Dros £80m heb ei hawlio mewn cyfrifon i bobl ifanc yng Nghymru

Kae Tapscott
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kae, doedd o erioed wedi clywed am y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl ifanc yng Nghymru yn colli allan ar symiau sylweddol o arian gan nad ydyn nhw'n ymwybodol o gronfeydd ymddiriedolaeth, yn ôl elusen.

Cafodd Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) ei sefydlu yn enw pob plentyn a gafodd ei eni yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, yn defnyddio arian gan Lywodraeth y DU.

Mae dros 750,000 o'r cronfeydd hyn yn dal heb eu hawlio yn y DU, gydag elusen The Share Foundation yn amcangyfrif bod gwerth £83m mewn cronfeydd yng Nghymru yn unig.

Mae'r BBC wedi siarad ag un person ifanc ddaeth i wybod bod ganddo £4,000 mewn CTF nad oedd yn ymwybodol ohono, ac mae'n galw ar eraill i wirio eu cyfrifon nhw.

Mae'r symiau arian yn y cronfeydd yma yn amrywio, ond ar gyfartaledd mae'n dros £2,000.

Cafodd mwyafrif y cronfeydd eu hagor gan rieni'r plentyn yn defnyddio taleb gwerth £250, neu £500 mewn rhai achosion, a gafodd ei dderbyn gan Lywodraeth y DU.

Roedd taliad ychwanegol gan y llywodraeth pan oedd y plentyn yn troi'n saith oed, ac roedd modd i aelodau'r teulu ychwanegu arian hefyd.

Mewn rhai achosion roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud cyfraniad bychan.

Os nad oedd rhiant neu warchodwr yn agor cronfa, byddai Llywodraeth y DU yn mynd ati i agor un ar ran y plentyn.

Mae hawl gan berson ifanc i gymryd rheolaeth o'r cyfrif pan maen nhw'n 16 oed, ond nid oes modd hawlio'r arian tan eu bod yn troi'n 18.

'Peidiwch â'i adael a gwneud dim'

Dywedodd Kae Tapscott nad oedd ganddo unrhyw syniad fod £4,000 mewn cyfrif yn ei enw tan i weithiwr cymdeithasol roi gwybod iddo.

Doedd Kae, o Flaenau Gwent, erioed wedi clywed am y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, ac mae'n annog eraill i wneud eu hymchwil eu hunain.

"Peidiwch â'i adael a gwneud dim achos mae'n bosib na wnewch chi dderbyn unrhyw beth heb drio," meddai.

Eglurodd ei fod wedi cael trafferth cael gafael ar fanylion y CTF ar y dechrau a'i fod wedi defnyddio system y Share Foundation, dolen allanol i ddod o hyd i'r wybodaeth.

"Ro'n i'n meddwl y byddwn i'n derbyn y wybodaeth yn awtomatig, ond glywes i ddim byd.

"Byddech chi'n meddwl y byddai'r llywodraeth yn rhoi o i fi, ond roedd rhaid i fi ei hawlio fy hun."

Yn ôl Gavin Oldham, cadeirydd y Share Foundation, y prif reswm bod cyfrifon yn parhau heb eu hawlio yw anwybodaeth.

Mae eisiau gweld system ble mae'r arian yn cael ei ryddhau yn awtomatig mewn achosion ble cafodd cyfrifon eu creu ar ran pobl ifanc gan y llywodraeth - gan mai nhw yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o golli allan.

Y llywodraeth 'yn codi ymwybyddiaeth'

Dywedodd Llywodraeth y DU fod cynilion yn perthyn i'r rheiny sydd â chyfrifon, ac yn cael eu cadw gan ddarparwyr y sector preifat.

"Nid oes gan y llywodraeth yr awdurdod i gael mynediad at y cronfeydd yma, na'u trosglwyddo," meddai.

"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i uno pobl ifanc â'u CFTs.

"Mae Cyllid a Thollau ei Fawrhydi yn gweithio gyda darparwyr, cynrychiolwyr y diwydiant ac eraill i godi ymwybyddiaeth a helpu unigolion i olrhain eu cyfrifon, gan gynnwys trwy gyfathrebu wedi'i dargedu a gwasanaeth olrhain GOV.UK."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.