'Dwi ddim am wahardd ffonau o'r ysgol, rhaid i blant ddysgu bod yn gyfrifol'

Menyw gyda gwallt hir tywyll syth a sbectol yn gwisgo siaced ddu a ffrog ddu a gwyn. Mae'n sefyll o flaen adeilad ysgol gyda'r gair 'Croeso' arno.
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw osgoi "gwrthdaro" gyda disgyblion dros ffonau, meddai pennaeth Ysgol Glan Clwyd

GanBethan LewisGohebydd Addysg a TheuluaSiwan RichardsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gyda nifer cynyddol o ysgolion wedi gwahardd ffonau'n gyfan gwbl yn ystod y diwrnod ysgol, mae pennaeth un ysgol yn y gogledd yn cydnabod bod eu polisi yn fwy "rhyddfrydol'' nag eraill.

Mae disgyblion yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, Sir Ddinbych yn gallu defnyddio eu dyfeisiau amser egwyl a chinio.

Ond yn dilyn ymgynghoriad gyda staff, rhieni a disgyblion yn 2024 mae rheolau a chanlyniadau cliriach os ydyn nhw'n cael eu gweld yn ystod gwersi.

"Yr annibynniaeth yna, y cyfrifoldeb – dyna 'da ni'n trio'i feithrin yn yr ysgol hon", meddai'r pennaeth, Sian Alwen.

Fe wnaeth BBC Cymru holi holl ysgolion uwchradd a phob oed Cymru am eu hagwedd at ffonau symudol, ac mae bron i hanner wedi ymateb.

Fe wnaeth y mwyafrif nodi manteision sylweddol i wahardd ffonau ond roedd yna rai pryderon am wrthdaro gyda disgyblion neu ddiffyg cefnogaeth gan rai rhieni.

Roedd dwsinau o ysgolion am weld polisi Cymru-gyfan ar y defnydd o ffonau symudol.

Disgrifiad,

Agwedd Ysgol Glan Clwyd at ffonau symudol yn dangos "parch ddwy ffordd"

Dywedodd Sian Alwen ei bod wedi ail-edrych ar bolisi Ysgol Glan Clwyd ddwy flynedd yn ôl, ar ôl i staff fynegi pryder am broblemau gyda ffonau symudol mewn gwersi.

"Fel pennaeth, o'n i'n gyndyn iawn i fynd lawr y trywdd o ddileu ffonau symudol yn llwyr yn yr ysgol ac felly wnes i gydweithio efo staff, rhieni, llais y disgyblion i sicrhau mewn gwirionedd bod llais pob un o'r rhanddeiliad yn cael eu clywed", meddai.

"Be' oedden ni fel cymuned isio oedd yn bwysig a beth ddeth allan o'r ymgynhoriad hwnnw oedd ein bod ni'n credu y dylai'n disgyblion ni fod yn annibynnol, yn gallu defnyddio ffonau yn gyfrifol."

Dywedodd ei bod yn ymwybodol iawn o beryglon ffonau ond bod angen "y sgiliau yna i wybod pryd mae defnyddio ffôn... a sut i ddefnyddio ffôn yn gyfrifol".

Os yw rheolau'n cael eu torri, mae 'na broses glir, meddai.

"Mae pobl ifanc fa'ma yn gwybod bod 'na ganlyniad, mae staff yn gyson yn defnyddio'r polisi."

Tair disgybl yn eistedd o amgylch bwrdd mewn gwisg ysgol glas tywyll yn edrych ar eu ffonau
Disgrifiad o’r llun,

Yn Ysgol Glan Clwyd, mae ffonau'n cael eu caniatáu amser egwyl a chinio ond ddim ar y coridorau na mewn gwersi

Mae nifer o'r disgyblion yn meddwl bod y polisi'n gweithio'n dda.

"'Da ni wedi cyfarfod yn y canol really rhwng pawb", meddai Awel.

"Dwi'n credu fod hynny'n gweithio'n well na blanket ban fel mae nhw'n galw fo."

Dywedodd Mabon bod caniatáu ffonau ar adegau "yn rhyw fath o barch dwy ffordd".

Yn ôl Tomos mae pawb yn glir am ganlyniadau cael eich dal gyda ffôn mewn gwers.

"Mae'n cael ei gymryd i'r swyddfa a wedyn ar ddiwedd y dydd da chi'n eu casglu a dwi'n meddwl mae'r rhan fwyaf o'r plant yn dilyn hwn."

Dydy Tomos ddim yn credu byddai polisi llymach yn gweithio yn eu hysgol nhw "oherwydd fasa llawer o ddisgyblion yn taro nôl a bydd na lawer o anghytundeb efo'r rheolau."

Mae yna ychydig yn fwy o ryddid i ddisgyblion y chweched, fel Emyr, i ddefnyddio eu ffonau.

"Mae 'na lot o amseroedd 'da ni angen iwsio ffonau i dynnu lluniau o waith cartre' i yrru o at athrawon a ballu.

"Dwi'n meddwl bod o'n handi bod ni'n cael y rhyddid yma", meddai.

Dywedodd 83 o'r 95 ysgol wnaeth ymateb i gwestiynau BBC Cymru nad oedd ffonau'n cael eu caniatáu yn ystod y diwrnod ysgol.

Roedd y rhan fwyaf yn dweud bod yn rhaid cadw ffonau mewn bagiau disgyblion drwy'r dydd, ond roedd gan rai systemau arbennig fel bagiau magnetig i gadw dyfeisiau ac ambell un yn gofyn i ddisgyblion roi ffonau i staff ar ddechrau'r diwrnod.

Roedd12 o'r 95 yn caniatáu defnyddio ffonau yn ystod amser egwyl a chinio.

Dywedodd dros hanner yr ysgolion wnaeth ymateb eu bod wedi newid eu polisïau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r rhan fwyaf wedi symud at gyfyngiadau llymach.

Yn gyffredinol roedd yna sylwadau cadarnhaol gan nodi bod disgyblion yn cymdeithasu'n well a bod ymddygiad wedi gwella.

Bag arbennig ar cyfer cadw ffonau yn cael ei rhoi gan ddisgybl ar declyn ar y wal gyda magnet i agor y sach
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd sawl ysgol eu bod yn defnyddio bagiau magnetig i gadw ffonau sy'n cael eu cloi yn y bore a'u hagor gyda dyfais arbennig ar ddiwedd y dydd

Ysgol Aberconwy yng Nghonwy oedd y cyntaf yng Nghymru, ym Medi 2023, i gyflwyno system o fagiau magnetig i gadw ffonau.

Yn ôl y pennaeth cynorthwyol Medwen Brookes, cafodd y polisi ei gyflwyno oherwydd y pryderon am gymaint roedd plant ar eu ffonau ar ôl pandemig Covid-19.

Roedd yna fisoedd o baratoi disgyblion a rhieni o flaen llaw, a'r broses yn "reit esmwyth" sydd wedi bod "yn newid positif ofnadwy i'r ysgol", meddai.

"Mae o 'di newid ffordd maen nhw'n cymdeithasu hefo'i gilydd yn bendant ac yn bendant wedi 'neud gwahaniaeth o ran disgyblaeth yn yr ysgol – o'dd pethau'n mynd chydig bach allan o reolaeth weithau efo ffraeo drwy'r ffôn."

Fe benderfynon nhw gyflwyno'r drefn bagiau magnetig - er bod na gost o "rai miloedd" gan bod y ffonau wedi cloi yn hytrach na mewn bagiau ysgol.

Mantais arall oedd bod y disgyblion yn gyfrifol amdanynt, yn hytrach na'u bod yn cael eu rhoi i'r staff ar ddechrau'r dydd.

Mwy o sgwrsio, llai o fwlio

I rai plant sydd â phroblemau iechyd fel diabetes neu gorbryder, mae yna addasiadau gyda nifer fach o fagiau'n cael eu cau gyda velcro yn hytrach na magned.

Mae gan Arwen, 15, deimladau cymysg gan ei bod nawr yn "siarad gyda fy ffrindiau mwy a mae na ddim lot o fwlio yn fy marn i".

"Ond dwi eisiau fy ffôn weithiau achos dwi eisiau tynnu llun efo fy ffrindiau, cael hwyl a chwarae gemau neu gwylio TikTok."

"Dwi'n hoffi fo", meddai Tomos, 13.

"Dwi'n teimlo'n fwy saff achos dydy pobl ddim yn gallu tynnu lluniau ohonach chi a fideo o chi heb chi gwbod. A dwi'n teimlo mae pawb mwy yn siarad efo'i gilydd."

Ac mae Aurora, 16, yn cytuno bod "dim lot o fwlio rŵan".

Tri disgybl - dwy ferch a bachgen yn y canol - mewn gwisg ysgol gyda siwmperi glas tywyll yn eistedd nesaf at ei gilydd mewn neuadd ysgol gyda rhesi o gadeiriau glas tu ol iddyn nhw
Disgrifiad o’r llun,

Un newid positif yw peidio gorfod poeni am gyd-ddisgyblion yn tynnu llun neu ffilmio, meddai'r disgyblion yma

Ond mae plismona polisi ffonau symudol yn gallu bod yn heriol, meddai prifathro ysgol yn Ynys Môn.

Dywedodd pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi, Adam Williams, fod "safbwyntiau cymysg" gan rieni, disgyblion a staff mewn ymgynghoriad ddwy flynedd yn ôl.

Roedd yr ysgol wedi gwyrdroi polisi'n gwahardd ffonau rhai blynyddoedd ynghynt.

Dydy ffonau ddim bellach yn cael eu caniatáu mewn gwersi, ond maen nhw'n cael eu defnyddio adeg egwyl.

Mae'n dweud bod y gefnogaeth gan rieni yn "gymysg iawn".

"Dydyn ni ddim wastad yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen pan ddaw hi at gyfyngu neu wahardd ffonau", meddai Adam Williams, "ac yn onest, mae hyn yn gallu creu mwy o wrthdaro rhwng y cartref a'r ysgol nag sydd ei angen."

"Er bod polisi llym ar bapur yn apelio, mae'r realiti o'i weithredu yn gallu bod yn lot mwy trafferthus."

Dywedodd bod rhai ysgolion "yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd uchel" yn poeni am effaith gwaharddiad llwyr ac y gallai arwain at "ragor o wrthdaro, mwy o sancsiynau, a hyd yn oed mwy o waharddiadau".

"Mewn cyfnod lle mae agweddau at addysg a phresenoldeb da eisoes yn fregus, mae hynny'n risg go iawn", ychwanegodd.

Plentyn ifanc ar ffônFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth BBC Cymru ofyn i ysgolion am agweddau eraill o'u polisïau, ac roedd gan nifer reolau gwahanol, mwy llac, i fyfyrwyr chweched dosbarth.

Dywedodd ychydig o ysgolion eu bod yn caniatáu defnyddio ffonau mewn gwersi am dasgau penodol, er enghraifft tynnu lluniau mewn gwresi ffotograffiaeth.

Dywedodd bron pob ysgol nad oedd yr awdurdod lleol yn gosod polisi ar draws y sir, er bod gan Gyngor Sir Caerfyrddin bolisi 'ffonau o'r golwg yn yr ysgol', dolen allanol sy'n gwahardd ffonau i flynyddoedd saith i 11.

Dywedodd 71 o'r 95 ysgol wnaeth ymateb eu bod o blaid polisi unffurf gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth y llywodraeth agor arolwg cenedlaethol ar ddefnydd ffonau fis diwethaf, gyda'r nod o gynnal ymgynghoriad a chyhoeddi chanllaw ar ôl yr etholiad.

Beth mae'r pleidiau gwleidyddol yn dweud?

Dywedodd Plaid Cymru bod yna dystiolaeth gynyddol yn dangos fod "niwed ffonau clyfar i blant a phobl ifanc yn gorbwyso eu manteision".

"Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn cyflwyno cynlluniau i rymuso awdurdodau lleol i hyrwyddo diogelwch, dysgu a lles myfyrwyr drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion ar gyfer pobl dan 16 oed."

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eu bod yn cefnogi "dull clir, Cymru gyfan, o gyfyngu ar ddefnyddio ffonau clyfar mewn ysgolion, gan gynnwys gwaharddiad cyfreithiol yn ystod y diwrnod ysgol".

Materion i ysgolion unigol yw penderfyniadau ynghylch defnyddio ffonau, yn ôl Llafur Cymru.

"Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i godi safonau mewn ysgolion ledled Cymru ac wedi cefnogi unrhyw ysgol sy'n ceisio cyflwyno polisi sy'n cyfyngu ar ddefnyddio ffonau symudol, gan ddiogelu dysgwyr a gwella eu hymgysylltiad mewn gwersi", meddai llefarydd.

Mae ffonau yn "tanseilio dysgu", yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

"Dyna pam y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwahardd ffonau o ystafelloedd dosbarth, gyda eithriadau synhwyrol ar gyfer disgyblion gydag anghenion meddygol", dywedodd llefarydd.

Dywedodd Reform UK y byddai'n gwahardd ffonau mewn ysgolion ac mae Plaid Werdd Cymru am weld ysgolion yn amgylcheddau heb ffonau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.