Gwireddu breuddwyd o agor tafarn cwrw crefft yng Nghaergybi

Bethan a Dan JonesFfynhonnell y llun, BRAGDY CYBI
Disgrifiad o’r llun,

Bethan a Dan Jones

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn amlach nag erioed, rydyn ni'n clywed am dafarndai yn cau oherwydd rhesymau niferus, ond yn nhref Caergybi mae busnesau tafarn yn ffynnu. Mae gan y dref oddeutu 13 o dafarndai yn weithredol ar hyn o bryd. A nawr, mae un arall ar fin agor.

Y ddau sy'n mynd i'r afael â rhedeg y busnes yw Dan a Bethan Jones. Bydd Tafarn Cybi, yn safle hen adeilad HSBC y dref, yn agor ei drysau ym mis Gorffennaf.

Hen adeilad y banc ar Stryd William, CaergybiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Hen adeilad y banc ar Stryd William, Caergybi, cartref newydd Tafarn Cybi

Dechreuodd stori Tafarn Cybi yn 2019 pan gollodd Dan Jones ei waith a'i gymryd fel cyfle i ddechrau ei fusnes ei hun. Agorodd Bragdy Cybi ar Stryd William yng Nghaergybi ac mae'r busnes wedi bod yn mynd o nerth i nerth. Mae cwrw'r bragdy wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys y clod uchaf gan wobrau Great Taste.

Ar y pryd, wrth chwilio am safle i agor y bragdy roedd Dan a Bethan wedi sylwi ar yr hen fanc ar y stryd ac wedi meddwl y gallai fod "y lle perffaith ar gyfer bar cwrw crefft."

Oherwydd fod yr adeilad wedi bod yn wag am flynyddoedd, a llawer o waith adnewyddu i wneud penderfynodd y ddau y byddai'n ormod o waith, ond dywedon nhw eu bod wedi rhoi'r adeilad "ar y vision board ar gyfer lle i obeithio bod yn y dyfodol".

Y "vision board" gwreiddiol o 2019Ffynhonnell y llun, Bragdy Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Y "vision board" gwreiddiol o 2019

Ymhelaethodd Bethan:

"Pan welson ni'r adeilad hwn gyntaf yn 2019 roedd [agor y dafarn] yn freuddwyd bell. Roedd hyd yn oed ein sgetsiau cynnar yn cynnwys yr hen HSBC fel nod terfynol i'r busnes. Mae'n anhygoel bod y freuddwyd honno bellach yn digwydd.

"Mae Tafarn Cybi yn gam naturiol i ni – dathliad o'n Cymreictod, ein cymuned a'n hangerdd am greu profiadau gwych i bobl leol ac ymwelwyr."

Mae tref Caergybi wedi gweld adfywiad yn lled-ddiweddar gyda dros 60 o longau pleser yn ymweld â'r ynys yn ystod y flwyddyn a nifer o fusnesau bach lleol, annibynnol yn ffynnu.

Dywedodd Bethan eu bod nhw'n,"edrych ymlaen i fod yn rhan o fwrlwm newydd ar y stryd fawr ymysg pobl leol Ynys Môn a thu hwnt."

Eu bwriad gyda'r dafarn yw "ateb y galw ar gyfer yfwyr cwrw go-iawn mewn tafarn fodern gyfforddus sy'n rhoi llwyfan i gynnyrch Cymraeg gwych. Rydan ni'n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr oddi ar y llongau a rhoi croeso Cymreig iddynt, a chodi ymwybyddiaeth ein bod yn wlad falch iawn o'n diwylliant."

Rendrad dylunydd o Dafarn CybiFfynhonnell y llun, Dewis Architecture
Disgrifiad o’r llun,

Rendrad dylunydd o Dafarn Cybi

Felly ai'r bwriad yw bod yn hwb Cymraeg yn y dref?

"Mi fyddwn ni'n gyrchfan gobeithio, a bydd pobl yn heidio yma fel maen nhw i'r Dafarn Sinc. Rydan ni'n gobeithio 'nawn ni ddod yn hoff le pobl leol hefyd a bydd pawb yn ein 'nabod ni fel lle i gael croeso da a chwrw arbennig.

"Mae yma ddigon o dafarndai yn gwerthu Madri a Carling, fyddwn ni ddim yn cystadlu hefo nhw, ond yn cynnig rhywbeth hollol wahanol."

Yn ôl Dan a Bethan yr hyn fyddan nhw'n ei gynnig yw "bar crefft annibynnol fydd yn rhoi'r llwyfan i'r gorau o fragdai Cymru, yn cynnwys cwrw Bragdy Cybi, cwrw o fragdai Cymreig annibynnol eraill, cynnig detholiad o jin, rym, fodca a wisgi Cymreig, gan roi blaenoriaeth i gynnyrch lleol a chenedlaethol, darparu dewis o ddiodydd meddal Cymreig lle bo modd a phwysleisio Cymreictod, ansawdd a chrefft."

Bydd Dan a Bethan yn rhannu'r adeilad gyda busnesau eraill hefyd, gan gynnwys bwyty newydd a saith uned o lety moethus.

Y gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo yn Nhafarn CybiFfynhonnell y llun, Bragdy Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo yn Nhafarn Cybi

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig