Llawfeddyg Ysbyty Gwynedd wedi tynnu rhan anghywir o goluddyn claf

Roedd y llawfeddyg wedi tybio bod marc gweladwy ar gorff y claf yn nodi safle tiwmor
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth llawfeddyg dynnu rhan anghywir o goluddyn claf canser yn ystod llawdriniaeth, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'n un o 10 "digwyddiad byth", neu never event, yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl adroddiad ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae pump ohonyn nhw wedi'u rhestru fel llawdriniaethau "safle anghywir", gyda dau yn ymwneud â mewnblaniadau anghywir, dau yn ymwneud â gwrthrychau fel swabiau yn cael eu gadael y tu mewn i gleifion, ac mae un yn ymwneud â rhoi meddyginiaeth trwy'r llwybr anghywir.
Mewn un o'r achosion, fe wnaeth llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor gynnal llawdriniaeth ar ran anghywir o gorff y claf ar ôl tybio fod marc gweladwy yn nodi safle tiwmor.
"Fe wnaeth hyn arwain at y llawfeddyg yn tynnu darn o'r coluddyn lle doedd dim canser," meddai'r adroddiad.
Ers hynny mae'r claf wedi cael ymchwiliadau pellach i baratoi ar gyfer rhagor o lawdriniaeth.
Cyn-chwaraewr rygbi Cymru'n dal ei galon yn ei ddwylo ar ôl trawsblaniad
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Gwario £120m ar restrau aros mewn ffordd mwy 'cynaliadwy' - gweinidog iechyd
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Bwrdd iechyd heb wirio'n iawn cyn rhoi cytundeb £10m i reoli meddygfeydd
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Fe wnaeth claf yn Ysbyty Maelor Wrecsam fynychu clinig dermatoleg un stop, ar ôl cael ei atgyfeirio trwy'r Llwybr Brys Lle'r Amheuir Canser, a chafodd driniaeth cryotherapi lle mae celloedd canser yn cael triniaeth oerfel eithafol.
Roedd y claf wedi'i restru ar gyfer llawdriniaeth arall yr un diwrnod a cafodd yr ardal anghywir o'i gorff ei drin ac roedd rhaid iddyn nhw dderbyn llawdriniaeth bellach yr un diwrnod.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau, meddai'r adroddiad, sydd i fod i gael ei ystyried mewn cyfarfod ddydd Iau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.