref roedd hi'n ei galw'n gartref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
