Oriel: Rheiffordd Talyllyn yn 75 oed

Bill Trinder yn torri'r tâp am y tro cyntaf unwaith cafodd y rheilffordd ei adnewyddu ym Mai 1951
- Cyhoeddwyd
75 mlynedd yn ôl fe gafodd rheilffordd gadwraethol gyntaf y byd ei chreu yn Nhalyllyn ger Tywyn.
Diolch i waith gwirfoddolwyr brwdfrydig oedd yn awyddus i gadw'r rheilffordd yn fyw, dechreuodd y gwaith o adnewyddu'r llinell rhwng Tywyn ac Abergynolwyn.
Un o'r gwirfoddolwyr hynny oedd yn mwynhau dod i lawr i helpu oedd Y Parch W Awdry. Yr oedd wedi rhyfeddu gymaint ar yr ardal a'r trenau, fe ysgrifennodd straeon Tomos y Tanc ar gefn ymweld â Thalyllyn.
Dyma luniau o'r rheilffordd a'r trenau dros y blynyddoedd.

Hen drenau o Corris yn cyrraedd yn Nhywyn yn 1953

Y Parch Wilbert Awdry yn Nhalyllyn. Roedd y rheilffordd yn ysbrydoliaeth i'w straeon am Tomos y Tanc.

Y rheilffordd yn 1948 cyn iddi gael ei adnewyddu a'i agor i'r cyhoedd

Locomotif Rhif 3, Sir Haydn a'r olygfa o'r rheilffordd

Locomotif Rhif 6 'Douglas'

Locomotif Rhif 4 'Edward Thomas' yn barod i dynnu cerbydau

Locomotif Rhif 1 yn nesau at Ddolgoch yn 1941

Locomotif Rhif 7 Tom Rolt yng ngorsaf Tywyn yn 2015

Trên rhif 1 vintage yn Rhydyronen

Trên Sir Haydn rhif 3 yn Nant Gwernol yn 2018

Un o luniau cynharaf y rheilffordd yn Nhalyllyn ar hen safle gorsaf y Brenin yn Nhywyn tua 1895

Trên y coroni yn 1953
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Mai

- Cyhoeddwyd17 Ionawr
