Llwyddiant i fam o Wynedd yn ei phasiant cyntaf, wedi degawd tu ôl i'r llen

- Cyhoeddwyd
Mae mam o Wynedd yn dathlu ar ôl ennill pasiant ar ei chynnig cyntaf, a hynny ar ôl dros ddegawd o wneud y gwaith y tu ôl i'r llenni.
Mae Gemma Pritchard wedi hyfforddi ei merched i gystadlu mewn pasiantau ers 11 mlynedd, ond doedd hi erioed wedi camu i'r llwyfan ei hun.
O ddydd i ddydd mae Gemma, 45, o Lanrug yn hyfforddwr crefft ymladd (martial arts) ac yn "gwisgo trackies a trainers," ond meddyliodd "pam ddim rhoi ychydig o golur ar am unwaith?"
Mae wrth ei bodd â'r byd pasiantau harddwch ac mae wedi hyfforddi ei merched Efa-Hâf ac Erin, sydd nawr yn 17 ac 18 oed, ers oedden nhw'n 6 a 7 gan gael tipyn o lwyddiant.
"Dwi bob tro wedi gadael o i'r plant ond mae o, os rhywbeth, i genod hŷn," meddai a "dwi ddim yn cael dim ieuengach felly neshi feddwl - a'i amdani!"
Er mawr syndod iddi, enillodd ei chategori Mrs Galaxy UK ym mis Mawrth yn Chorley, gogledd orllewin Lloegr.

Fel arfer mae Gemma i'w gweld yn y gym, lle mae ganddi felt du ar gyfer Karate a Chic-focsio a belt glas yn Jiu Jitsu
"Doeddwn i ddim yn disgwyl curo o gwbl," meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n nerfus iawn.
Er mwyn ennill Mrs Galaxy UK mae'n rhaid eich bod yn 18 neu'n hŷn ac yn briod.
Dywedodd: "Mae wedi gwneud lot i fy hyder i mae hynny'n bendant.
"Mae lot yn credu mai dim ond rhywbeth ar gyfer pobl ifanc yw pasiant harddwch ond tydi hynny ddim yn wir.
"Un o'r prif resymau pam wnes i signio fyny oedd ar gyfer fy hunan hyder."
- Ffynhonnell y llun, Brian Hayes

1 o 3
Mae Gemma yn mwynhau cystadlu ond fel arfer matiau mewn campfa yw ei llwyfan. Mae ganddi felt du ar gyfer Karate a Chic-focsio, yn ogystal â belt glas yn y gamp Jiu Jitsu.
Erbyn hyn, mae'n hyfforddwr crefft ymladd yn ei hacademi ei hun ond gan ei bod yn "gwneud y gwaith tu ôl y llenni'n casglu arian i elusennau [yn rhan o'r pasiant], neshi feddwl 'pam ddim?'"
Cystadlu yn y Bahamas nesaf
Nawr mi fydd Gemma, Mrs Galaxy UK, a'r UK Galaxy Queens eraill i gyd yn teithio i'r Bahamas ym mis Awst ar gyfer y Galaxy International Pageant.
"Mae'r ddwy ferch wedi bod yn Galaxy Queens," esboniodd a nawr "dwi 'di gwneud achievement fi fy hun...
"Ond, who knows blwyddyn nesaf, efallai bydd yna rhywbeth yndda i sydd eisiau cadw'r teitl.
"Cawn weld sut hwyl gawni yn y Bahamas!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019

- Cyhoeddwyd26 Medi 2018


