Rhybudd bod dim swyddi ar gyfer hanner graddedigion nyrsio Cymru

Nyrsys ar ward yn edrych ar gofnodion clafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau'n amlygu prinder swyddi Band 5, sef y cyflog cychwynnol i nyrsys neu fydwragedd sydd newydd gymhwyso

GanMari Grug
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dau undeb yn rhybuddio bod yna brinder swyddi gwag i fyfyrwyr bydwreigiaeth a nyrsio a fydd yn graddio yr haf hwn.

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn disgrifio "argyfwng swyddi" tra bod Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd yn bryderus am oedi mewn cyhoeddi'r broses recriwtio a allai "arwain at lai o swyddi" gwag.

Yn ôl ffigyrau, mae prinder swyddi Band 5, sef y cyflog cychwynnol i nyrsys neu fydwragedd sydd newydd gymhwyso.

Fe ddaw yn dilyn cyngor i barafeddygon newydd symud dramor, yn sgil rhewi recriwtio yng Nghymru am eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod niferoedd y nyrsys sy'n gweithio i'r GIG "ar ei lefel uchaf erioed", sy'n "arwydd o gynnydd mewn adeiladu gweithlu mwy sefydlog".

Mae data yn awgrymu y gallai hyd at hanner holl raddedigion nyrsio Cymru gael eu gadael heb swydd pan fydd y broses recriwtio yn agor.

Sophei DoddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Dodd ei bod yn teimlo'n ansicr am y dyfodol a'u bod "yn hollol yn y tywyllwch"

Mae Sophie Dodd yn fam 31 oed o Dreorci, Rhondda Cynon Taf ac yn teimlo "ansicrwydd a straen" am ei dyfodol.

Dechreuodd Sophie ei gradd bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe dair blynedd yn ôl ar ôl cwblhau cwrs mynediad.

Mae ei gŵr wedi ei chefnogi yn ystod y cyfnod hwnnw, ac roedd y ddau dan yr argraff y byddai swydd ar gael iddi ar ôl graddio.

"Yr ansicrwydd yw e, rydyn ni i gyd yn teimlo dan straen mawr," dywedodd.

"Rydyn ni i gyd yn teimlo'n angerddol iawn am fod yn fydwragedd ac rydyn ni'n gwybod faint o angen sydd arnom ni, ond nawr dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd.

"Mae wedi bod yn gwpl o ddiwrnodau anodd iawn. Rydyn ni'n teimlo'n siomedig iawn. Rydyn ni'n hollol yn y tywyllwch."

Ychwanegodd bod shifftiau banc yn "llawer fwy anodd i'w cael".

Nyrs yn cerdded o gyfeiriad y camera ar hyd ward ysbyty, gyda nifer o gydweithwyr yn y cefndirFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn rhybuddio am "argyfwng swyddi" ac mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd hefyd yn bryderus ynghylch oedi cyn cyhoeddi'r broses recriwtio eleni

Yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys, mae'r syniad na all Cymru gynnig swyddi i nyrsys sydd newydd gymhwyso yn peri pryder mawr, yn enwedig mewn cyfnod lle mae pwysau sylweddol ar holl wasanaethau'r GIG yng Nghymru.

Gallai colli'r myfyrwyr "arwain at ansefydlogi gwasanaethau ymhellach", meddai'r undeb, gan "gynyddu'r pwysau ar staff a gwaethygu canlyniadau i gleifion".

Mae gweithio fel bydwraig "yn fwy o alwad nac o swydd", medd Sophie.

"Mae nifer enfawr o achosion cymhleth - menywod ag anghenion gwahanol ac rydym yn barod i fod wrth eu hochr a dal eu dwylo.

"Ond nawr, maen rhaid i mi feddwl am rhywbeth arall i wneud os na allai ddod o hyd i swydd."

Gostyngiad o 60%

Mae ffigyrau'n dangos bod 1,081 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer nyrsys cofrestredig, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd ym Medi 2025.

Ddwy flynedd ynghynt roedd 2,522 o swyddi gwag ar gyfer y rolau hyn.

Mae'r cyfraddau swyddi gwag uchaf ym Mhowys, sef 12% (90 o swyddi), mae cyfradd Cwm Taf Morgannwg yn 6.6% (267 o swyddi) a chyfradd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 6.3% (397 o swyddi).

Ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe roedd yna 34 o swyddi dros ben.

Beth sydd gan y pleidiau gwleidyddol i'w ddweud?

Dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod eu buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yn cyfateb i ddarparu cyfleoedd gwaith o bwys.

Ychwanegodd llefarydd bod "nifer y nyrsys sy'n gweithio yn GIG Cymru bellach ar eu lefelau uchaf sydd yn adlewyrchu ein buddsoddiad parhaus yn y gweithlu".

"Rydym hefyd yn gweld cyfraddau swyddi gwag yn gostwng a llai o ddibyniaeth ar nyrsio asiantaeth, sy'n ddangosyddion cadarnhaol o gynnydd wrth adeiladu gweithlu mwy sefydlog.

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i'r gwelliant hwn drosi'n llwybrau cyflogaeth clir ac amserol i raddedigion."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "gwbl annerbyniol" y gallai nyrsys sydd newydd gymhwyso fod heb swyddi ar adeg o bwysau dwys ar y GIG, gan honni bod hyn yn dystiolaeth o fethiant o ran cynllunio'r gweithlu.

Mae'r sefyllfa, medd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yn "fethiant anfaddeuol", ac yn dangos bod diffyg cynllunio a chyllido wedi arwain at sefyllfa lle mae staff dan bwysau a graddedigion heb waith.

Ychwanegu bod y sefyllfa'n "annerbyniol" wnaeth Reform UK Cymru, gan feirniadu'r hyn y mae'r blaid yn ei ddisgrifio fel "diffyg cynllunio priodol" ar gyfer y gweithlu iechyd.

Dywedodd Plaid Cymru fod y sefyllfa'n amlygu methiant i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer anghenion staffio'r GIG, gan alw am "strategaeth genedlaethol gynhwysfawr".

Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig