All ogof gudd dan gastell canoloesol 'ailysgrifennu cynhanes'?

Archeolegwyr gyda thortshis ar eu pennau yn cloddio twll hirsgwar yn y llawr, wedi eu hamgylchynu gan ffensys metelFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberdeen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfrinachau sydd eisoes wedi eu datgelu yn Ogof Wogan dan Gastell Penfro yn awgrymu "darganfyddiad unwaith mewn oes", medd archeolegwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae ogof gudd dan gastell o'r 11eg ganrif yng ngorllewin Cymru yn "safle gwirioneddol ryfeddol" a all ailysgrifennu cyfnod cynhanes Prydain, yn ôl ymchwilwyr.

Mae cloddio cychwynnol yn Ogof Wogan dan Gastell Penfro wedi datgelu tystiolaeth "hynod brin" am fodau dynol ac anifeiliaid, gan gynnwys esgyrn hipopotamws oedd yn crwydro Cymru 120,000 o flynyddoedd yn ôl.

Bydd Prifysgol Aberdeen nawr yn arwain archwiliad pum mlynedd manylach yno, a gobaith archeolegwyr yw y bydd yn datgelu "cryn dipyn am ein cyndeidiau cynhanes cynnar".

"Does dim safle tebyg iddo ym Mhrydain," meddai'r Dr Rob Dinnis o Brifysgol Aberdeen.

"Mae'n ddarganfyddiad unwaith mewn oes."

Castell Penfro ar lan afon gyda choed o'i amgylchFfynhonnell y llun, University of Aberdeen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Penfro - man geni Harri Tudur - yn atyniad twristaeth poblogaidd

Y gred yw mai yn Oes Fictoria y cafodd Ogof Wogan ei datgladdu, ac mae grisiau troellog yn ei chysylltu â'r castell.

Mae'n 23 metr (75 troedfedd) o hyd, a hyd at 10 metr (32 troedfedd) o uchder.

Doedd dim cred bod llawer o ddeunydd archeolegol o bwys yn dal yno, cyn gwaith cloddio bach rhwng 2021 a 2024.

Fe ddatgelodd y gwaith hwnnw dystiolaeth o fodau dynol ac anifeiliaid dros fwy na 100,000 o flynyddoedd, gan gynnwys tŵls cerrig ac esgyrn mamoth, hipopotamws a rhinoseros gwlanog.

Mae'r esgyrn, medd yr ymchwilwyr, mewn cyflwr da ac mae'n dod i'r amlwg yn raddol y gall yr ogof fod yn un o archifau cynhanes pwysicaf Prydain.

Dywed Dr Dinnis, arweinydd y cloddio cychwynnol a'r gwaith tyrchu ehangach, ei fod yn obeithiol ynghylch beth all ddod i'r amlwg.

"Er y gwaith cyfyngedig hyd yma, gallwn ddweud eisoes bod Ogof Wogan yn safle gwirioneddol ryfeddol," dywedodd.

Dant malu rhinoseros gwlanog, a ddaeth i'r fei yn ystod gwaith cloddio cychwynnolFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberdeen
Disgrifiad o’r llun,

Dant malu rhinoseros gwlanog, a ddaeth i'r fei yn ystod gwaith cloddio cychwynnol dan Gastell Penfro

"Nid yn unig bod yna dystiolaeth hynod brin o ran Homo sapiens cynnar, mae awgrymiadau hefyd o dystiolaeth ddynol fwy cynnar byth, gan y Neanderthaliaid, fwyaf tebyg," meddai Dr Dinnis.

"Does dim safle tebyg iddo ym Mhrydain. Mae'n ddarganfyddiad unwaith mewn oes.

"Gyda'r prosiect newydd yma gallwn ddysgu cryn dipyn am ein cyndeidiau cynhanes cynnar, am sut roedden nhw'n byw a sut roedd eu bydoedd yn edrych.

"Rydyn ni'n obeithiol y gallai'r ogof olrhain dilyniant hir o weithgareddau dynol, o'r helwyr-gasglwyr yn syth wedi'r Oes Iâ olaf tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl, i Homo sapiens cyntaf Prydain rhwng 45,000 a 35,000 o flynyddoedd yn ôl, ac efallai olion cynharach bosib y Neanderthaliaid.

"Rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i esgyrn hipopotamws, sy'n dyddio fwyaf tebyg i'r cyfnod rhyngrewlifol (interglacial) olaf tua 120,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Gallai'r safle felly ddweud wrthym sut wnaeth sawl newid hinsawdd ac amgylchedd effeithio ar bobl yn byw yno dros 100,000 o flynyddoedd neu fwy."

Archeolegydd mewn siwt wen yn cloddio ar y safleFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberdeen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pum mlynedd o waith cloddio ehangach yn dechrau cyn diwedd Mai

Bydd gwaith cloddio'r brifysgol yn cael cefnogaeth Ymddiriedolaeth Castell Penfro, sy'n dweud y bydd darganfyddiadau Ogof Wogan yn cael eu curadu a'u cadw ym Mhenfro.

I'r castell – man geni Harri Tudur ac atyniad twristiaeth poblogaidd – mae'r gwaith yn nodi pennod newydd gyffrous yn ei hanes.

"Mae hyn yn newyddion cyffrous ofnadwy i bawb yn y castell," meddai'r rheolwr Jon Williams.

"Rydyn ni wedi gwylio â chryn ddiddordeb wrth i Ogof Wogan ddechrau datgelu ei chyfrinachau.

"Mae'n wahanol iawn i'r hanes canoloesol rydyn ni fel arfer yn ei drafod yn y castell."

Mae disgwyl i'r gwaith cloddio ehangach ddechrau tua diwedd Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig