O Singapore i Gymru, i gasglu caneuon gwerin

- Cyhoeddwyd
Mae cerddoriaeth wedi bod yn agos at galon Irfan Rais erioed. Yn wreiddiol o Singapore, dechreuodd ei siwrne gerddorol gyda cherddoriaeth glasurol Chineaidd.
Bellach mae'n 'casglu' cerddoriaeth werin draddodiadol o wahanol wledydd ledled y byd, gan gynnwys caneuon Cymraeg.
Teithio'r byd drwy ganeuon
Ond sut ddechreuodd hyn?
"Mae wastad gen i ddiddordeb efo diwylliant dros y byd," eglurai.
"Mae 'na lot o straeon mewn caneuon gwerin, ac mae hwn yn cysylltu efo pobl sy'n berthnasol i'r caneuon yna, a dyna pam dwi'n ei ffeindio yn fascinating.
"Dwi'n lwcus iawn; dwi wedi gwneud ffrindiau o gwmpas y byd sydd wedi bod yn fodlon dysgu caneuon gwerin i mi. Dwi wedi creu gwefan, a dal yn gweithio arno, efo nodiadau ymchwil."
Irfan Rais yn trafod ei gariad tuag at ganeuon gwerin Cymraeg
Bellach ar wefan Irfan mae ganddo wybodaeth am ganeuon gwerin o dros 30 o wledydd ledled y byd mae wedi eu dysgu dros y blynyddoedd. Mae'n eu perfformio mewn cyngherddau ar-lein ac yn fyw.
"Yn fy sioeau i, y bwriad yw teithio dros y byd drwy ganeuon. Dwi'n trio trafeilio dros y gwahanol gyfandiroedd hefyd – dim jest aros yn Ewrop ond i Affrica, Asia, De America.
"Dwi wastad yn cymryd yr amser i esbonio cyd-destun y gân. Dwi ddim yn canu'n Saesneg y rhan fwyaf o'r amser, felly dwi'n esbonio'r cyd-destun yn Saesneg, sy'n ei wneud yn hygyrch i bawb, a chyfoethogi'r profiad hefyd."
Cadw parch
Bwriad Irfan bob amser yw i fod yn hollol driw i'r gân mae'n ei dysgu, ynghyd â'i diwylliant. Felly mae'n ymchwilio'n fanwl i gyd-destun a chefndir y gân, yn sicrhau ei fod yn ynganu pob gair yn gywir, ac yn ei pherfformio yn steil arbennig y wlad.
Yn ffodus, â'r byd dipyn llai nag oedd o gyda help technoleg, mae'n medru dod o hyd i bobl sy'n medru ei gynghori.
"Pan dwi'n ymchwilio'r caneuon, dwi'n trio ffeindio beth ydy cyd-destun y caneuon, sydd weithiau'n anodd, achos efo caneuon gwerin, dydy hi ddim wastad yn amlwg pwy oedd yn sgwennu'r caneuon, neu o le mae'r gân wedi dod yn union.
"Ond mae hynny'n bwysig i mi. Dwi'n eu cysidro fel artefacts mewn amgueddfa. Dwi'n trio trin y caneuon fel rhywbeth sy'n ystyrlon i bobl eraill, felly dwi'n ymwybodol iawn fod angen bod yn barchus.
"Dwi'n licio dysgu gramadeg y gerddoriaeth, achos mae'n wahanol o ddiwylliant i un arall. Pan dwi'n perfformio cân o Dwrci, dwi'n defnyddio steil o Dwrci – dwi'n trio dysgu sut maen nhw'n ei berfformio."

Ynghyd â'r yangqin a'r bouzouki, mae Irfan hefyd yn chwarae offerynnau sydd yn fwy cyfarwydd i ni, fel y ffidil a'r gitâr
Mae hyn yn golygu fod ei gartref yn llawn offerynnau traddodiadol gwledydd eraill, meddai, o'r yangqin o China – ei brif offeryn, a'r union un mae wedi bod yn ei chwarae ers ei fod yn 13 oed – i'r bouzouki o Groeg a'r balaban o Dwrci.
"Mae gen i ormod o offerynnau," mae'n ei gyfaddef.
"Ydw i'n medru eu chwarae yn dda? Dwi ddim yn siŵr. Ond dwi'n trio!"
Caru caneuon Cymraeg
Ag yntau'n canu caneuon o nifer o wledydd gwahanol, pa ddiwylliant yw ei hoff un?
"Mae hwnna fel holi mam pwy ydy ei hoff blentyn!" meddai gan chwerthin. "Dwi ddim yn gwybod – mae'n dibynnu ar fy mood i dwi'n meddwl.
"Dwi'n meddwl fod gen i soft spot i gerddoriaeth glasurol Chinese – hwnna oedd fy sylfaen i. Dwi ddim yn ei berfformio llawer, achos mae'r yangqin dipyn yn drwm, felly dydy o ddim yn ymarferol i drafeilio lot efo fo – mae o fel dodrefnyn!
"Dwi'n perfformio caneuon gwerin o Gymru lot ar hyn o bryd; dwi wrth fy modd. Pan fydd gen i amser yn y dyfodol dwi eisiau gwneud EP o ganeuon gwerin o Gymru.
"A dwi'n 'nabod lot o bobl sy'n gwneud caneuon gwerin, so dwi reit yn y sin caneuon gwerin yn ngogledd Cymru – ym Mangor a Chaernarfon - so mae 'na berthynas sbesial yna dwi'n meddwl."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Mae Irfan yn gwbl rugl yn Gymraeg, a hynny ar ôl iddo symud i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor dros ddegawd yn ôl. Dysgodd Gymraeg yn "organig", meddai.
"Mae'n teimlo'n naturiol i mi drio gwneud ffrindiau efo pobl yn yr ardal, ac mae'n haws i gysylltu drwy'r Gymraeg, achos fod y Gymraeg mor hyfwy yn ardal Arfon. O'n i'n gwneud ffrindiau oedd yn fy nghyflwyno i ffrindiau eraill, a 'nes i bigo Cymraeg i fyny o hyn."
Mae Irfan bellach yn gallu canu degau o ieithoedd, ac yn siarad Cymraeg, Saesneg a Malay gyda'i deulu, Singlish gyda'i ffrindiau yn Singapore, ac ychydig o Almaeneg. Ond iddo ef, mae un iaith yn bwysicach na'r un...
"Yn swyddogol, dwi i wastad yn dweud mod i'n siarad un iaith, sef 'cerddor-iaith'! Dydy'r jôc yna ddim yn gweithio yn Saesneg...!"
Rhoi'r gân yn ôl i'w chymuned
Y llynedd, cafodd Irfan y cyfle i recordio trac ar gyfer y CD, Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin, ochr-yn-ochr â rhai o sêr mawr y byd gwerin yng Nghymru, fel Georgia Ruth, Bob Delyn a'r Ebillion a Gwilym Bowen Rhys. Mae'r cyfle a gafodd mewn stiwdio recordio wedi ei ysgogi i fynd ati nawr i wthio'r maen i'r wal gyda'i brosiect casglu hirdymor.
Amser yw'r prif her, wrth gwrs, ag yntau â swydd lawn amser, ond mae'n barod nawr i geisio datblygu ei brosiect.
"Dwi wedi creu'r wefan achos dwi ddim yn meddwl ei fod o'n deg i gadw popeth i fi'n hun. Beth fyswn i'n hoffi ei wneud yn y dyfodol yw ffeindio rhywun i gyfieithu fy nodiadau i iaith wreiddiol y gân, fel fod y wybodaeth yn mynd yn ôl i'r gymuned.
"Bendant dwi eisiau recordio'r caneuon dwi wedi eu casglu, achos mae'n biti os ydyn nhw jest yn eistedd ar fy ngwefan i – mae'n well os ti'n gallu eu clywed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd15 Ionawr

- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2025

