'Dysplasia'r glun ddim wedi dal ni nôl!': Fflur Dafydd a'i merch Beca

Fflur Dafydd a BecaFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Fflur Dafydd a'i merch Beca

GanGwen Aeron
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae mam a merch o Gaerfyrddin eisiau dangos nad oes rhaid i gyflwr sy'n effeithio ar gymalau esgyrn plant "atal unrhyw un rhag gwneud y pethau maen nhw'n eu caru".

Cafodd yr awdur Fflur Dafydd sawl triniaeth a llawdriniaeth ar ei chlun yn blentyn, gan dreulio misoedd mewn plaster.

Mae'r cyflwr yn aml yn gallu bod yn etifeddol ond dywedodd ei fod dal yn sioc pan gafodd ei merch fach Beca ddiagnosis o'r un cyflwr wyth wythnos ar ôl ei geni.

Bellach, mae Beca yn bencampwraig Cymru yn y 300 metr ac wedi cynrychioli Cymru mewn athletau rhyngwladol.

Yn ôl Fflur, mae'n "rhyfeddod" i'w gweld hi'n rhedeg ac yn "eitha emosiynol wrth feddwl am yr hip dysplasia".

'Ddim yn gwybod beth yw'r dyfodol'

Cafodd Fflur ei geni yn yr 80au a bu'n rhaid iddi gael sawl triniaeth a llawdriniaeth ar ei chlun yn ystod blynyddoedd cyntaf ei bywyd.

"O'n i'n gorfod cael sawl triniaeth a llawdriniaeth ar fy nghlun, bod mewn plaster am fisoedd lawer, a mynd nôl ac ymlaen i'r ysbyty tan o'n i ryw ddwy oed." meddai.

Er iddi gael "plentyndod lled normal" a gallu symud o gwmpas, roedd rhedeg a chwaraeon yn gallu bod yn anodd.

Erbyn ei phedwardegau, roedd y problemau gyda'i chlun wedi gwaethygu ac roedd angen clun newydd arni.

Beca a Fflur pan yn fabanodFfynhonnell y llun, Fflur Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Beca ar y chwith yn gwisgo harnais Pavlik yn fabi, a'i mam Fflur ar y dde mewn plaster yn blentyn

Pan gafodd ei merch Beca ddiagnosis wyth wythnos ar ôl ei geni, roedd Fflur yn "ansicr beth fyddai hynny'n ei olygu i'r dyfodol."

"Er o'n i'n gwybod fy mod i wedi bod yn iawn yn y pen draw, o'n i ddim yn gwybod beth o'dd dyfodol Beca yn mynd i fod," meddai.

"Pan wyt ti'n fam i blentyn sy'n mynd trwy rywbeth fel 'na, yn enwedig pan mae dy blentyn cyntaf di sydd mewn harnais ti'n poeni.

'Dim ond mewn un glun o'dd gyda fi'r broblem, sef yn y glun dde, ond o'dd Beca â'r broblem yn y ddwy glun."

BecaFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca, 16 oed, yn bencampwraig Cymru yn y 300 metr

Roedd y diagnosis yn golygu bod angen trin Beca yn gyflym, a chafodd ei rhoi mewn harnais Pavlik er mwyn helpu'r cluniau i ddatblygu'n naturiol.

Bu'n rhaid i Beca gael sganiau ac ymweliadau rheolaidd â'r ysbyty am bump i chwe mis wrth i'r harnais gael ei addasu.

Er bod y driniaeth wedi gweithio, roedd Fflur yn poeni am beth allai hynny ei olygu i ddyfodol ei merch.

"O'n i'n poeni falle y byddai e'n effeithio ar ei choesau hi. Ond nawr, nid yn unig nad yw e wedi effeithio ar ei choesau hi, mae hi wedi mynd ymlaen i arbenigo gyda'i choesau!

"Mae jest yn rhyfeddod i fi ei gweld hi'n rhedeg," meddai.

"Fi'n credu mai'r tro cyntaf nes i sylweddoli bod ganddi dalent i redeg, yn enwedig ar y sbrint, o'dd e'n eitha' emosiynol i weld hi, achos o'n i'n meddwl am yr hip dysplasia."

BecaFfynhonnell y llun, Fflur Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Beca yn cynrychioli Cymru ym Melffast

Yn ôl Beca, sydd bellach yn 16 oed, doedd y diagnosis ddim wedi ei hatal rhag gwneud chwaraeon.

"Doedd [y profiad] ddim rili wedi effeithio ar sut o'n i'n mynd ati i chwarae chwaraeon, achos o'n i wedi dechrau mor ifanc," meddai.

Mae'n mwynhau amrywiaeth o chwaraeon ond yn canolbwyntio mwy ar athletau bellach.

Mae hi'n aelod o Harriers Caerfyrddin ac yn hyfforddi tua thair gwaith yr wythnos.

Eleni daeth Beca yn bencampwraig Cymru yn y 300 metr, cyn cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Schools' International Athletics Board yn Belffast.

Rhedodd y 300 metr yno yn ogystal â chymryd rhan yn y ras gyfnewid 4x300m.

"O'dd hwnna'n brofiad mor dda i fi ac yn rhywbeth oedd wir wedi dangos i fi pa mor bell o'n i wedi datblygu," meddai.

"Fi'n teimlo fel fydden i ddim yn gwybod pwy ydw i heb yr holl chwaraeon 'na i fod yn onest a fi mor ddiolchgar bo fi wedi cael fy nhrin, a bod y yr hip dysplasia wedi gwella".

Mae'n gobeithio y gall ei stori roi hyder i blant eraill sydd â dysplasia i barhau i "weithio'n galed ar gyfer eu breuddwydion" achos "dyw e ddim wedi fy nal i'n ôl".

"Fi'n credu bod fy stori i'n rhywbeth rili neis i godi ymwybyddiaeth o'r mater a dangos nad oes rhaid i ddysplasia atal unrhyw un rhag gwneud y pethau maen nhw'n eu caru," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.