Gwobr i 'un o leisiau newyddiadurol amlycaf Cymru wledig', Nia Thomas

Dywed Nia Thomas y bu'n "ffodus iawn" o gael holi "dwsinau o siaradwyr gwych o'r byd amaeth a chyfleu eu safbwyntiau" dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r newyddiadurwr a chyflwynydd Nia Thomas wedi ennill gwobr flynyddol am godi proffil cyhoeddus amaethyddiaeth yng Nghymru.
Mae'n derbyn Gwobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru mewn digwyddiad ar faes y Sioe Frenhinol nos Fercher.
Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: "Am ddegawdau, mae Nia wedi bod yn un o leisiau newyddiadurol amlycaf Cymru wledig, gan adrodd yn deg ac yn drylwyr ar yr heriau sy'n wynebu ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig."
Dywedodd Nia - un o gyflwynwyr rhaglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru - ei bod yn "fraint ac anrhydedd o'r mwya'" derbyn y wobr, sy'n cael ei rhoi er cof am Bob Davies o'r Trallwng, a weithiodd i gylchgrawn y Farmers Weekly am 44 mlynedd.
Mae yna wobr hefyd i Elwen Roberts - ffigwr blaenllaw yn y sector cig coch yng Nghymru yn sgil ei gwaith gyda Hybu Cig Cymru, sydd hefyd wedi rhannu ryseitiau mewn digwyddiadau cyhoeddus ac ar raglenni fel Prynhawn Da ar S4C a Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Statws sychder swyddogol 'yn bosibiliad' i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd13 awr yn ôl
Pris gwlân ar ei uchaf ers degawd - 'teimlad neis o'r diwedd'
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl
Yn ferch fferm o Lannerch-y-medd, Ynys Môn, mae Nia Thomas yn newyddiadura ers 1980 pan gafodd swydd newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda phapurau newydd yr Herald.
Ymunodd ag adran amaeth y BBC ar ddechrau'r 1990au, gan ohebu ar raglen materion gwledig S4C, Ar y Tir.
Cafodd ei phenodi'n Ohebydd Materion Gwledig BBC Cymru yn 2000, gan ohebu ar faterion fel argyfwng clwy'r traed a'r genau, protestiadau yn erbyn y ddeddf hela llwynogod, a bygythiad clefyd BSE.
Yn dilyn cyfnod o gyflwyno a gweithio mewn swyddi cynhyrchu, fe ddychwelodd at ohebu ar amaeth yn 2024 fel cyflwynydd newyddiadurol ar raglen Ffermio S4C.
'Gonest a chytbwys'
Dywedodd Nia ei bod wedi cael "coblyn o sioc a d'eud y gwir pan ges i wybod am y wobr".
"Dwi 'di bod mor freintiedig a lwcus ar hyd y blynyddoedd i holi cyfoeth o bobl o'r byd amaeth, a phobl sy'n teimlo mor gryf am ddyfodol y diwydiant.
"Dwi'n gobeithio mai fy ngwaith i ydy rhoi llwyfan i'r lleisiau yna, ond gwneud hynny mewn ffordd gytbwys a theg, a weithiau holi'r cwestiynau pigog, heriol, pan mae angen gwneud hynny."
Ychwanegodd ei bod yn "lwcus iawn o gael y cyfle i ohebu ar bynciau sydd mor agos at fy nghalon i", a hithau'n ferch fferm ei hun.
Dywedodd Ian Rickman ei bod yn "dderbynnydd teilwng iawn o'r wobr hon".
"Mae hi wedi ennill parch am ei gallu i adrodd stori yn onest a chytbwys gan roi llais i ffermwyr Cymru tra'n barod hefyd i ofyn cwestiynau anodd."

Mae Elwen Roberts wedi dod yn wyneb cyfarwydd yn dilyn blynyddoedd o rannu ryseitiau a dulliau coginio mewn digwyddiadau cyhoeddus a gweithdai
Fe gafodd y gogyddes ac ymgynghorydd bwyd o Fetws Gwerful Goch, Elwen Roberts, ei gwobrwyo hefyd yn ystod derbyniad llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar faes y sioe.
Mae'r Wobr Allanol am Wasanaethau i Amaethyddiaeth yn ei chydnabod am dros chwarter canrif o hyrwyddo amaeth a diwydiant cig coch Cymru, gan ei disgrifio fel "un o lysgenhadon cig coch mwyaf blaenllaw Cymru".
Dywed yr undeb bod ei gwaith "wedi cyrraedd pobl o bob oedran, o ddisgyblion ysgolion cynradd bach gwledig ac athrawon, i gynulleidfaoedd teledu ac ymwelwyr rhai o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf Cymru, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru".
Dywedodd Ian Rickman ei bod "trwy ei brwdfrydedd, proffesiynoldeb a gallu i ymwneud â phobl o bob oedran... wedi helpu cryfhau'r cysylltiad rhwng defnyddwyr a'r ffermwyr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
