£145m ychwanegol i leihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd - gweinidog

Dywedodd y gweinidog ei fod am fynd i'r afael â rhestrau aros hirdymor
- Cyhoeddwyd
Bydd £145m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn GIG Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae'r gweinidog iechyd Mabon ap Gwynfor yn dweud ei fod am roi diwedd ar ddull Llafur o "osod plastr ar broblem" drwy fynd i'r afael â rhestrau aros hirdymor a sicrhau diagnosis o bobl yn gyflymach.
Bydd £100m yn cael ei wario ar leihau amseroedd aros gyda £25m yn cael ei fuddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd.
Mae bron i hanner cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 yn cael ei wario ar y GIG a gofal cymdeithasol gyda Phlaid Cymru yn etifeddu cynllun gwariant Llafur Cymru.
'Yr offer diweddaraf'
Mae'r ymrwymiad o gyllid ychwanegol yn rhan o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd £20m o gyllid cyfalaf hefyd yn cael ei wario ar "gynnal a chadw hanfodol" ar draws ystad y GIG.
Er i Mabon ap Gwynfor gyfaddef ar Dros Frecwast fore Iau fod y swm o £145m yn "ymddangosiadol yn gymharol fach", dywedodd y byddai'n cael ei wario ar offer a gwasanaethau, yn hytrach na chyflogaeth - sy'n gyfrifol am hanner gwariant y GIG yn gyffredinol, meddai.
"Mae'r £145m yma'n mynd ar y gwasanaeth ei hun, da' ni'n edrych ar offer diagnostig, er enghraifft, mobile CT scanners - math yna o beth.
"Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod yr offer diweddaraf genno' ni, er mwyn i bobl gael eu gweld yn gynt," meddai.
Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
Dywedodd y gweinidog y "bydd £100m yn mynd i leihau'r arosiadau 24 mis hynny yn y tymor byr ac felly yn rhoi mwy o gapasiti yn y system fel nad ydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw eto".
Beirniadodd lywodraeth flaenorol Lafur Cymru: "Edrychodd y weinyddiaeth flaenorol ar y broblem a rhoi plastr arni. Roeddent yn canolbwyntio ar atebion tymor byr heb ddelio â phroblemau tymor hir," meddai.
"Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw buddsoddi arian yn yr ymyrraeth gynnar honno fel nad ydyn ni'n cyrraedd y sefyllfa honno eto, gan sicrhau ein bod ni'n gwella'r diagnosteg, ein bod ni'n nodi'r llwybrau hynny ac yn eu dilysu'n iawn fel bod pobl yn cael eu rhoi ar y rhestrau cywir, gan gael y driniaeth gywir yn lle aros ar restr hir am sawl blwyddyn."
'Adnabod meysydd gwag'
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys datblygu hyd at 10 canolfan lawfeddygol a diagnostig dros y pedair blynedd nesaf a dywedodd y gweinidog y byddai buddsoddi arian mewn offer fel sganwyr CT symudol yn helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor ar Dros Frecwast y byddai'r cynllun yn cael ei arwain gan glinigwyr.
"Mi fyddwn ni'n adnabod llefydd ar draws Cymru ac yn estyn allan i'r byrdde' iechyd i weld os ydyn nhw'n gallu adnabod ble sydd ganddyn nhw - unedau sy'n cael eu tanddefnyddio neu feysydd gwag."
Esboniodd y byddai'r canolfannau yn rhai arbenigol ac er y byddai pobl efallai yn gorfod teithio yn bellach i gael triniaeth, mai'r adborth gan gleifion ydy y bydden nhw'n teithio os ydyn nhw mewn poen neu'n poeni am golli eu golwg, er enghraifft.

Ni allai'r gweinidog roi sicrwydd i barafeddygon, bydwragedd a nyrsys sydd newydd gymhwyso y bydd swyddi iddyn nhw yn y GIG
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, ni allai roi sicrwydd i barafeddygon, bydwragedd a nyrsys sydd newydd gymhwyso y bydd swyddi iddyn nhw yn y GIG.
Roedd yn siarad cyn uwchgynhadledd graddedigion y GIG yng Nghaerdydd, lle y mae disgwyl i swyddogion iechyd drafod y gweithlu.
Mae rhewi recriwtio yn ddiweddar wedi arwain at barafeddygon a staff nyrsio sydd newydd gwblhau eu hyfforddiant yn cael eu gorfodi i chwilio am waith mewn llefydd eraill.
Dywedodd na ddylai graddedigion fod yn y sefyllfa honno, gan roi'r bai ar y llywodraeth Lafur flaenorol.
'Proses yn dal i fynd rhagddi'
Ond wrth gael ei holi a allai roi sicrwydd y byddai'r rhai sy'n chwilio am swyddi yn yr uwchgynhadledd honno yn gallu dod o hyd i un, dywedodd na fedrai wneud hynny.
Mae hynny oherwydd bod y "broses yn dal i fynd rhagddi", meddai.
"Ond, byddwn yn sicrhau bod y bobl yn yr uwchgynhadledd yn cydweithio i nodi cymaint o gyfleoedd â phosibl ac yna'n sicrhau nad ydym yn ein cael ein hunain yn y sefyllfa yma."

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys datblygu hyd at 10 canolfan lawfeddygol a diagnostig dros y pedair blynedd nesaf
Mae ffigyrau perfformiad diweddaraf GIG Cymru yn dangos, ar ôl 10 mis yn olynol o niferoedd yn lleihau, fod cyfanswm y nifer oedd yn aros am driniaeth wedi codi ym mis Ebrill - ychydig dros 13,000, i tua 680,000.
Roedd y llywodraeth flaenorol wedi buddsoddi £120m yn ychwanegol tan ddiwedd mis Mawrth er mwyn gostwng amseroedd aros - mae'r ffigurau yma'n dangos eu bod wedi codi'r mis canlynol.
Cododd nifer y bobl sy'n aros dwy flynedd am driniaeth hefyd yn ystod mis Ebrill, gan godi o 2,589 ym mis Mawrth i 3,694 ym mis Ebrill.
Mae'r ffigyrau yn rhoi darlun o ofal brys ym mis Mai hefyd, oedd yn cynnwys wythnosau cyntaf y llywodraeth newydd.
Hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw, dirywio a wnaeth y perfformiad yn erbyn y targedau o aros pedair awr a 12 awr mewn adrannau brys.
'Rhaid i benaethiaid gymryd rheolaeth'
Dywedodd y gweinidog iechyd hefyd fod yn rhaid i benaethiaid y GIG "gymryd rheolaeth ar unwaith" o adran achosion brys ysbyty yng ngogledd Cymru yn dilyn pryderon difrifol ynghylch diogelwch cleifion.
Mae'r uned yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych wedi'i dynodi fel un sydd angen gwelliannau sylweddol dros faterion gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethu, diwylliant a gorlenwi yn dilyn archwiliad y mis diwethaf.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor wrth y BBC ei fod yn siomedig ac yn disgwyl i benaethiaid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr weithredu.
Ychwanegodd ei fod am sicrhau pobl fod yr uned achosion brys yn ddiogel i fynychu a bod swyddogion y llywodraeth yn monitro'r sefyllfa'n "rheolaidd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.