'Rhaid helpu mentrau fel Y Tŵr neu bydd heriau dyfnach i ddod'

Y Twr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp sy'n datblygu'r Tŵr yn dweud y bydd yn "werthfawr tu hwnt" i bobl yr ardal ac ymwelwyr

GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae grwpiau cymunedol sy'n camu i'r bwlch wrth i wasanaethau cyhoeddus leihau angen rhagor o gymorth gan lywodraeth nesaf Cymru, yn ôl grŵp arbenigol.

Mae'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) yn dweud bod grwpiau cymunedol yn gynyddol yn gyfrifol am gyfleusterau a gwasanaethau lleol, ond yn aml yn teimlo nad yw eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ddigon.

Rhaid "buddsoddi mewn gweithredu cymunedol nawr, neu wynebu costau uwch a heriau dyfnach yn y dyfodol," meddai BCT.

Yn ôl cadeirydd un cynllun o'r fath, Menter y Tŵr ym Mhwllheli, mae hi wedi rhoi "oriau o waith" i'r cynllun am ei bod yn teimlo mor gryf dros bwysigrwydd yr adeilad.

Mae BCT yn pwysleisio bod angen cefnogaeth ar y grwpiau yma, fel "nad yw'r sefydliadau cymunedol hyn yn cael eu gorweithio, a'u gwthio i'r pwynt o chwalu".

Grwpiau'n cael eu 'cymryd yn ganiataol'

Mae BCT yn ariannu a chefnogi gwaith cymunedol ledled Cymru - grwpiau sy'n aml yn cynnig gweithgareddau, cefnogaeth a chymorth.

Ond yn rhy aml mae'r grwpiau yma'n teimlo bod eu gwaith yn ymylol i bolisi cyhoeddus a chynllunio gwasanaethau lles, yn ôl Chris Johnes, Prif Weithredwr BCT.

"Mae teimlad cryf ymhlith grwpiau cymunedol bod eu rôl yn cael ei gymryd yn ganiataol i raddau helaeth gan wleidyddion, a bydd llawer yn teimlo bod y diffyg cydnabyddiaeth o bwysigrwydd gwaith cymunedol ar draws maniffesto pob un o'r prif bleidiau yn adlewyrchu hynny," meddai.

Carys Y Twr
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Carys Owen ydy y bydd rhagor o fusnesau yn dod i'r ardal os yw'r Tŵr yn llwyddo

Ym Mhwllheli mae grŵp lleol wedi cychwyn ar fenter uchelgeisiol i weddnewid hen westy gwag yng nghanol y dref yn "ganolfan gymunedol fywiog".

Mae'r Tŵr yn adeilad trawiadol ar y stryd fawr, ac mae ar fin agor pennod newydd yn ei hanes ar ôl i bobl leol godi'r blaendal o £60,000 i brynu'r adeilad mewn cwta 24 awr yn 2022.

Erbyn Tachwedd 2023 roedd y gymuned wedi buddsoddi dros £500,000 mewn cyfranddaliadau er mwyn prynu'r Tŵr.

Un sydd ynghlwm â'r fenter yw'r cadeirydd Carys Owen: "Dwi'n ddifrifol o passionate am y prosiect a dwi 'di rhoi oriau o waith iddo.

"Mae'n bwysig i'r dre'. Da ni angen ailddefnyddio hwn i fod yn adeilad y bydd pobl yn gallu ei ddefnyddio fo a'i fwynhau o.

"Gobeithio wedyn daw busnesau eraill yn ei sgil o a bydd yn cael knock on effect."

Twr cyn gwaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith sylweddol wedi digwydd i'r Tŵr ers i'r gymuned gymryd rheolaeth

Dechreuodd y gwaith adnewyddu yn Rhagfyr 2024, oedd yn cynnwys tynnu ac adnewyddu'r to, simneiau a ffenestri, a rhoi cot o baent ffres i'r adeilad gyda help grantiau.

Y bwriad yw creu "canolbwynt cymunedol bywiog".

Mae Tudur Williams yn byw yn lleol, ac er bod "pethe yn mynd 'mlaen eisoes ym Mhwllheli fel y clwb ffwtbol a rygbi", dywedodd bod y Tŵr "wedi rhoi math o ffocws i hyn i gyd o ran adeilad gweledol mae pobl yn adnabod".

"Hwn 'di'r adeilad mwya' ar stryd fawr Pwllheli felly mae mor bwysig fod hwn ddim yn troi yn un arall o'r adeiladau mawr yma sydd just yn pydru."

Mae hen hanes i'r adeilad fu'n westy, ac mae gan nifer o bobl y dref straeon personol am eu cysylltiad â'r Tŵr.

Mae Robin Rhys yn gwirfoddoli yn y caffi trwsio unwaith y mis ac yn cofio ei fam yn sôn am ddod yma ar gyfer dathliadau teuluol.

Robin Y Twr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robin Rhys bod gan lawer o bobl gysylltiad gyda'r adeilad

"Dwi'n licio hanes y Tŵr, dwi'n cofio Mam yn sôn iddi hi gael ei pharti pen-blwydd 21 fan hyn," meddai.

"Felly mae gen i linc bersonol â'r adeilad yma. Mae'n rhan o hanes Pwllheli a Phen Llŷn."

Yn ôl Dyddgu Mair Williams, swyddog datblygu gyda'r fenter, fe fydd y ganolfan yn "werthfawr tu hwnt" i bobl yr ardal a hefyd ymwelwyr.

"Mae o'n allwedd i Benrhyn Llŷn i bobl leol, ac i bobl sy' ar eu gwyliau er mwyn iddyn nhw ddeall am ein hanes ein hiaith a'n treftadaeth," meddai.

Roedd Keith Webster - sy'n wreiddiol o Sir Efrog - yn helpu gyda grŵp theatr cymunedol yno, ond ag yntau bellach yn byw ym Mhwllheli, fe ymunodd â Menter Y Tŵr fel cyfarwyddwr.

"Mae mentrau cymunedol yn holl bwysig, 'da chi'n cael y teimlad eich bod chi yn g'neud rhywbeth fydd yn helpu'r gymuned gyfan a dod â phawb at ei gilydd," meddai.

'Cefnogaeth yn allweddol'

Fe fydd gwirfoddolwyr Y Tŵr yn cyflwyno ceisiadau llawn am gyllid yr haf yma er mwyn symud y prosiect ymlaen a'u galluogi i greu "cyrchfan fywiog a chynaliadwy" i'r gymuned.

I Chris Johnes o BCT, "cryfder mawr sefydliadau cymunedol yw bod y rhan fwyaf ohonynt yn mwynhau ymddiriedaeth a hygrededd yng ngolwg pobl leol".

"Yn aml iawn, mae mannau a redir gan y gymuned yn lleoedd lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, a nhw yw'r lle cyntaf y mae llawer yn mynd iddo pan fyddant angen cymorth."

Ond mae hefyd yn pwysleisio bod cefnogaeth ariannol yn allweddol i'w llwyddiant.

Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd mae BCT yn dweud bod angen "buddsoddi a chefnogaeth i wneud yn siŵr nad yw'r sefydliadau cymunedol hyn yn cael eu gorweithio, a'u gwthio i'r pwynt o chwalu."

Beth yw ymateb y pleidiau?

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol bod cymunedau'n aml "yn cael eu dal yn ôl rhag cymryd rheolaeth o'r asedau lleol sydd yn gallu trawsnewid ardal".

Ychwanegodd bod gan y blaid addewid "i gryfhau hawl cymunedau i brynu adnoddau lleol ac i ddysgu oddi wrth gynllun llwyddiannus yn yr Alban er mwyn rhoi gwir gyfle i ardal i brynu a diogelu adeiladau a darnau o dir".

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn "cydnabod cyfraniad pwysig" sefydliadau cymunedol i "sicrhau fod adeiladau hanesyddol a chymunedol yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor".

Ychwanegodd eu bod wedi "ymrwymo i gefnogi cymunedau cryfach" gan gyflwyno Cronfa Perchnogaeth Gymunedol i helpu achub asedau lleol gwerthfawr... yn enwedig lle mae 'na berygl iddynt gau".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform: "Fe fyddwn yn ymgysylltu â sefydliadau fel yma fel rydyn ni eisoes wedi bod yn gwneud ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnal cymeriad a threftadaeth cymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Llafur Cymru bod "cymunedau wrth galon" eu gweledigaeth i Gymru, a'u bod wedi "addo creu deddf Hawl Cymuned i Brynu, er mwyn galluogi pobl i gadw eu lleoliadau arbennig ar gyfer y gymuned".

Mae Plaid Cymru hefyd yn addo cyflwyno hawl gymunedol i brynu asedau er mwyn "cefnogi cymunedau i gymryd eu dyfodol economaidd i'w dwylo eu hunain i hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol a mynd i'r afael â phroblemau lleol, drwy gadw cyfoeth yn ein pentrefi, trefi a dinasoedd".

Mae'r Blaid Werdd hefyd yn addo sefydlu'r hawl i gymunedau brynu adeiladau gwerthfawr er mwyn "dod â nhw yn ôl i berchnogaeth y gymuned er mwyn y gymuned", meddai llefarydd.

Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr yn yr etholaeth hon ar gael yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.