Cannoedd ar restrau aros colegau addysg bellach - 'dydy o ddim yn deg'

Tri person ifanc a thiwtor yn gwisgo crys polo glas mewn gweithdy gyda un o'r dysgywr yn defnyddio drilFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyrsiau adeiladu ymhlith y rhai ble mae'r galw mwyaf, meddai colegau addysg bellach

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl ifanc ar restrau aros am gyrsiau oherwydd prinder cyllid i ateb y galw, yn ôl arweinwyr colegau addysg bellach.

Yn ôl un o benaethiaid Coleg Cambria fe allai hyn olygu bod nifer heb "dim math o obaith" ac yn cael eu gadael heb addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.

Mae gan y coleg, sydd â safleoedd yn y gogledd ddwyrain gan gynnwys yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, restrau aros ar gyfer 44 o gyrsiau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr heriau a bod Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wedi "dyrannu £6.25 miliwn ychwanegol" i "gydnabod y niferoedd cynyddol o gyfranogwyr".

Mae'r pwysau yn bennaf ar gyrsiau Mynediad a Lefel Un sydd fel arfer ar gyfer pobl ifanc 16 oed sydd heb gymwysterau ar ôl gadael yr ysgol.

Dywedodd Llinos Roberts o Goleg Cambria bod sawl rheswm am y sefyllfa gan gynnwys demograffeg a'r ffaith bod yna fwy o bobl ifanc 16 oed yn y boblogaeth.

Ffactor arall oedd bod "nifer o ddisgyblion ysgol yn dod allan o'r ysgol heb unrhyw fath o gymwysterau o gwbl," meddai.

Wrth i fwy ddod i'r coleg i wneud cyrsiau lefel is, roedden nhw hefyd yn tueddu i aros ymlaen am fwy na dwy flynedd er mwyn symud i gyrsiau uwch - a hynny'n fwy drud.

"'Da ni rhyw 900 dros y niferoedd allan ni yn gyfforddus cael fewn atyn ni a mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn mynd i gael eu gwrthod rhag dod i'r coleg neu yn cael eu rhoi ar restr aros," meddai.

"'Dydy hyn ddim yn galonogol iawn i'n bobl ifanc ni sydd eisiau symud 'mlaen.

"Falle bod yr ysgol ddim wedi bod y lle gorau iddyn nhw.

"Falle bod yr ysgol ddim yn cynnig y sgiliau galwedigaethol yna mae nhw eu hangen ac mae hynny'n golygu mewn gwirionedd bod yna ddim math o obaith iddyn nhw a ddim math o ffordd iddyn nhw symud 'mlaen yn eu bywydau."

Llinos Roberts gyda gwallt i'w hysgwyddau a chlustdlysau arain yn gwisgo top pinc
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Roberts fod cyrsiau Mynediad a Lefel Un y coleg bron yn llawn

Mae yna sefyllfa debyg yng Ngholeg y Cymoedd sydd yn gwasanaethu Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.

Cyrsiau adeiladu, peirianneg, diwydiannau creadigol, digidol a thechnoleg gwybodaeth, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant sydd o dan y pwysau mwyaf, yn ôl y coleg.

Dywedodd Lois Roberts o Goleg y Cymoedd: "Eleni ni wedi cael bron i 6000 o geisiadau ond dim ond wedi cael ein hariannu am ryw 4500 felly mae hwnna wedi rhoi pwysau ar y coleg i roi ryw 500 o fyfyrwyr ar restrau aros".

Mae'r coleg eisoes wedi ymestyn adnoddau cymaint â phosib meddai.

"Y'n ni wedi gorfod cymryd camau ychwanegol yn barod.

"Y'n ni wedi gorfod adeiladu ystafelloedd dros dro a gweithdai dros dro er mwyn lletya yr holl fyfyrwyr yma a hefyd wedi gorfod cael staff ychwanegol.

"Ond does dim digon o staff i'r holl fyfyrwyr sydd eisiau dod yma ac mae hynny'n broblem."

Menyw yn gwiso crys-t gwyrdd gyda gwallt bron i'w hysgwyddau gyda adeilad coleg yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Goleg y Cymoedd 500 o bobl ifanc ar restrau aros yn barod ar gyfer mis Medi

Mae Deni-May a Carys yn gwneud cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Cambria ond yn cydymdeimlo â rheini allai fod ar restrau aros ac sy'n wynebu'r ansicrwydd o beidio gwybod os oes ganddyn nhw le.

"Dydy o ddim yn deg bod rhai pobl yn gorfod methu allan," meddai Deni-May.

"Dwi'n credu dyle pawb gael y cyfle i wneud be' bynnag maen nhw isio."

Dywedodd Carys: "Oedd aros yn yr ysgol ddim yn opsiwn i fi - oeddwn i isio amgylchedd newydd."

Ychwanegodd bod cyfleoedd yn brin i bobl ifanc o ran gwaith hefyd.

Bwriad Annes yw dod i'r coleg fis Medi ac mae'n teimlo dros y rheini sy'n trio am gyrsiau sy'n llawn yn barod.

"Buasa fo'n rili stressful", meddai. "Ar gyfer y dyfodol, buasa fo'n anodd ffeindio beth baset ti'n gallu gwneud.

"Mae (angen) chwarae teg i ni ac ein dyfodol," ychwanegodd.

Dwy ddisgybl yn edrych ar eu gliniaduron ar bwys bwrdd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhai dysgwyr presennol, dydy e "ddim yn deg" gallai rhai fethu cael llefydd

Mae Colegau Cymru, sy'n cynrychioli colegau addysg bellach, wedi dweud bod y sector yn wynebu bwlch ariannol o £30 miliwn o fis Medi ymlaen, law yn llaw gyda'r lefelau uchaf erioed o geisiadau am gyrsiau.

Gyda chyllid ar gael ar gyfer llai na 46,000 o ddysgwyr, maen nhw'n rhagweld y bydd mwy na 50,000 yn cofrestru ar gyrsiau, gan ddweud bod cannoedd yn rhagor eisoes ar restrau aros.

Roedd £21m wedi ei rhoi i golegau ar gyfer myfyrwyr ychwanegol y llynedd, ond mae hynny wedi gostwng i £6.5m ar gyfer 2026-27, meddai Colegau Cymru.

Eu pryder yw y gallai'r sefyllfa ychwanegu at lefelau'r bobl ifanc sydd wedi eu cofrestru fel heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth neu Neet.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod colegau Addysg Bellach yn wynebu heriau oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr yn ystod y blynyddoedd diweddar.

"Mae Medr eisoes wedi dyrannu £6.25m ychwanegol ar gyfer 2026-27 i gydnabod y niferoedd cynyddol sy'n cymryd rhan.

"Mae Medr yn monitro'r sefyllfa'n agos, a byddwn yn ystyried cymorth pellach fel rhan o'n penderfyniadau ehangach ar y gyllideb."

Mae'r ffigurau diweddaraf, dolen allanol yn awgrymu bod 17% o bobl ifanc Cymru yn Neet sy'n uwch na'r gyfradd ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig