'Profiad unwaith mewn oes': Canfod trysor posib yn Llanuwchllyn

"Mae o'n edrych yn aur go bur," medd Geraint Edwards y ffermwr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi sôn am y profiad o ganfod breichled y mae'n credu a allai fod yn hynafol ger Llanuwchllyn, wrth ddefnyddio synhwyrydd metel (metal detector).
Ei cred ydy y gallai'r freichled fod o'r Oes Efydd - tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ôl siarad gyda Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau.
Idris Thomas wnaeth y canfyddiad, wrth sganio ar dir Geraint Edwards - ffarmwr yn ardal Llanuwchllyn.
"O'n i'n hollol shocked, over the moon a ma'n anodd disgrifio'r teimlad," meddai Idris wrth Cymru Fyw.
Yn ôl Geraint Edwards, roedd y canfyddiad ar ei dir yn "deimlad reit unigryw" ac mae'n edrych ymlaen at gael atebion o ran ei hanfod.

Cafodd y freichled aur ei chanfod ar dir Geraint yn ardal Llanuwchllyn, wrth i Idris yn sganio am fetel
Dywedodd Geraint fod y freichled yn edrych yn arbennig ac mai'r gred ar hyn o bryd ydy y gallai hi fod "tua 3,000 o flynyddoedd oed ac yn cael ei gwisgo gan rywun oedd reit uchel i fyny yn y gymuned".
"Wrach bod cymunedau yn trafeilio o gwmpas adeg hynny, dwi'm yn gwbo' llawer mwy na' hynny ar y funud, ond mae o'n edrych yn aur go bur.
"Does 'ne ddim stamp na' dim byd arni hi, ond wrach bo' nhw'm 'di dechre stampio adeg yne."

Mae Geraint Edwards yn edrych ymlaen at weld o le ddaeth yr aur
"O'dd o'n deimlad reit unigryw. De' ni 'di ffeindio trysor yn dyden. Ma' 'ne rei bobl sy' byth yn cael y cyfle i ffeindio ffasiwn beth ar eu tir.
"Felly o'dd o'n dipyn o deimlad," meddai, gan ddweud y bydd y freichled yn mynd i ffwrdd i gael ei dadansoddi.
"Fydda i'n teimlo fel 'mod i'n colli rhan ohona' i pan fydd hi'n mynd - dwi 'di mynd yn attached iddi!" meddai Geraint.

Wrth holi tybed a oes cysylltiad gyda Thref Eurych - anheddiad hynafol ym Mheniel ger Llanuwchllyn - roedd Geraint yn ansicr o ran yr ateb.
"Does wybod o le ma' hi 'di dod. Ma' Tref Eurych yn golygu gofaint aur - 'eur' am aur - dwi'n meddwl mai dyne ydy'r ystyr."
Esboniodd nad ydy Carndochan yn bell chwaith - craig lle'r oedd aur yn cael ei gloddio amdano ym Mhenantlliw.
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at weld o le ddaeth yr aur: "'Se fo'n gallu dod yn lleol, neu o Awstralia! Does wybod."

"Ma' siŵr bo' rhei pobl wedi bod wrthi ers 10 mlynedd a heb ffeindio dim byd fel hyn," medd Idris Thomas
Dywedodd Idris Thomas, a wnaeth y canfyddiad: "O'n i just yn mynd allan am y diwrnod ac 'nath y seiren fynd off ar ôl ryw 20 munud."
Disgrifiodd y darganfyddiad fel un "unwaith mewn oes".
"O'n i'n meddwl mai darn arall o tin foil oedd o i ddechre, a 'nes i just gweld fflach o aur a tyllu mwy o'i gwmpas o.
"O'n i'n hollol shocked, over the moon a ma'n anodd disgrifio'r teimlad.
"Yr unig beth dwi 'di ffeindio o' blaen ydy silver coin - o'n i byth yn disgwyl ffeindio wbeth fel 'ma - o'n i'n crynu."

Eglurodd Idris ei fod wedi bod yn sganio gyda synhwyrydd metel ers dwy flynedd bellach, a bod ei ddiddordeb wedi dechrau ar ôl gweld pobl yn gwneud ar y teledu.
"Ma' siŵr bo' rhei pobl wedi bod wrthi ers 10 mlynedd a heb ffeindio dim byd fel hyn."
Ychwanegodd Idris, o ran y camau nesaf, bod y freichled am fynd i ffwrdd i gael ei dadansoddi, i recordio'r darganfyddiad.
Aros i glywed fyddan nhw wedyn, gyda Geraint yn dweud: "Wrach na welwn ni hi fyth eto!"

Dylai aelodau o'r cyhoedd sy'n darganfod trysor posib, gysylltu gyda Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau rhanbarthol i gael cymorth i adrodd am drysor ac am gyngor pellach.
Arbenigwyr archeolegol ydy'r swyddogion, sy'n gweithio gyda'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy - sy'n cael ei redeg gan yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid adrodd darganfyddiadau o drysor posibl i'r crwner yn yr ardal y cafon nhw eu darganfod - o fewn pythefnos.
Mae unrhyw wrthrychau hynafol sy'n cael eu darganfod, ac wedi'u gwneud o fetel gwerthfawr, metelau eraill neu glai, yn eiddo i'r Goron.
Yn yr achos hwnnw mae'n rhaid adrodd y darganfyddiad. Os nad yw person yn siŵr am eitem, mae modd cysylltu gyda Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau am gyngor.
Mae pwyllgor yn cael ei gynnal i benderfynu os oes angen cadw trysor yn ddiogel neu ei roi yn ôl i'r canfyddwr.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda'r Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror

- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024
