'Canfod gwaith celf ogof hynaf y DU yma yng Nghymru yn gyffrous iawn'

Ogof Bacon HoleFfynhonnell y llun, George Nash
Disgrifiad o’r llun,

Mae archeolegwyr yn credu y dylai'r ogof gael ei chofrestru, er mwyn ei gwarchod

  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith paent ar graig mewn ogof yng Nghymru wedi cael ei gadarnhau fel yr hynaf ar gofnod ym Mhrydain.

Cafodd y cyfresi o streipiau coch eu canfod yn gyntaf ar ochr wal yr ogof ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe, yn 1912 - cyn cael eu diystyru a'u disgrifio fel creadigaeth naturiol, flynyddoedd yn ddiweddarach.

Bellach mae archeolegwyr wedi defnyddio datblygiadau gwyddonol i ddyddio'r marciau yn ôl dros 17,100 o flynyddoedd.

Golygai hynny mai dyma'r gwaith paent hynaf yng ngogledd orllewin Ewrop.

Dywedodd yr archeolegydd George Nash ei bod hi'n bosib bod y gwaith celf wedi cael ei ddefnyddio fel "system gyfathrebu", ond bod yr ystyr yn rhywbeth "ymhell y tu hwnt i'n dealltwriaeth ni".

Gwaith celfFfynhonnell y llun, George Nash
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwaith celf ei ganfod gyntaf yn 1912 (chwith) cyn cael ei ddiystyru am flynyddoedd

Yn ôl Mr Nash byddai'r ardal, yn y cyfnod hwnnw, wedi bod yn le bwydo pwysig yn yr haf i anifeiliaid fel y mamoth, bison, ceffylau a cheirw, ac yn denu helwyr yno.

Y gred ydy y byddai'r helwyr wedi defnyddio rhai o'r 95 o ogofau sy'n wynebu Môr Hafren, lle mae offer carreg wedi'u canfod yn y gorffennol wrth dyllu.

Yn y cyfnod, byddai tymereddau cymedr yr haf wedi bod yn tua -10C ar "dirwedd ddi-goed", wrth i'r rhewlifoedd encilio at ganolbarth Cymru.

Er i'r gwaith ymchwil gael ei ganmol fel "ailddarganfyddiad" arwyddocaol, mae dirgelwch yn parhau ynghylch yr ystyr y tu ôl i'r peth.

Wrth drafod ar BBC Radio Wales fore Mawrth, ychwanegodd Mr Nash y gallai'r peintiadau fod yn "farciau tali" a oedd yn dweud wrth eraill eu bod wedi bod yn yr ogof honno ers nifer penodol o flynyddoedd.

Pobl yn ymchwilioFfynhonnell y llun, George Nash
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm o arbenigwyr rhyngwladol wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil

Mae graffiti wedi cael ei baentio ar ochr arall yr ogof gan bysgotwr lleol ers y 19eg ganrif ac mae rhai yn credu y gallai mwy o gelf hynafol fod yn cuddio oddi tano.

Yn 1928, cafodd canfyddiad gwreiddiol y gwaith celf ar y graig ei ddiystyru fel "mwynau ocsid coch yn treiddio trwy'r graig ac nid celf hynafol", yn ôl adroddiad y Guardian ar y pryd.

Cafodd ei ailddarganfod yn 2022 ar ôl degawdau o gael ei anwybyddu gan archeolegwyr, yn rhannol oherwydd y llif calsit (y ffurf sefydlog o'r mwyn calsiwm carbonad) drosto - sy'n achosi iddo fod yn anodd ei weld.

Er i'r bandiau gael eu dyddio i 17,100 o flynyddoedd oed, sef oedran yr haen o fwynau uwch eu pennau, dywedodd Mr Nash y gallai'r gwaith paent bysedd fod yn llawer hŷn mewn gwirionedd.

"Ces i fy synnu ein bod wedi llwyddo i'w ddyddio a dadansoddi'r pigmentau.

"Mae hwn yn ganfyddiad cyffrous, sy'n arwyddocaol wrth i ni ddeall beth oedd yn digwydd yng Nghymru yn y gorffennol pell."

Graffiti gan bysgotwrFfynhonnell y llun, George Nash
Disgrifiad o’r llun,

Mae graffiti wedi cael ei baentio ar ochr arall yr ogof gan bysgotwr lleol ers y 19eg ganrif

Mae'r ogof o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac er iddi fod mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, nid ydyw wedi'i diogelu fel heneb gofrestredig.

Ond, mae gwarchodaeth ddur wedi cael ei gosod, er mwyn atal unrhyw fandaliaeth i'r gwaith celf, meddai Mr Nash, felly does dim posib ymweld â'r paentiadau.

Roedd George Nash eisoes wedi darganfod cerfiad o garw mewn ogof gerllaw - a gafodd ei gadarnhau yn 2012 fel y gwaith celf carreg hynaf ar gofnod ym Mhrydain.

Wedi'i leoli tua 2.5 milltir i ffwrdd, cafodd y cerfiad hwnnw ei greu tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

'Safle rhyfeddol'

Cafodd yr ymchwil ei wneud gan y grŵp gwyddonwyr First Art, gydag academyddion o brifysgolion Southampton ac Abertawe, ymhlith eraill a chefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Sefydliad Bradshaw (elusen sy'n hyrwyddo addysg y cyhoedd).

Dywedodd David Thomas, archeolegydd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru eu bod wastad wedi gwybod bod yr ogof yn "safle paleolithig rhyfeddol".

"Ond mae darganfod bod y gwaith celf ogof hynaf ym Mhrydain yn gorwedd yma yng Nghymru yn gyffrous iawn.

"Mae dychmygu pobl yn sefyll ar yr union arfordir yma dros 17,000 o flynyddoedd yn ôl, yn cerfio eu marciau yn y graig ac yn trawsnewid y llefydd yr oeddent yn byw ynddynt trwy gelf, yn rhywbeth sy'n cyffwrdd rhywun."

Diolchodd i Dr Nash a'r grŵp gwyddonwyr "am ddatgelu'r bennod gudd hon o'n gorffennol a dyfnhau ein dealltwriaeth o'r lleoedd rhyfeddol" yn yr ardal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig