Cymru'n trechu Fiji ar ddechrau Pencampwriaeth y Cenhedloedd

Sam Costelow yn rhedeg gyda'r bêl yn un o ymosodiadau Cymru yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Cymru chwe chais yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn wrth drecu Fiji o 39 i 24 yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Sgoriodd Jac Morgan ddau o'r ceisiau gan sicrhau wobr chwaraewr y gêm.
Roedd Fiji ar y blaen yn gynnar, ond llwyddodd Cymru i droi'r gêm o'u plaid gyda pherfformiad cryf yn yr ail hanner.
Golyga'r fuddugoliaeth bod tîm Steve Tandy wedi ennill dwy gêm ryngwladol yn olynol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2023.

Mae Aaron Wainwright wedi dechrau pob gêm i Gymru yn 2026
Ar ôl dygymod â'r pwysau cynnar gan Fiji, croesodd Jac Morgan y llinell ddwywaith yn yr hanner cyntaf i gadw Cymru ar delerau cyfartal ar 10-10 erbyn yr egwyl.
Yn yr ail hanner, fe lwyddodd Rhys Carre, Josh Adams, Ryan Elias ac Eddie James i groesi'r llinell, gyda chicio Sam Costelow a Dan Edwards yn gyfrifol am weddill pwyntiau Cymru.
Sgoriodd Pita-Gus Sowakula, Elia Canakaivata a Selestino Ravutaumada geisiau Fiji, gydag Isaiah Armstrong-Ravula yn ychwanegu naw pwynt gyda'i giciau.
Y Cymro fydd yn cefnogi Fiji yn erbyn y crysau cochion ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Pwy sy'n cofio Fiji yn difetha gwyliau miloedd o Gymry?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Er mai Fiji oedd y tîm cartref yn swyddogol, cynhaliwyd y gêm yng Nghaerdydd oherwydd nad oes gan y wlad stadiwm sy'n bodloni gofynion Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Bydd Cymru'n wynebu'r Ariannin a De Affrica yn eu gemau nesaf yn y gystadleuaeth.
Roedd y cyfnod cyn y gêm wedi ei gysgodi gan anghydfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r chwaraewyr ynghylch ffioedd gemau, a gafodd ei ddatrys ychydig ddyddiau cyn y gic gyntaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.