2,500 o fenywod yn cystadlu mewn ras elusennol yn Llŷn

Mae She Ultra wedi parhau i dyfu ers i'r ras gyntaf gael ei gynnal yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae tua 2,500 o fenywod wedi bod yn rhedeg yn y gwynt a'r glaw fel rhan o farathon elusennol unigryw.
Bwriad She Ultra, sy'n digwydd am y trydydd tro eleni, ydy i godi arian ar gyfer elusennau canser.
Wrth gychwyn yn gynnar fore Sadwrn, mae merched o bob gallu wedi bod yn rhedeg, loncian neu gerdded y daith o dros 50 cilomedr - neu 31 milltir.
Ond tra'i fod yn gylchdaith heriol, mae hefyd wedi ei ddylunio ar gyfer merched o bob profiad a gallu.
Gyda thua 550 wedi cymryd rhan pan gynhaliwyd y She Ultra am y tro cyntaf yn 2024, mae wedi parhau i dyfu.

(Chwith i'r dde) Cadi Williams a Jasmin Edwards o Aberdaron
Yn ôl Jasmin Edwards a Cadi Williams o Aberdaron, roedd y tywydd - gan gynnwys cenllysg a gwyntoedd cryfion - yn "heriol".
Gan gychwyn a gorffen ym Mhwllheli, oedd y cylchdaith yn cynnwys Llanbedrog, Mynytho ac Abersoch.
"Mae'n bwysig iawn cael rhywbeth fel hyn i hel pres at achos da," meddai Cadi.
"Wnes i ei wneud o llynadd ond mae 'na lot fwy 'leni."
Ychwanegodd Jasmin: "Dylai pawb fod yn falch iawn o'u hunain, da ni'n ei wneud o at achos da ond 'da ni'n cael budd ohono hefyd."

"Mae'n bwysig i'r dref, mae'n denu pobl yma ac yn rhoi Pwllheli ar y map ac at achos da hefyd," meddai Lois Huws
Dywedodd Lois Huws o Aberdaron ei bod wedi cael "diwrnod ofnadwy o dda" er gwaetha'r tywydd.
"Mi wnes i ei gwneud hi llynadd hefyd a mwynhau," meddai.
"Mae pawb yn cadw chi i fynd ar hyd y cwrs a wnes i ei fwynhau.
"Mae'n bwysig i'r dref, mae'n denu pobl yma ac yn rhoi Pwllheli ar y map ac at achos da hefyd."

"Dwi'n rhy dehydrated i grio rŵan ond y bore ma roedd y lle 'ma yn llawn menywod, pawb yma i wneud yr un peth," meddai Rhianedd Grug Gwilym
Dywedodd Rhianedd Grug Gwilym o'r Wyddgrug, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, bod y tywydd wedi sicrhau "ras Gymreig go iawn".
"Nath hi fwrw cenllysg, wnaeth hi fwrw glaw, oedd hi'n heulog, oedd hi'n wyntog," meddai.
"Oedd 'na lot o waliau ond cam wrth gam rwyt ti'n mynd drwyddi. Dwi'n rhy dehydrated i grio rŵan ond y bore ma roedd y lle 'ma yn llawn menywod, pawb yma i wneud yr un peth.
"A wnaeth o fy nharo i fel rhywbeth mor neis... ac i gofio am y rheiny sydd ddim yn gallu gwneud o a ddim yma ddim mwy. Mae o mor arbennig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.