'Esgeulus' peidio paratoi'n well at effeithiau newid hinsawdd

Diffoddwyr tan yn ymateb i lifogydd yn NhrefynwyFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae newid hinsawdd yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau brys yn barod, medd yr adroddiad

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Rhaid i lywodraeth newydd Cymru wneud mwy i baratoi'r wlad rhag cyfnodau o wres eithafol, sychder a llifogydd, yn ôl y corff sy'n eu cynghori ar newid hinsawdd.

Dywedodd Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y DU fod angen mesurau oeri mewn ysbytai a chartrefi gofal, rhagor o fuddsoddiad mewn atal llifogydd a sefydlogi tomenni glo.

Rhybuddiodd Undeb y Frigâd Dan bod achosion o lifogydd a thanau gwair heriol eisoes yn rhoi pwysau aruthrol ar ddiffoddwyr, tra bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn dweud mai "esgeulusdod ar raddfa eang" fyddai peidio paratoi'n well ar gyfer tywydd eithafol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella parodrwydd ein cenedl ar gyfer effeithiau newid hinsawdd".

Cronfa ger Aberhonddu yn ystod sychder 2022Ffynhonnell y llun, Carl Court/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sychodd cronfeydd dŵr yn ystod cyfnod hir o dywydd poeth yn 2022

Fe brofodd Gymru ei haf poethaf ar gofnod yn 2025, ar ôl gweld y diwrnod poethaf ar gofnod 'nôl yn 2022 - pan gyrhaeddodd hi 37.1 gradd ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.

Mae pob un o'r 10 mlynedd cynhesaf ar gofnod wedi bod ers dechrau'r 2000au.

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd hafau poethach yn dod yn fwy arferol, tra bydd hi'n gyffredin i gyfnodau estynedig o dywydd cynnes iawn, neu heatwaves, bara am o leiaf wythnos erbyn canol y ganrif.

Oni bai bod mwy yn cael ei wneud i warchod pobl fregus, bydd marwolaethau gormodol o ganlyniad i wres yn cynyddu o 1,400-3,000 y flwyddyn ar hyn o bryd ar draws y DU, i 3,000-10,000 erbyn 2050.

Petai'r byd yn methu â chyfyngu ar gynhesu byd eang drwy dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae disgwyl i'r ffigyrau gynyddu'n ddramatig.

Gyda 4 gradd o gynhesu byd eang erbyn 2100, mi allai fod yna hyd at 18,000 o farwolaethau'n gysylltiedig â gwres ar draws y DU yn flynyddol, gyda rhannau o Gymru yn dod yn addas ar gyfer mosgitos all ledu afiechydon.

Mae yna alw am osod mesurau oeri mewn ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion - o systemau awyru i ddefnyddio caeadau, llenni tywyll a phlannu coed er mwyn daparu cysgod.

Mae'r adroddiad yn galw hefyd ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i "uchafswm tymheredd cenedlaethol ar gyfer safleoedd gwaith" - er mwyn gwarchod diogelwch gweithwyr ac annog darpariaeth mwy o fesurau oeri.

Sandra Evans, rheolwraig cartef Bryn Seiont Newydd, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Gall fod yn anodd iawn i breswylwyr a staff cartrefi gofal yn ystod tywydd poeth, medd Sandra Evans

Yng nghartref gofal Bryn Seiont Newydd, Caernarfon mae'r rheolwraig Sandra Evans yn dweud eu bod "yn ffodus iawn mae gynnon ni air conditioning unit yn y lounges so 'di o ddim mor ddrwg ar y residents".

"Ond dwi yn gwybod mewn cartrefi eraill dydyn nhw ddim mor ffodus i gael yr unedau yma - a dwi'n gwybod 'sa fo'n costio ffortiwn 'sa hyn yn rhywbeth sa'r cartrefi gyd yn gorfod cael," meddai.

"Mae'n gallu bod yn ofnadwy o stressful," yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd poeth eithafol a "phobl yn gallu mynd yn irritable," eglurodd.

"'Da ni'n trio cadw'r morâl yn uchel, cau'r blinds, ice creams ac ati".

Preswylydd cartref gofal yn eistedd mewn cadair olwyn ac yn dal cwpan plastig o ddwrFfynhonnell y llun, AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid blaenoriaethu ffyrdd o oeri cartrefi gofal ac ysbytai, medd yr adroddiad

Mae llifogydd yn cael eu nodi fel bygythiad arall mawr i Gymru, lle mae 245,000 o eiddo mewn perygl yn barod o ganlyniad i law eithafol yn y gaeaf a lefelau'r môr yn codi.

Mae llithriadau o dommeni glo yn cael eu crybwyll hefyd, er bod yr adroddiad yn canmol ymdrechion diweddar yng Nghymru i sefydlu cofrestr o hen domenni ac awdurdod newydd i oruchwylio'r gwaith o'u diogelu.

Bydd cyfuniad o sychder a thywydd gwlyb eithafol yn gwneud bywyd yn anos i ffermwyr, gan amharu ar gynhyrchu bwyd, tra bod tymhorau tanau gwair Cymru yn debygol o bara'n hirach a dod yn fwy heriol.

Diffoddwyr tân 'ar y rheng flaen'

Mae'r sefyllfa'n mynd i olygu pwysau ychwanegol ar wasanaethau brys fel criwiau tân, meddai'r adroddiad.

Dywedodd Sion Slaymaker, pennaeth corfforaethol ymateb brys i Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru fod newid hinsawdd "eisoes yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith".

"Mae natur y digwyddiadau [llifogydd a thanau gwyllt] yn lot mwy difrifol na mae wedi bod, yn effeithio ardaloedd lot mwy eang ac yn golygu bod angen i ni ddefnyddio mwy o adnoddau nac yn y gorffennol," meddai.

"Mae'n bryder gwirioneddol i ni - y'n ni'n ymwybodol bod y galw ar ein gwasanaethau yn debygol o gynyddu ymhellach os na fydd camau yn cael eu cymryd a dwi'n credu bod gan bawb ran i'w chwarae yn hynny i leihau effaith newid hinsawdd ac i addasu."

Disgrifio diffoddwyr tân fel gweithwyr "ar rheng flaen yr argyfwng newid hinsawdd" wnaeth Gareth Tovey o Undeb y Frigad Dân, gan alw am ragor o fuddsoddiad i helpu'r gwasanaethau i ymateb.

Shea Buckland-Jones o WWF Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyw paratoadau Cymru hyd yma ar gyfer newid hinsawdd "ddim yn addas i bwrpas" yn ôl Shea Buckland-Jones o WWF Cymru

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Derek Walker nad oedd Cymru'n paratoi'n ddigonol at effeithiau newid hinsawdd.

"Byddai'n esgeulusdod ar raddfa eang i barhau i anwybyddu'r angen i baratoi rhag y storm tra bod gennym ni gyfle," meddai.

Yn ôl Shea Buckland-Jones o WWF Cymru mae yna "gyfle allweddol" i lywodraeth newydd Cymru "flaenoriaethu gweithredu ar yr hinsawdd a natur" yn ystod eu can diwrnod cyntaf.

"Mae'r adroddiad yn gwneud yn glir nad yw cynlluniau presennol Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn addas i bwrpas," meddai.

'Neges o obaith'

Mae adroddiad diweddara'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn diweddaru'r wybodaeth a'r cyngor a ddaparwyd ddiwethaf bum mlynedd yn ôl, ynglyn â sut y bydd cynhesu byd eang yn effeithio ar y DU.

Mae'n cael ei ddefnyddio i lunio asesiadau risg a chynlluniau addasu gan wahanol lywodraethau'r DU.

Dywedodd y Farwnes Brown, cadeirydd pwyllgor addasu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, fod "ein bywydau, ein tirweddau a'n cartrefi dan bwysau cynyddol o'r newid yn yr hinsawdd".

Ond mynnodd bod gan yr adroddiad newydd "neges o obaith".

"Mae'r atebion yn bodoli, a thechnolegau sydd wedi'u profi ar gael nawr i helpu'r DU i addasu yn effeithiol. Gyda'r penderfyniadau a'r gweithrediadau cywir, gallwn ni warchod pobl a'r llefydd ry'n ni'n eu caru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn "rhoi cyngor clir ar y risgiau a'r cyfleoedd sy'n deillio o'n hinsawdd sy'n newid a'r camau mae angen i ni gymryd i addasu".

"Rydym yn croesawu ei neges bod yn rhaid i ni fod yn obeithiol a sylweddoli manteision gweithredu er gwaethaf yr heriau difrifol sydd o'n blaenau.

"Rydym wedi ymrwymo i wella parodrwydd ein cenedl ar gyfer effeithiau hinsawdd ac yn gwybod, drwy weithredu nawr, y gallwn adeiladu dyfodol teg a gwydn o ran hinsawdd i Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.