Ysgolion Meidrim a Llangyndeyrn i gau ddiwedd y flwyddyn

Ysgol Meidrim
GanSara Dafydd
Gohebydd BBC CymruYn gohebu oCaerfyrddin
  • Cyhoeddwyd

Bydd Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn yn Sir Gâr yn cau ddiwedd y flwyddyn - dyna benderfyniad Cyngor Sir Gâr a fu'n trafod y mater ddydd Mercher.

Yn y cyfarfod cyngor llawn fe bleidleisiodd y mwyafrif o blaid cau y ddwy ysgol.

Dywedodd yr aelod cabinet dros Addysg Glynog Davies taw y bwriad yw "moderneiddio addysg" a "darparu addysg ar gyfer anghenion y dydd nid anghenion ddoe".

Esboniodd fod "nifer uchel o lefydd gwag" yn Ysgol y Fro.

Yn 2023 roedd 75 o blant yn mynd i ysgolion eraill. Does dim plant wedi cofrestru ar gyfer yr ysgol ym mis Medi eleni.

Ychwanegodd Mr Davies: "Dwi ddim yn cael pleser yn gwneud hyn, mae'n anodd. Ond mae realiti y sefyllfa yn gwneud i ni feddwl yn strategol".

meidrim

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny fod Ysgol Meidrim yn "llythrennol hanner gwag, gyda 22 o ddisgyblion yn yr ardal yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion eraill".

Dywedodd y cynghorydd dros ward Trelech, Jean Lewis, fod y corff llywodraethu wedi gweithio'n "ddiflino" i achub yr ysgol drwy gynnig opsiynau amgen i gadw'r ysgol.

Ychwanegodd mae'n "siom na chafodd yr opsiynau y cyfle hwnnw i brofi eu hyfywedd yn ymarferol".

"Mae niferoedd yr ysgol wedi aros yn sefydlog dros y blynyddoedd. Unwaith mae'r ysgol hon wedi cau, does dim troi'r cloc yn ôl," ychwanegodd.

Fe wnaeth rhai gymeradwyo'r cynghorydd wrth iddi siarad yn emosiynol gerbron y siambr yn neuadd y sir.

"Ni'n siarad yn gyson am adfywio cefn gwlad ac eto ni'n ystyried cau'r union bethau sy'n gwneud y cymunedau yn ddeniadol i fagu teulu," meddai.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Linda Evans, fod y sefyllfa ariannol "wedi adeiladu dros blynyddoedd. Dim politics yw hwn, mae'r iaith Gymraeg mor bwysig i fi ag unrhywun arall yma.

"Mae angen cau ambell i ysgol i gryfhau ysgol arall. Mae'r dyddiau lle mae ysgol ym mhob pentref yn anffodus yn dod i ben."

Disgrifiad,

'Rhagolygon yn ofidus' am addysg yn Sir Gâr

Cyn y cyfarfod dywedodd, Glyn Harbour, llywodraethwr yn Ysgol Meidrim ei fod yn poeni am yr effaith y bydd cau'r ysgol yn cael ar les plant.

Mae disgyblion Ysgol Meidrim wedi dechrau "beio'u hunen" fod yr ysgol yn debygol o gau wedi blwyddyn o ymgyrchu, meddai.

Daw'r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Gyngor Sir Gâr benderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd yn y sir.

Cytunodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg y cyngor ddydd Mawrth i argymell symud ymlaen â'r broses ar gyfer Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen.

Yn ystod y broses ymgynghori i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro cafwyd "ymateb sylweddol" gan gymunedau'r ddwy ysgol, a sawl protest tu allan i adeilad Cyngor Sir Gâr.

Yn ôl Glyn Harbour, Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Meidrim, fe wnaeth y plant "roi eu calonnau" mewn i'r ymgyrchu i gadw'r ysgol ar agor a bellach maen nhw'n "beio'u hunen".

"Maen nhw wedi canu, gwneud fideos, wedi bod tu fas i neuadd y sir.

"O'n nhw gymaint yn y broses eu hunen a phan mae pethau'n edrych yn ddrwg maen nhw'n beio'u hunen. Plant y'n nhw.

"Mae'n drist ofnadwy. Yn ddiweddar ni wedi cadw nhw mas o'r holl halibalŵ achos nhw sy'n dod gyntaf.

"O'n i'n arfer dweud 'Cofiwch Dryweryn', falle byddwn ni'n dweud Cofiwch Meidrim mewn blynyddoedd i ddod."

Ym mis Mehefin, gwrthodwyd cais am adolygiad barnwrol gan ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol Meidrim gan yr Uchel Lys.

Disgrifiad,

Bydd gan ddisgyblion Ysgol Meidrim fynediad o hyd at addysg Gymraeg.

Bydd plant yn cael eu symud i naill ai Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Gruffudd Jones.

Dadansoddiad

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

Dros y misoedd diwethaf mae sawl cymuned mewn sawl rhan o Gymru wedi mynd drwy'r boen o golli'r ysgol leol.

Mae pob sefyllfa yn wahanol ond mae na elfennau sy'n gyffredin – y mwyaf amlwg yw'r pwysau cyllidebol a gostyngiad yn nifer y disgyblion.

Dydy pryder am ddiboblogi gwledig ddim yn beth newydd ond mae nifer y plant oedran ysgol yn y boblogaeth wedi gostwng ar draws Cymru.

Ac mae disgwyl i hynny barhau - yr amcangyfrif diweddaraf yw y bydd nifer y disgyblion lawr tua 100,000 neu 23% dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod cyllid prin ddim yn ariannu llefydd gwag mewn ystafelloedd dosbarth.

Ond dadl ymgyrchwyr – yn Sir Gâr ac mewn ardaloedd eraill – yw bod yna ddewisiadau ac nad oes rhaid cau ysgolion.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig